|
Ailgodi’r tŷ: Cyfeillach Waldo a D.J.
Darlith Goffa Cymdeithas Waldo, Abergwaun, Medi 2017 Ga’i ddiolch am y geiriau caredig o groeso ac am y fraint o gael bod yn rhan o’r noson hon heno a chael traddodi darlith flynyddol Cymdeithas Waldo. Mae’n rhoi pleser mawr i mi fel rhywun sydd wedi bod yn ymhel â gwaith y ddau dan sylw am flynyddoedd maith; fel D. J. rwy’n dipyn o ‘sirgâr anobeithiol’ ond mae fy ngwreiddiau i’n ddwfn iawn yng ngogledd y sir hon hefyd ac am bob math o resymau mae bod yma heno yn rhoi pleser mawr iawn i mi. Go brin bod rhaid i mi ymddiheuro am rannu fy sylw rhwng D. J. a Waldo, ac am ddod â’r ddau ynghyd. Prin ei bod hi’n briodol a dweud y gwir, er mor hynod ac athrylithgar oedd e fel dyn a bardd, i ni feddwl am Waldo, lladmerydd mawr cyfeillach a brawdoliaeth fel rhyw enaid ar wahân i bawb arall - onid yw byrdwn mawr ei ganu yn ein cymell i ystyried cyfeillgarwch, partneriaeth, cwmni’r brodyr? Ac un o’i frodyr ffyddlonaf am ran helaeth o’i daith ar y ddaear yma oedd D. J. - Mae’r ymadrodd a gynhwysais i yn nheitl y sgwrs hon heno, 'Ailgodi’r tŷ', wedi’i godi o gywydd Waldo i’w gyfaill. Mae’n cynnwys un o ddelweddau creiddiol barddoniaeth Waldo, ‘y t?’, ac mae’n mynegi dymuniad y ddau i adfer ac i adfywio bywyd eu bro a’u cenedl. Mae’r gwaith o gadw’r tân, ailgodi’r tŷ yn parhau, yn wir mae e’n ddiddiwedd ac mewn ffordd fach ryn ni yma heno wrth yr un gwaith, yn wir mae pawb ohonoch chi sydd wrthi gydag unrhyw wedd ar y bywyd a'r diwylliant Cymraeg yn olyniaeth Waldo a D. J. yn ailgodi’r tŷ, ac mae achlysur fel hwn heno yn fodd i ni ddwyn ysbrydoliaeth ac anogaeth newydd o’u cyfraniad nhw. Dau o arwyr ein cenedl ni sydd dan sylw heno, felly, dau a dreuliodd y rhan helaethaf o’u hoes yn y sir hon, ac a ddehonglodd eu profiadau yng nghymdeithasau Sir Benfro mewn ffordd a greodd weledigaeth a geisiai ysbrydoli cenedl a chenhedlaeth. Un yn frodor a'r llall yn ddyn dŵad, ond dyn dŵad a fu yma am dros hanner can mlynedd. Roedd D. J. bedair blynedd ar bymtheg yn hŷn na Waldo, yn ddigon hen i fod yn dad iddo fe. Bachgen ysgol yn Arberth oedd Waldo pan benodwyd D. J. i staff yr Ysgol Sir yn Abergwaun yn 1919. Ond pan aeth Waldo i Aberystwyth yn 1923 tebyg iawn bod y chwedlau am D. J. yn dal yn fyw. Ar ôl dychwelyd i’r sir ar ôl dyddiau coleg, dyna Waldo yn ei gadael yn anfoddog ac mewn amgylchiadau dyrys yn 1942, a’i alltudiaeth yn y 40au yn un ingol ac anodd. D. J. wedyn yn dymuno gadael Abergwaun ond yn gorfod aros yma, yn ceisio am sawl prifathrawiaeth, gan gynnwys yr Ysgol y byddai fe wedi caru bod yn ben arni yn fwy na’r un arall, yr Ysgol Sir yn Llandeilo. Ond fel sy’n hysbys cafodd D. J. fynd adref i farw mewn capel yn y filltir sgwâr yn 1970, a’r flwyddyn ddilynol bu farw ei gyfaill mawr Waldo Williams. Perthynas y ddau fydd dan sylw heno, y bartneriaeth, y gynghrair rhyngddynt. I ni roi rhai pethau amlwg iawn o’ch blaen chi ar y dechrau - mae’n hysbys bod y ddau yn ffrindiau, yn gohebu â’i gilydd - mae’n nodweddiadol o natur ac amodau byw’r ddau i D. J. gadw llythyrau Waldo ato, ond i ochr arall yr ohebiaeth, hyd y gwyddom ni, fynd ar goll. Gwyddom i Waldo lunio mwy nag un gerdd i gyfarch D. J., yn cynnwys y cywydd mawr y byddaf yn cyfeirio ato’n fanylach; yr un modd D. J. a luniodd y portread o Waldo a ymddangosodd yn y Faner ac un arall yn y Ddraig Goch. Waldo a gyfieithodd Hen Dŷ Ffarm ac a roddodd i ni ysgrif bwysig am D. J. yn y Gyfrol Deyrnged iddo. Rhoddodd y detholion o ddyddiaduron D. J. a olygwyd gan Emyr Hywel ddarlun cyffrous i ni o’r berthynas frwd, glos, a stormus weithiau oedd rhwng y ddau. Pe gofynnwn i chi heno i dweud beth oedd delfryd mawr Waldo rwy’n rhyw amau mai ‘heddwch’ neu ‘brawdoliaeth’ fyddai ar y brig. Ac am D. J., annibyniaeth i Gymru, annibyniaeth meddwl fyddai’n arwain at awydd am annibyniaeth wleidyddol - hynny’n ein hatgoffa o ‘annibyniaeth barn’ Waldo, dolen gydio addas a dilys rhwng gweledigaethau’r ddau (‘Lloegr yw hi, ni all greu hedd’). Rwyf am geisio olrhain trywydd deallusol artistig a gwleidyddol (yn yr ystyr ehangaf) y ddau heno, i weld i ba raddau yr oedd y ddau yn bwydo’i gilydd. Pan anwyd Waldo yn 1904 roedd D. J. hanner ffordd drwy ei gyfnod yn ffas y glo ym Morgannwg a de Sir Gaerfyrddin. Heb uchelgais wleidyddol ond yn hytrach yn bwriadu ymfudo i’r America a gwneud ei ffortiwn fel rancher. Ddaeth hynny ddim i ben ac ymhen amser aeth adref, ailafael yn ei addysg a mynd yn fyfyriwr h?n na’r cyffredin i Aberystwyth yn 1911. 1914 Dyma'r gyfatebiaeth gynta; pan dorrodd y Rhyfel yr oedd Waldo’n fachgen dedwydd ym Mynachlog-ddu, wedi dysgu Cymraeg ar fuarth yr ysgol, yn llawen gyda’i deulu ar yr adeg ddedwyddaf yn ei hanes - y dyddiau gwell ys dywedodd e yn ‘Cysegrleoedd’ pan roedd ‘Llygaid duon dyfnion Morvydd/ Yn ysgubo’r gorwel pell’. Beth am D. J.? Roedd e yn y coleg yn Aberystwyth, ac yn gweld ei ffrindiau, bechgyn iau nag ef at ei gilydd, yn cael eu hanfon i’r gad. Dyna i chi ei gyfaill Bill Thomas (Clunderwen, rwy’n tybio) , er enghraifft, neu’r Dr William Thomas Penalun fel y daethpwyd i’w adnabod wedyn. Gwrandewch ar y darn hwn o lythyr Saesneg ganddo at D. J., neu Williams fel y cyfeiriai ef ato, dyddiedig 22 Hydref 1914. Dyma gofnod ingol fyw o’r trawma dychrynllyd ddaeth yn ddisymwth i'r genhedlaeth hon o Gymry ifanc: ‘My dear old Wms, How are you old boy I wish I were with [sic] I have had a most terrible time. Wms anwyl oh its been awful. I joined the army August 21st. Beginning of September I set sail from Southampton . . . then for 3 weeks fought in the battle of the Aisne. Then marched day & night via Amiens. Bethune . . . on Tuesday 13th Oct had a most awful day 8.30 in the morning I had a bullet in my left shoulder & then I lay bleeding all day in burning farmhouse. No food No help No Wms nothing but hell & that 1000 times worst [sic] than I ever dreamt it would be. 8pm same day Germans took me a prisoner & have looked after me well. Now I am A1 but very weak. Wms anwyl that was a terrible day. 80% of our side killed. Yes we were outnumbered 12 to 1 & we had no guns.Someone had blundered. But “Ours is not to reason why Ours but to do or die"’ Roedd wedi ymuno â’r Fyddin ar 21 Awst 1914, ei ryfel yn dod i ben ar ôl ei saethu a’i gymryd yn garcharor 13 Hydref, ar ôl bod mewn uffern filwaith gwaeth na dim a ddychmygasai. Dyfynnir y cofnod hwn gan William Thomas, un arall o w?r mawr Sir Benfro, cyfaill i’r ddau dan sylw heno, am ei fod yn cyfleu’r sioc a’r arswyd a ddaeth i ran cynifer yn ystod y blynyddoedd hyn, ys dywedodd Waldo yn ‘Yr Hen Allt’: - ‘Pedair blynedd hyll mewn gwaed a llaca,/ Pedair blynedd erch ‘mysg dur a phlwm - / Hen flynyddoedd torri calon Marged, / A blynyddoedd crino enaid Twm’. 1916 Awn ymlaen ddwy flynedd at ddwy olygfa arall; ar aelwyd Elm Cottage, Llandysilio ceir golygfa y mae dyn bron â defnyddio ar ei chyfer y gair hwnnw sy’n cael ei orddefnyddio, sef ‘eiconig’ - J. Edwal Williams yn darllen cerdd Niclas y Glais, ‘Gweriniaeth a Rhyfel’ i’w wraig Angharad, a’r plant, un ohonyn nhw o leiaf, yn gwrando - ‘fe’m gwefreiddiwyd ganddi' meddai Waldo. Rywbryd yn ystod y blynyddoedd hyn y cafodd Waldo y profiad hwnnw yn y bwlch rhnwg dau gae a roddodd iddo’r sicrwydd mawr ynghylch brawdoliaeth dyn - posib iawn mai yn 1916 yr oedd hyn, ac un beirniad (Ned Thomas) wedi mentro gweld cysylltiad rhwng ‘y cymylau mawr ffoadur a phererin/yn goch gan heulwen hwyrol tymestl Tachwedd’ a brwydr fawr y Somme a ddaeth i’w phen ym mis Tachwedd 1916. Roedd eraill a gydymdeimlai â safbwynt gwrthfilitaraidd, anghydffurfiol Edwal Williams a’i deulu. Yng ngholeg Aberystwyth roedd rhai a oedd yn barod i herio’r drefn, neb yn fwy na’r stwcyn cydnerth, stwbwrn o Rydcymerau, D. J. Williams, a oedd erbyn hyn ar fin gadael Aber am gyfnod newydd yn Rhydychen. Roedd eisoes wedi dechrau cyhoeddi yn y wasg Gymraeg, ambell stori, ambell ysgrif, ond dim mor heriol nac mor debyg o dynnu nyth cacwn yn ei ben â’r ysgrif ‘Y Tri Hyn’ gyhoeddwyd yn Y Wawr yn 1916. Bydd y frawddeg hon yn esbonio’i theitl ac yn rhoi argraff i ni o’i chywair - ‘Tri anathema’r dydd heddiw yw yr Ellmyn, y Sinn Ffeiniaid, a’r gwrthwynebwyr cydwybodol, a’r mwyaf o’r rhai hyn yw’r gwrthwynebwyr cydwybodol.' Ysgrif chwyrn yw hon, yn fflangellu rhagrith a thaeogrwydd y Cymry ac yn dweud gair o blaid y tair carfan a ffieiddir ganddynt. Wrth symud y camera yn ôl i’r aelwyd yn Llandysilio cofiwn i Waldo ddweud fod gwrthryfel y Pasg wedi gwneud argraff fawr arno, ac iddo lunio cerdd ar yr achlysur yn 11 oed; gwyddom hefyd ar sail cerdd ddiweddarach ac enwocach fod dysgeidiaeth yr aelwyd yn cyd-fynd â phregeth D. J. ‘ cenedl dda a chenedl ddrwg/ Dysgent hwy mai rhith yw hyn’. Pryd gwrddodd y ddau gyntaf? Yn sicr byddent yn dod i wybod am ei gilydd tua’r amser yma er mai crwt oedd Waldo o hyd. Roedd D. J. yn ymweld â Chlunderwen yng nghwmni Bill Thomas ac yn gyfeillgar iawn gyda’i chwaer Bella am gyfnod hefyd. (Mae angen i mi gael cadarnhad am y berthynas hon.) 1919 Ydych chi wedi dechrau gwneud y trefniadau? Fis Ionawr 2019 byddwn yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad D. J. Williams i’r dref hon. Ar ôl cyfnod yn Rhydychen a orffennodd mewn siom academaidd cafodd swydd athro yn ysgol Lewis Pengam, ond ar ôl gweini tymor yn unig yno symud i ddysgu i Abergwaun. Ac yma y buodd e, yn groes graen weithiau, rhaid cyfaddef, weddill ei oes, gan olygu mai fel D. J. Williams Abergwaun y daeth Cymru i’w nabod e, nid D. J. Rhydcymerau. Lle bynnag yr oedd e yr oedd e’n ymroi, ac o fewn dim yr oedd e wedi bwrw i ganol bywyd cyhoeddus y dref yma; yn ogystal â bod yn athro ysgol roedd e’n amlwg yn y cylchoedd diwylliannol a gwleidyddol. O’r tai lojin oedd yn gartref (cynyddol ddigysur i fachan sengl awyddus i briodi) iddo am 7 mlynedd tan iddo briodi ddiwedd 1925, yn Kensington St i ddechrau, yna ar Benslâd, mentrai D. J. ma’s i’r hyn a welai ef yn Gymru daeog Brydeinllyd i geisio ei siglo hi a’i newid hi. Y wasg yw un o’i brif gyfryngau, yn Gymraeg a Saesneg, papurau lleol a chenedlaethol, - ysgrifau, ambell stori, sawl llythyr - a'r rhai yr oedd e falchaf ohonyn nhw oedd y rhai rhy eithafol i’w cyhoeddi! Roedd yn weithgar gyda Chymrodorion Abergwaun - mudiad anghofiedig braidd ond pwysig iawn yn y deffroad ar ôl y Rhyfel Mawr; roedd D. J. yn trefnu siaradwyr - ei arwr dyddiau mebyd Llewelyn Williams yn ymweld yn 1920, ei gyfaill a’i arwr newydd Saunders Lewis yn ddiweddarach; mae e ynglŷn â’r cwmni drama yn Abergwaun, yn trefnu, yn gwâdd cwmnïau o lefydd eraill. Fe'i cawn yn sefydlu dosbarthiadau Cymraeg i’r W. E. A., Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, ym Medi 1922 . 21 Medi 1922 anfonwyd llythyr ato gan Herbert Morgan, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i’w hysbysu i gychwyn tri dosbarth (allanol) yn Sir Benfro, yn Abergwaun, Hwlffordd a Mathry. Roedd Ben Bowen Thomas, un o gyfeillion D. J., wedi’i benodi’n ddarlithydd. ‘A fyddwch garediced a pharatoi’r ffordd iddo trwy fugeilio tipyn ar y bobl a roddodd eu henw a’u haddewid i chwi y llynedd?’ Ffordd athrylithgar Waldo o ddisgrifio’i weithgarwch adeiladol diflino oedd 'Rhoi ei aradr i’r erwau/Llywio’n hyf a llawenhau' - darlun o D. J. yn aredig Abergwaun a Chymru. Er llwyred ei ymroddiad i’r gweithgarwch diwylliannol hwn, fel ryn ni wedi gweld yn barod roedd ochr galetach, fwy beirniadol i weledigaeth D. J., ac roedd e’n chwilio am ffordd i fynegi hynny. Ble ych-chi’n credu yr aeth e yn ystod ei wyliau cyntaf yn Abergwaun, gwyliau’r Pasg 1919? Dala’r llong i Iwerddon a chwrdd yn ôl yr hanes â rhai o arweinwyr y gwrthryfel yno. 1922 Yn ystod ei flynyddoedd cynnar yn Abergwaun mae’n hysbys mai’r Blaid Lafur oedd ei gartref gwleidyddol, ac mae’n ymfalchïo mewn un llythyr fod y rhan fwyaf o’r dynion ar staff yr Ysgol Sir yn ‘bolshies’; penllanw ei ymwneud â’r Blaid Lafur oedd bod yn ysgrifennydd ar gyfer gogledd y sir ac yn ddirprwy asiant i’r ymgeisydd Willie Jenkins yn 1922. Yn y fan yma gallwn ddod â Waldo nôl i’r llwyfan, bellach wedi dechrau ar ei flwyddyn olaf yn ysgol Arberth, yn edmygydd mawr o Willie Jenkins a fuasai’n wrthwynebydd ceidwadol yn ystod y Rhyfel Mawr, a hen gysylltiad hefyd rhwng y ddau deulu. Yn sicr roedd D. J. a Waldo yn gweithio dros yr un achos yn ffurfiol yn awr, hwyrach am y tro cyntaf. Dyma gyfnod cyffrous yn hanes y ddau - Waldo yn mynd i Goleg Aberystwyth, yn cyhoeddi cerddi Cymraeg a Saesneg, D. J. yn dod yn gynyddol anniddig o fewn y Blaid Lafur ac yn dechrau siarad â'r bobl hynny a gredai fod angen plaid newydd annibynnol i sefyll dros hawliau Cymru, H. R. Jones, Griffith John Williams a Saunders Lewis yn eu plith - ac yn sgil hyn Plaid Genedlaethol Cymru yn dod i fod yn 1925. Pryd ddechreuodd D. J. gymryd Waldo dan ei adain, ei annog a’i herio? Rwy’n amau’n fawr iawn a fyddai Waldo wedi cyhoeddi’r gerdd ddychanol ‘Gweddi Cymro’ yn y Ddraig Goch, cylchgrawn y blaid newydd ym mis Tachwedd 1926 heb fod gan D. J. ran yn y peth. Yn wir mae ysbryd heriol, rhyfygus bron ysgrifau a llythyrau D. J. yn cystwyo’r Cymry am eu rhagrith a’u gwaseidd-dra i’w glywed ynddi; bron nad yw’n adleisio neges ‘Y Tri Hyn’ ddegawd ynghynt yn y cyfeiriadau at ymddygiad Prydain yn Iwerddon: 'Mae dy gyfiawnder yn ddi-ffael - Llosgaist gartrefi’r werin wael Yn Ballyshantee a Tralee; Lleddaist Connolly drosom ni' Ac at safiad ‘hen gyfrinydd dwl fel Gandhi - Barbariad croenddu, digywilydd Yn dweud na ddylem ladd ein gilydd’ Dyw’r gerdd hon ddim yn nodweddiadol o ganu cynnar Waldo mewn gwirionedd, ac mae dyn yn cael i demtio i weld dylanwad D. J. yn amlwg iawn. Sdim unrhyw amheuaeth na fyddai D. J. wedi gweld dawn Waldo a mynd ar ei ôl e, a’i annog e i’w defnyddio hi. Wrth baratoi’r ddarlith hon rwyf wedi bod yn meddwl hwyrach nad yw rhan D. J. fel ysgogydd a hyrwyddwr yng ngyrfa Waldo ddim wedi’i lawn gydnabod, nid yn unig trwy bwyso ar eraill i’w gael e i sgrifennu,( e.e. Mae 'na lythyr gan Saunders Lewis at D. J. dyddiedig 25 Mawrth 1928 yn diolch iddo am ei neges ac yn dweud y bydd e’n mynd ar ofyn Waldo am gyfraniad i’r Ddraig Goch ) ond trwy’r trafod a’r cyd-drafod ar yr aelwyd yma yn Abergwaun a’r noddfa a’r hafan a gâi Waldo ar yr aelwyd ar ein pwys ni fan hyn heno, 49 High St, Y Stryd Fawr, Abergwaun. ‘I mi o hyd’, meddai Waldo yn 1965, ‘diluddedu ac ireiddio yw cyfeillach â hwy ar yr aelwyd’ - â hwy sylwer, oherwydd roedd i Siân Williams, heddychwraig o argyhoeddiad, a dylanwad llareiddiol yn aml fe synhwyrwn ar ei g?r tanllyd, ran allweddol yn hyn i gyd. Yn 1926 hefyd cyhoeddodd D. J. gyfres o ysgrifau yn y Faner ar un arall o’i arwyr, George Russell neu AE, bardd, golygydd, trefnydd, gwr â chanddo weledigaeth ynghylch adfywio cymunedau gwledig Iwerddon. Beth sy’n esbonio natur apêl a chyfaredd gwaith AE, a Y Bod Cenhedlig yn arbennig, i D. J. ? ‘Fe apeliodd y llyfr yn rhyfedd ataf o’r cychwyn cyntaf; a chredaf y gallaf ddweud heddiw, ac eithrio’r Beibl i’r llyfr hwn gael mwy o afael arnaf na’r un llyfr arall a brofais erioed’ (rhagymadrodd, Y Bod Cenhedlig). Y pennawd a roes D. J. ar ei ysgrifau ar AE yn y Faner yn 1926 oedd ‘AE – Y proffwyd Ymarferol’ (Fe'i hailgyhoeddwyd ar ffurf pamffled gyda’r teitl newydd amlwg ei arwyddocâd, A. E. a Chymru.) Y cyfuniad o’r proffwydol a’r ymarferol a hudai D. J.; mae llythyrau cyfeillion ato fwy nag unwaith yn datgan mai proffwyd yw rôl D. J. i fod yng Nghymru hefyd; dyna i chi lythyr ato dyddiedig 28 Ebrill 1924 gan Ben Bowen Thomas, yn canmol ysgrif D. J. ar de Valera yn y Darian: ‘Rhaid iti fod yn ofalus neu fe ei yn hanesydd ar dy waetha. Cofia mai proffwyd yw dy waith di i fod a gadael y croniclo i’r di-weled fel fi.' Neu ystyriwn eiriau fel rhai chwareus Saunders Lewis ato 25 Medi 1924: ‘Fy annwyl apostol at y genedl a’r llwyddianusaf genhadwr’ (Roedd y llythyr yn annog D. J. i gymryd swydd gydag Undeb y Cymdeithasau Cymraeg.) Gwyddom o’i lythyrau ei fod yn benthyg llyfrau AE. i'w gydnabod, gan gynnwys ei farddoniaeth eiriog, gyfriniol, annarllenadwy i lawer mae’n si?r. A fu e’n porthi Waldo â gweithiau ei arwr? Do, yn sicr, ddywedwn i. Ceir tinc o AE yn ‘Cofio’ ond y dystiolaeth gliriaf yw’r hyn a gydnabu Waldo ei hun am un o’i linellau mwyaf un, llinell olaf ‘Mewn Dau Gae’ , ‘Daw’r Brenin Alltud a’r brwyn yn hollti’, llinell a oedd yn ddyledus i'r ymadrodd ‘outlawed majesty’ mewn cerdd gan AE. 1927 ymlaen Ar ôl graddio yn 1927 mae Waldo yn dod nôl i’w sir enedigol ac fel D. J., yn athro ysgol. Mae'r cyfeillgarwch bellach yn blodeuo a’r gohebu yn dechrau o ddifrif; gwnaeth D. J. gymwynas fawr â ni fel cenedl trwy ddiogelu llythyrau Waldo ato, llawer ohonynt yn cynnwys cerddi a sylwadau ar gefndir ei gerddi. Er na ddaeth llythyrau D.J. at Waldo i’r golwg hawdd dyfalu mai canmol ac annog fyddai’r nodau llywodraethol. Gwir bod D. J. yn colli amynedd â Waldo weithiau, a hwyrach bod y.ddau yn cynrychioli ar wahân y ddwy nodwedd a gaed yn yr un dyn AE, y cyfrinydd ymarferol. Roedd cyd-ddealltwriaeth ddofn rhyngddynt, serch hynny, hynny’n amlwg yn yr ysgrifau portread a luniodd y ddau am ei gilydd ac yn arbennig yng nghywydd Waldo i D. J.. Bydd llawer ohonom wedi gwrando ar y recordiad rhyfeddol o Waldo yn darllen hwnnw am y tro cyntaf gydag angerdd ac eneiniad, a’i ddarllen yn y dref hon, mewn cyfarfod i anrhydeddu DJ yn Ysgol Haf Plaid Cymru yn 1964. Rhannent yr un delfryd, yr un dyhead, a'r un rhwystredigaethau hefyd. Mi allwn fynd mlaen i ddyfalu am gyfatebiaethau rhwng cynnyrch y ddau ar wahanol adegau yn eu gyrfa, e.e. A oes a wnelo blwyddyn fawr gyntaf Waldo fel bardd, 1939, â’r cyffro o fod yn rhan o fywyd D. J.? Roedd i hwnnw fri cenedlaethol bellach ar ôl helynt yr Ysgol Fomio ('Penyberth, y berth lle bu/ Disgleirwaith England’s Glory’ chwedl Waldo) . Byddai hyn ar ôl i D. J. gael blwyddyn gynhyrchiol iawn yn 1938, yn cynnwys erthyglau ar le Cymru yn y Rhyfel nesaf, a’r sefyllfa yn Nhrecŵn. Ond dyfalu yw hynny, ac rwyf am aros gyda’r gyd-ddealltwriaeth ddofn yma fel y’i mynegwyd hi gan Waldo yn ei gywydd cyfarch i D. J. yma yn 1964. Mae’n briodol ein bod ni yn y ddarlith hon yn clywed mwy o linellau Waldo, wrth iddo gyda’r ddawn ryfeddol honno sydd gan feirdd o athrylith ddweud mwy mewn cwpled nag y gall darlithydd ei ddweud mewn oriau. Roedd gan D. J. a Waldo eu hen wynebau a’u tir glas (cyhoeddwyd cyfrolau DJ yn cynnwys y geiriau yna yn y 30au). Y gymdeithas y magwyd D. J. ynddi a roes iddo un gainc bwysig o’i weledigaeth, meddai Waldo: Gynt yn ardal y galon Ganed hwyl y gennad hon, A’i angerdd yw’r gerdd a gwyd O lân olau hen aelwyd Wrth adolygu ail gyfrol D. J. o straeon yn 1942 meddai Waldo am weledigaeth D. J., ‘cymdeithas wâr werinaidd, lle mae pob dyn yn ei ffordd ei hun yn frenin’. Mae darllen y gerdd ‘Preseli’ yng ngoleuni gwaith D. J. yn ddadlennol; mawl i dir glas magwraeth yw’r gerdd honno, onid e, ‘Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd/ Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn’ . . . ‘ar glosydd, ar aelwydydd fy mhobl’ y mae’r hen wynebau, ‘hil y gwynt a’r glaw a’r niwl a’r gelaets a’r grug.’ Y tir glas, yr hen ardal - ‘trwy’r hen ardal’ meddai Waldo yn yr un adolygiad, ‘ y mae pob Cymro’n dod i ddeall ac i garu ei wlad a’i fyd’ - Mae yna ‘dir glas’ ‘hen ardal’ wahanol yng nghanu Waldo weithiau hefyd, wedi’i chreu gan syniadau am ryw hen oes aur yn hanes y ddynoliaeth, cynfyd heddychlon cyn ffurfio’r gwladwriaethau modern a’u tueddiadau militaraidd - a’r gred yn ymestyn i honni bod gweddillion yr oes aur honno heb lwyr ddiflannu mewn cymunedau gwledig, ymylol diarffordd lle roedd cydweithio, cydweithredu yn ffordd o fyw - ‘Hon oedd fy ffenestr, y cynaeafu a’r cneifio/ Mi welais drefn yn fy mhalas draw’. Ond ysgrifennodd DJ gyfrol o'r enw Storiau’r Tir Du hefyd, ac i raddau helaeth ar hyd blynyddoedd eu cyfeillach, byw yn y tir du yr oedden nhw, byw mewn cymdeithas oedd yn bell iawn, iawn o’u delfrydau. Pwy yw’r gŵr pur ei gariad, Mawr ei loes am Gymru’i wlad? . . . Mae â’i galon yn cronni Wrth weld ymyrraeth â hi’ Ai gwir dweud mai’r tir du yw cynefin pob proffwyd? Peidiwch â’m camddeall i pan rwy’n dweud mai tir du oedd Abergwaun yn ystod ei flynyddoedd yma. Fyddai hi ddim wedi bod yn wahanol, rwy’n siŵr o hynny, pe cawsai ei ddymuniad i godi pac i fod yn brifathro mewn ysgol arall. Rhag i mi orliwio bu’n byw yma’n ddedwydd ei amgylchiadau cartrefol ar ôl priodi Sian ddiwedd 1925, ennill ei fara menyn fel athro ac ymroi yn ei oriau hamdden, heb gyfrifoldebau magu plant, at ei waith. Ond byw yma’n rhwystredig hefyd, byw gan weld y Gymraeg yn dirywio a hen safbwyntiau Prydeinig trefedigaethol yn araf iawn i newid – byw gan wynebu gelyniaeth a gwrthwynebiad yn sgil ei safiad, yn arbennig ar ôl Penyberth. O flaen ei lygaid, yn ei brofiadau chwerw yn Abergwaun y bu’n rhaid iddo ymgodymu â realiti’r Gymru gyfoes. Ga’i gyfeirio at ddwy ysgrif sy’n rhoi cip i ni ar ei ymateb i brofiadau Abergwaun: Yn gyntaf un o’i fynych gyfraniadau Saesneg, ‘Fishguard and Goodwick Council and the Bombing School’ a gyhoeddwyd ym mhapur Abergwaun, County Echo, 21 Mai 1936. Ar yr adeg yma mae protestio cenedlaethol yn erbyn cynlluniau’r Ysgol Fomio; mae llythyr gan rai o arweinwyr y genedl wedi’i gyhoeddi yn yr Echo. Ac mae D. J. wedi anfon penderfyniad cangen leol y Blaid at Gyngor y Dre yn gofyn iddynt ei gefnogi. Er cael cefnogaeth ei gyfaill O. D. Jones yn y cyngor, penderfynu ei nodi yn unig a wnaethpwyd. Hyn a gymhellodd lythyr nodweddiadol chwyrn i’r Echo sy’n cynnwys yr ymosodiad hwn ar y cynghorwyr – hyn gan athro cyflogedig mewn tref fach lle roedd pawb yn nabod pawb, a mwy nag un o’r cynghorwyr, does bosib, yn llywodraethwyr ar yr ysgol lle gweithiai D. J. : ‘I wonder how many members of our Council who so proudly welcome the chief of our national institutions into our midst this year,[roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn1936 ar fin dod i Abergwaun] know anything of these national newspapers and magazines, even their names (mae e newydd ganmol ansawdd y wasg Gymraeg) To many of these Councillors, though they may have lived in Wales all their lifetime, the real Wales, which created the National Eisteddfod, is truly a foreign land. No wonder that its language, its culture, its traditions, and the sanctity of its territory mean so little to them. A Welshman so uprooted can be, and can do, almost anything without feeling the least compunction, or even embarrassment. . . . Such a Welshman really does not betray Wales because he has never known Wales. He has only lived in it. His national consciousness goes no deeper than a shout on a football field; and his spiritual sensibilities have become so atrophied that to him there is no difference between a Welsh National Eisteddfod and a school for the perfecting of murder. He’ll support either with perfect equanimity as long as it is likely to be a going concern. And men bred in this school are today the great majority on all the public bodies of Wales. This is the price that Wales has had to pay for a system of government not responsible to the Welsh people. We are ruled by aliens of our own blood.’ Yna mae’n gwahodd y cynghorwyr i ymuno â’r criw fydd yn mynd o Abergwaun y Sadwrn canlynol i’r cyfarfod protest mawr ym Mhwllheli, yn y gobaith, o’u cael yno, ‘they might realise that they are not only in Wales, but of Wales, of the Welsh nation’. Go brin i lawer ohonynt dderbyn y gwahoddiad! Golwg ddigon tywyll ar gyflwr pethau yn Abergwaun a geir mewn ysgrif yn y Faner, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ‘Llyw ac Angor Cenedl: Neges Hen Athro i’w Hen Ddisgyblion’. Gweld llong Cymru ar drugaredd y lli y mae, yn ysglyfaeth i gyfundrefn addysg Anghymreig, gorfodaeth filwrol ar Gymru a ‘t[h]otalitariaeth gynyddol Llywodraeth Llundain yn llyncu popeth Cymreig i mewn iddo’ Ac y mae gweld yr hyn sy’n digwydd i’r Gymraeg yn Abergwaun yn ‘gwaedu calon’. ‘Cenhedlaeth arall a bydd yr iaith yn gwbl farw. Yn Llydaw, Llywodraeth estron Ffrainc sydd wrthi’n lladd y Llydaweg ac yn carcharu Llydawyr am geisio’i chadw’n fyw. Ond yn Abergwaun, Cymry Abergwaun, a hynny yn eu cartrefi eu hunain, sydd yn lladd y Gymraeg.’ Bu Waldo gydag e yn y Tir Du - yn yr ‘anialwch trwchus’ Trechu’r anialwch trwchus, Deifio’r llawr er adfer llys Doedd pobl y tir glas, ‘fy mhobl’ ddim bob amser yn arddangos yr annibyniaeth barn yr oedd y proffwyd am ei briodoli iddyn nhw, doedd ‘tawel foes yr oes risial’ ddim wedi cymryd lle yr oes haearn. Wedi’i bwrw ma’s o’r nyth y mae’r wennol yn 1939, ac ar wahân i’r agoriad a’r diweddglo disgrifiad o dir du tywyll iawn yw’r cywydd hwnnw ‘Daw’r Wennol yn ôl i’w nyth’ am sefydlu tank range yng Nghastell Martin. Yn y tir du y mae 'yr Heniaith' yn y gerdd honno - ‘ Hyn yw gaeaf cenedl, y galon oer/ Heb wybod colli ei phum llawenydd’. A hyd yn oed mewn cerddi nad ydynt ar yr olwg gyntaf lawn mor dywyll, mae isleisiau o ing a rhwystredigaeth, yn fy marn i, yn amlwg. Cerdd enbyd o drist, nid cerdd ysgafn, yw ‘Fel Hyn y Bu’, yn cofnodi hanes proffwyd annibyniaeth barn yn cael ei herio gan un o’i bobl i hun yn ei fro ei hun ‘Why don’t you take out your identity card’ - a cherdd dywyll y tir du i fesur healeth yw ‘Ar Weun Cas Mael’ hefyd, gyda’r bardd wedi’i ysgaru bron oddi wrth gymuned dynion ac yn troi at wrthrychau byd natur am gysur ac ysbrydoliaeth. Ond os trigolion y tir du oedd D. J. a Waldo fel ei gilydd, roedd yna olau ar aelwyd newydd a reolid gan Mrs Sian Williams yn rhif 49 ar y stryd hon. Yma yr oedd noddfa a chaer ar gyfer rhannu beichiau, seiadu, dweud y drefn, cadw gweledigaethau yn fyw - angor, harbwr diogel, defnyddiwch y trosiadau morwrol ystrydebol, maen nhw i gyd yn addas. Trwy gyfnodau helbulus i’r ddau yn eu perthynas â’u cyflogwr, Awdurdod Addysg Sir Benfro, trwy gyfnodau o garchar yn hanes y ddau, roedd yr aelwyd yn dal yn olau - a nodweddiadol o Waldo yw mai’r darn ysgafnaf yn y cywydd cyfarch yw’r un sy’n sôn am gyfnod D. J. yn y carchar - Bu rownd ar bererindod Er mwyn hyn i’r mannau od; I’r gell, i’r llinell a’r llestr, Fe fu yno yn fenestr Ar yr aelwyd olau yr oedd y gyfeillach yn adnewyddu, y trafferthion dros dro yn cael eu gweld yng ngoleuni’r pethau tragwyddol - dyma Waldo wrth adolygu Storiau’r Tir Coch eto yn sôn am D. J. a’i debyg: 'Ni raid i’r rhain fyth lwyr anobeithio wrth y gagendor sydd rhwng y byd y sydd a’r byd a ddylai fod . . . A theyrngarwch i’r peth tragwyddol yw sail eu gwrthryfel ym myd amser' Porthi’r gobaith a’r teyrngarwch i’r delfryd tragwyddol a wnaed yn y gyfeillach rhwng D. J. a Waldo, adnabod y duwch, ond peidio ag ildio iddo - yn hytrach ymwroli i ymosod arno, ei geryddu a’i ddychanu - un o linellau mwyaf Waldo rwy’n credu yw 'deifio’r llawr er adfer llys', ac ryn ni wedi clywed D. J. yn gwneud hynny heno. Câi Waldo awen i ganu fel ehedydd yn y tir du - ‘Daw’r wennol yn ôl i’w nyth’ Ac i adnewyddu’r weledigaeth am y Gymraeg ‘Nyni, a wêl ei hurddas trwy niwl ei hadfyd, Codwn yma yr hen feini annistryw’ ('Yr Heniaith') Mae Waldo yn y cywydd yn sôn am ‘bryder hyderus’ D. J., poeni am bethau ond peidio ag ildio am eiliad i barlys anobaith, oherwydd yr hyn sydd yn y fantol yw ein bodolaeth ni fel Cymry - dyma’r dyfyniad olaf bythol berthnasol o’r cywydd: Honni hawl hen wehelyth Rhag darfod o’i bod am byth. Daw o’th rawd a’th weithredu Gadw’r tân, ailgodi’r tŷ Gadewch i ni wrth ddathlu coffadwriaeth Waldo a D. J. - a Siân - heno, ymrwymo o’r newydd i’r fraint sydd gyda ni o gadw’r tân ac o ailgodi’r tŷ. 1 |