d.j.williams
  • Cartref
    • Darn o'r Rhagymadrodd
  • Cronoleg
    • Cronoleg 1885-1924
    • Crnoleg 1925-1949
    • Cronoleg 1950 ymlaen
  • Trafod Testunau
    • Tair Stori
    • Cyfarch D. J. >
      • Straeon Cynnar
    • Hen Wynebau
    • D.J., Dan Amor a Fi
    • D. J. y Darlledwr
    • Ailgodi'r tŷ: D. J. a Waldo
    • Gwaith a Gweledigaeth D. J. Williams
  • Llyfryddiaethau a Mynegeion
    • Cyhoeddiadau D. J.
    • Llyfryddiaeth
    • Mynegai i Bobl: Hen Wynebau, Hen Dŷ Ffarm,
  • Gohebiaethau
  • English
  • Untitled
  • Ailgodi'r tŷ: D. J. a Waldo
  • New Page
  • Hen Wynebau
    • Blog
  • Untitled
 ‘Fel petaech chi ar yr aelwyd gartre’: darllediadau D. J. Williams yn y 1930au

(Papur a draddodwyd yng nghynhadledd flynyddol Cyfrwng yn Abertawe, 12 Gorffennaf 2012)

Ysgrifennodd Kate Roberts (ar ei rhan hi a’i gŵr, Morys Williams) at D. J. a Siân Williams ar 9 Ionawr 1937, i ddymuno’n dda iddynt ychydig ddyddiau yn unig cyn ail brawf ‘Tri Penyberth’ yn yr Old Bailey. Gwneir y sylw hwn yn y llythyr: ‘Aethom ein dau hefyd pa nosweth i wrando arnoch chi a Bili John, ac ‘yn ‘y ngwir yr oedd yn rhagorol’. Un o’r pethau gorau oedd eich porthi chwi D. J. yr ‘ie’ bach yna nawr ac yn y man. Yr oech chi’n gymwys fel petaech chi ar yr aelwyd gartre’.[1] Cyfeiriad at un o ddarllediadau radio D. J. sydd yma, ac awgrym nad oedd Kate a Morys yn berchen ar eu diwifr eu hunain. Mae’r sylw bod gwrando ar D. J. a’i gyfaill ‘yn gymwys fel petaech chi ar yr aelwyd gartre’ yn arwyddocaol. Disgrifir bendithion y cyfwng newydd yn nhermau’r hen arfer o ddod ynghyd ar yr aelwyd i wrando ar straeon y pentan. O orsaf Abertawe y darlledodd D. J. Williams a’i gyfaill mewn rhaglen hanner awr yn dechrau am 9 yr hwyr nos Fawrth, 29 Rhagfyr 1936. Yn unol â’r drefn arferol roedd rhagbrofion o flaen llaw, a’r rheiny’n fanylach ac yn hwy pan fyddai’r darllediad ar ffurf sgwrs rhwng D. J. ac un o’i gyfeillion. (O 5 tan 6.30 ac eto o 8.15 tan 9 yn yr achos hwn).[2]

            Wrth agor maes ymwneud D. J. â’r radio yn y papur byr hwn, rwyf am ystyried yr agweddau canlynol:

1          Cyd-destun politicaidd dwys darlledu yn y Gymraeg yn y cyfnod hwn

2          Gwaith D. J. yn dewis y cyfrwng i roi llwyfan i hen wyneb o Rydycymerau, ond hefyd i hen wynebau newydd y daethai ar eu traws yn Abergwaun, cynrychiolwyr buchedd Gymreig amgen.

3          Mae’r cyfrwng, fel yr awgrymai Kate Roberts, yn cynnig dilyniant i’r hen ddull o hunanddifyrrwch trwy stori a chwedl a dynwarediad ar aelwyd – ond bod yr aelwyd yn awr yn un genedlaethol.

4          Rhaid ystyried a yw’r cyfrwng yn dylanwadu ar ddull D. J. o ysgrifennu straeon byrion llenyddol, yn enwedig o gofio bod ambell stori amlwg fel ‘Pwll yr Onnen’ yn dechrau ei thaith fel stori radio.

5          Crybwyllwn hefyd dystiolaeth y llythyrau a anfonwyd at D. J. yn sgil ei ddarllediadau, a’r angen i gloriannu arwyddocâd y cyfrwng fel modd i greu ac i hyrwyddo’r ddelwedd boblogaidd o D. J.

1: Y Cyd-destun Politicaidd

Yn Tros Gymru mae J. E. Jones, ysgrifennydd a threfnydd cyffredinol Plaid Cymru o 1930 hyd 1962 yn sôn am y frwydr ffyrnig am wasanaeth radio i Gymru a ymladdwyd rhwng 1930 a 1935, gyda Saunders Lewis yn chwarae rôl allweddol fel llefarydd dirprwyaeth Prifysgol Cymru at y BBC.[3] Crewyd gwasanaeth rhanbarthol i Gymru ar ôl ymgyrch a brofodd effeithiolrwydd y Blaid fel grŵp pwysau yn ol un hanesydd.[4]  Teg dyfalu bod gwrando ar raglenni Cymraeg helaethach eu harlwy yn sgil y fuddugoliaeth yn brofiad neilltuol o felys i’r ymgyrchwyr a fu wrthi, a’r cyfle i’w harweinwyr ddarlledu yn hufen, ychydig yn annisgwyl hwyrach,  ar y gacen. Yr enghraifft fwyaf llachar o barodrwydd y BBC i roi llwyfan i leisiau a fu mor feirniadol o’r gorfforaeth ac a oedd hefyd yn pledio hunanreolaeth i Gymru oedd y comisiwn a dderbyniodd Saunders Lewis i lunio drama radio (Buchedd Garmon) rhwng dau brawf Penyberth. Ond cafodd D. J. Williams gyfleoedd niferus, cyn ei garchariad ac ar ôl hynny. Hwyrach mai T. Rowland Hughes, nid y BBC fel y cyfryw, ddylai dderbyn y clod.

2 Deunydd darlledu D. J.

 

Dylwn gydnabod nad wyf wedi archwilio archifau’r BBC sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn drylwyr, ond roedd D. J. yn archifydd gofalus ar ei ddeunydd ei hunan, felly y tebyg yw bod gennym argraff eithaf cyflawn o’i weithgarwch. ‘Benni Bwlch y Mynydd’ oedd teitl y sgwrs chwarter awr a draddododd am 7.30 nos Sadwrn, 1 Chwefror 1936, gyda chyfarwyddyd gan ei gynhyrchydd T. Rowland Hughes i amseru’n ofalus er mwyn siarad am bedair munud ar ddeg a hanner. Ysgrif yn null Hen Wynebau, y gyfrol o ysgrifau portread o gymeriadau o’r ‘hen ardal’  a gyhoeddasid lai na dwy flynedd cyn hynny yw hon. Mae’r Benni hwn a’i deulu yn cael ei grybwyll yn wir yn HW , ac yn nwy gyfrol hunangofiannol yw awdur.(Gweler http://www.cofiantdj.net/mynegai-i-bobl-hen-wynebau-hen-d375-ffarm.html) Nid dyma’r fan i leoli’r testun yn fanwl o fewn gwaith D. J., a digon cyfarwydd yw’r datganiadau am wreiddioldeb annibynnol y gwerinwr hwn; yr unig nodwedd wahanol i’r ysgrifau cyhoeddedig yw’r awrgym yn y sgript bod D. J. yn cael cyfle trwy’r cyfrwng newydd i ddynwared dull o siarad y sawl mae’n ei bortreadu.  Ac wrth gwrs byddai ei lais ei hun yn rhan o’r perfformiad, o’r testun cyfan, ei acen, ei oslef wrth ailadrodd y straeon a glywsai am hen gymeriad ar aelwydydd Rydcymerau yn awr ar aelwyd newydd boblog, rithiol ac eto real y radio.

Nid yn Rhydcymerau yn unig y câi hyd i hen wynebau. Roedd yn Abergwaun ers 1919, yn athro yn yr ysgol uwchradd, ac wedi meithrin cyfeillgarwch â chymeriadau’r lle. Wrth ystyried deunydd ar gyfer y radio câi ei ddenu gan ddilynwyr y fuchedd amgen – pobl y môr  a’r porthladdoedd pell a’r tafarnau lleol. Nid pobl respectable o reidrwydd, a doedd D. J. byth yn colli cyfle i roi’r argraff ei fod yn rebel anghydffurfiol ym mhob dim. Nid portreadu’r rhain a wnaeth yn bennaf, ond rhoi llwyfan iddynt, eu dwyn gydag ef i’r aelwyd genedlaethol newydd iddynt gael difyrru’r genedl.

Roedd gofyn i D. J. a thri morwr o Abergwaun gyrraedd Abertawe erbyn 2 prynhawn Sadwrn, 8 Chwefror ar gyfer rhagbrofion go drylwyr, gellid tybio:   2.00 – 4.40 p.m, 5.30-6.0 p.m. – cyn darlledu’r rhaglen hanner awr am 7. Y tri morwr yn adrodd eu hanesion, rhai’n fwy diddorol na’i gilydd, a gaed, a’r cyfan wedi’u sgriptio mae’n debyg, gan D. J. Teitlau’r tri chyfraniad oedd:

1.         “O’R PWP” GAN Y CAPTEN JÂMS       

2.         “O’R FFOCASL” GAN BILLY JOHN

3.         “O’R DEC” GAN Y PEN STIWARD JOHNNY OWEN

Stori leol enwog am y Capten William George a roes y deunydd ar gyfer ‘O’r Pŵp’. Buasai farw ar fordaith i Chile yn 1871 ond fe’i cludwyd yr holl ffordd ar y daith yno ac yn ôl mewn eirch pwrpasol a’i gladdu yn Hermon, Abergwaun. Cyfeirir hefyd at ei frawd, Daniel George, a riteirodd yn gynnar o’r môr ar ôl gwneud ei ffortiwn, yn ôl y si ‘drwy fasnach gontraband ar gyffiniau Chile a Peru.’  

Capten Jâms sy’n adrodd hanes y fordaith, yr un ryfeddaf y bu ef arni – gwneud arch i ddal corff y capten yn hytrach na’i gladdu ar y môr; ‘cael coffin plwm yn Valparaiso, a choffin arall o goed cedrwydd yn gasin am y cwbl.’ Aeth ymlaen:

‘Wedi diogelu’r corff yn y modd hwn, orau y gallem, aethom . . .  i ddadlwytho’r glo, ac oddi yno ymhellach i Lota, gan gymryd i mewn farrau o gopr ac ingots i’w dwyn yn ôl i Abertawe.Fel y dywedwyd, cariai’r llong 700 tunnell, a chaffai £3  y dunnell fel freightage. Felly dyna £2,100 am fordaith o ryw wyth mis . . .  Cyflog y morwr o flaen y mast druan ydoedd £2.10 y mis. Yr oeddem yn hwylio i fyny drwy ddoc Abertawe pan oedd y bobl yn mynd i’r cwrdd whech y Sul cyntaf yn Ebrill 1872.’

Wedyn adroddwyd hanes rhoi’r corff ar y trên i Hwlffordd ac yna’i gludo mewn wagen i Abergwaun. Gorffennwyd gyda’r arysgrif sydd ar ei fedd yn Hermon, Abergwaun.

Aeth Bili John yn ôl i’r stiwdio i gynnal rhaglen ar ffurf sgwrs gyda D. J. o leiaf ddwywaith, unwaith i sôn am hen gymeriad o Abergwaun, Shemi Wâd, dro arall i drafod y bardd benywaidd lleol hynod, Letys Heti, awdur dychangerddi ffraeth y gallai Bili John eu rhaffu ar ei gof. 

Mae’r hyn a ddywedodd D. J. am un arall o gymeriadau Aberwgaun a aeth i Stiwdio Abertawe gydag e, Tom Furlong, yn crynhoi apêl y rhain iddo:

‘Un o “bobl yr ymylon” yw Tom Furlong mewn gwirionedd. Ni honnodd fod yn ddim arall erioed, a dyna ran o swyn ei bersonoliaeth. Byddai’r diweddar Idwal Jones wrth fodd ei galon yn ei gyfarfod; a châi ynddo ddefnydd gwych i’w anfarwoli mewn drama arall.’

Y prif reswm dros ei gludo i Abertawe oedd i arddangos ei ddawn fel storïwr, a thelir clod anghyffredin iddo o gofio balchder D. J. yn noniau chwedleua pobl yr ‘hen ardal’ y magwyd ef ynddi: ‘Oherwydd ni chyfarfûm i â neb erioed, yn mynd i ysbryd y darn yn fwy wrth adrodd stori, na Tom Furlong. [Y mae pob aelod ohono wrth y gwaith, a’i ddwylo, os dim, yn fwy huawdl na’i dafod]’

3. Yr Aelwyd Genedlaethol

 

Yn drydydd gadewch i ni danlinellu’r pwynt a wnaed eisoes, sef yr ymdeimlad bod y cyfrwng newydd yn un cartrefol,naturiol y gellid ei impio’n rhwydd ar y pren brodorol er mwyn gallu ail-greu rhywfaint o naws a difyrrwch yr hen aelwydydd, a hynny yn enwedig o ystyried bod prinder setiau radio yn golygu bod  pobl yn casglu ar aelwydydd ei gilydd i wrando ar raglenni Cymraeg

4. Y Radio a’r Stori Fer

 

Fel straeon radio, fe ymddengys, y dechreuodd rhai o straeon byrion D. J. eu taith. Priodol gofyn felly, a adawodd y cyfrwng llafar ei ôl ar y ffurf lenyddol? Mae’n amhosibl rhoi ateb diamodol i hyn, ond mae’n werth nodi mai ‘Pwll yr Onnen’ (‘Pwll yr Heyrn’ yn wreiddiol)  oedd y stori gyntaf i D. J. ei darlledu. (O Abertawe, 6 Ebrill 1938, 7.40-8.00) Yn ôl un ddamcaniaeth roedd i’r stori fer Gymraeg lenyddol a flodeuodd yng ngwaith Kate Roberts yn arbennig, a D. J. ac eraill, ddwy ffynhonnell amlwg, y naill yn rhyngwladol – straeon byrion newydd Ewrop yn arbennig – a’r llall yn frodorol, sef hen arfer y Cymry o adrodd straeon, a hynny gydag artistri anghyffredin yn ôl un o bortreadau Hen Wynebau. Ches i mo’m hargyhoeddi’n llwyr erioed gan ddadl y stori lafar draddodiadol. Ffurf lenyddol gaboledig, ysgrifenedig yw’r stori fer,a  dylanwadau llenyddol amlwg a fu ar ei phrif hyrwyddwyr yn y Gymraeg.  Ond tebyg bod y cyfrwng newydd, er manylder y sgriptio, yn rhoi cyfle i D. J.’r llenor ailgysylltu â’ r cyfarwyddiaid gwerinol a oedd yn arwyr iddo, a chyfle iddo hefyd ddefnyddio’i lais llafar yn gyfeiliant i’r llais llenyddol yr oedd yn ei ddyfal geisio yn y cyfnod hwn. (Ofer gobeithio, debyg, bod recordiad o’r stori hon neu stori arall a ddarlledodd, wedi’i gadw.)

5  Y Cyfrwng yn hyrwyddo’r ddelwedd

 

Y pwynt olaf i’w ystyried yw hwn: a oedd darllediadau  D. J. yn fodd i hyrwyddo’r ddelwedd genedlaethol ohono? A ydym wedi arfer ystyried gyrfaoedd llenyddol mewn ffordd rhy ynysig, heb ystyried y cyfle a oedd gan lenor i gyrraedd cynulleidfa fwy  a gwahanol trwy’r cyfryngau newydd? Crybwyllwn un ymateb i ddarllediad diweddarach yn unig er mwyn agor y drafodaeth. Yn mis Medi 1946 cymerodd D. J. ran mewn rhaglen yn y gyfres ‘Tegwch Bro’ ar Rydcymerau, a chael llythyr gan un o deulu Cwmcoedifor, Rhydcymerau ymhen ychydig yn ei longyfarch ar y ‘broadcastio’[5]. Ceir mwy o dystiolaeth yng ngohebiaethau D. J.,  digon i awgrymu trywydd gwerth ei archwilio i gofiannydd.



[1]  Emyr Hywel, gol., Annwyl D. J. (Talybont, 2007), 97


[2]  Ceir casgliad o sgriptiau radio D. J. Williams, ynghyd â rhai fersiynau llawysgrif a gohebiaeth gan gynrychiolwyr  y BBC  mewn casgliad yn Llyfrgell  Genedlaethol Cymru, Papurau D. J. Williams, Abergwaun, G2/2


[3]  J. E. Jones, Tros Gymru: J. E. a’r Blaid (Abertawe, 1970), 130-6


[4] Gw. D. Hywel Davies, The Welsh Nationalist Party 1925-1945 (Cardiff, 1983), 142-4


[5] Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llsgr P2/5/2


Proudly powered by Weebly