Cyfarch yr arwr: dwy gân, dwy gerdd
. . . Roedd yr ieithwedd ysbrydol yn amlwg yn y gyntaf o ganeuon coffa Dafydd Iwan i D. J., sef ‘Y Wên na Phyla Amser’ (Holl Ganeuon Dafydd Iwan, Talybont, 1992, t.195). A bod yn fanwl gywir cynhwysodd Dafydd Iwan benillion newydd am D. J., y ‘cawr o Gymro’ a’r ‘craig o Gymro’ wrth ganu’n doredig angerddol un o’i ganeuon mwyaf poblogaidd, ‘Wyt ti’n Cofio’ yn yr angladd (Cofio D. J., cynhyrchydd T. James Jones, Sain 1006D). Mae llinellau agoriadol y gân goffa yn gyforiog o arwyddocâd:
‘Roedd hwn mor rhydd â’r awel
Yng nghoedwig Esgairceir,
Yr awel sydd y chwythu lle y mynn’
Dyma ni’r plentyn natur dilyffethair, y gŵr rhydd sy’n ymgorfforiad o’r hyn y carai i’w genedl fod, ac wrth reswm, y grym ysbrydol a all newid cenhedlaeth a chenedl; cyfeiriad, ymwybodol neu beidio, at y gwynt sy’n chwythu lle y mynno yn Ioan 3:8, sydd yma, delwedd o waith yr Ysbryd Glân yn aileni yn y gwreiddiol, a defnydd nodweddiadol feiddgar gan fab i weinidog Anghydffurfiol Cymraeg sy’n ei gymhwyso at yr angen am ailenedigaeth genedlaethol. Mae ‘tân’ a ‘fflam’, geiriau cryfion eu cysylltiadau ysbrydol yn yr ysgrythur yma hefyd: ‘y fflam na ddiffydd byth’, ‘rho golsyn bach o’r tân a lysg mor lân’. Elfen arall i sylwi arni yn y gân yw’r cyfeirio at ymadrodd a gysylltir yn annatod â D. J. , ‘y filltir sgwâr ac at ‘werin yr erwau gwâr’.
Erbyn iddo lunio’i ail gân goffa i ddathlu canmlwyddiant geni D. J. bymtheng mlynedd yn ddiweddarach roedd tymer y canu wedi sobri rhywfaint, a’r ieithwedd ysbrydol aruchel wedi’i rhoi naill ochr. Yn wir am bwysleisio normalrwydd dynol ei arwr yr oedd Dafydd Iwan bellach:
Peidiwch meddwl bod D. J. yn sant a ddaeth o’r ne’
Roedd e’n ddyn o gig a gwaed fel chi a fi.
(‘Cân D.J.’, Holl Ganeuon Dafydd Iwan, tt.28-9)
Dethlir dyrchafiad D.J. yn arwr cenedlaethol, a hynny mewn modd sy’n gyson ag argyhoeddiad y gwrthrych ynghylch twf organig y cenedlaethol o’r lleol: ‘Dyn y filltir sgwâr/A dyn Shir Gâr/ Dyn i Gymru gyfan/Cyfarwydd Cymru gyfan/Dyn i Gymru gyfan oedd D. J.’ Ond cyfeiriadau direthreg at agweddau ar ei waith a’i fywyd a geir yn y gân.
Bu canu mawr gan y beirdd ar ôl D. J.; roedd pedair cerdd goffa ar dudalen flaen Y Faner ar ôl ei farw, ac o fewn ychydig fisoedd cyhoeddwyd cyfrol o gerddi coffa, Y Cawr o Rydcymerau, gan ddau olygydd o hen sir D. J., sef D. H. Culpitt a W. Leslie Richards. Bydd angen craffu ar nodweddion y cerddi hyn, er na ddisgwyliem ganfod dim i’n synnu. Ond bu canu i D. J. yn ystod ei oes hefyd, a chafwyd dwy gerdd gan ddau gyfaill y mae eu perthynas lenyddol ag ef yn gyfoethog a phwysig. Roedd gwreiddiau teuluol D. Gwenallt Jones yn ‘yr hen ardal’ ac mae pwysigwrwydd y gwreiddiau gwledig yn ei fydolwg yn hysbys. Ceir ganddo gerddi hefyd sy’n alarnadau eithafol negyddol eu pwyslais ar ddirywiad yr hen ddiwylliant Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, ‘Beddau’, ‘Gwlad Adfeiliedig’ a ‘Rhydcymerau’. Ni threwir y nodyn hwnnw yn ‘D. J. Williams, Abergwaun (ar ôl ymneilltuo o’r Ysgol)’ (Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn, gol. Christine James, Llandysul, 2001, tt. 150-1) ac ni cheir ynddi chwaith arlliw o frwdaniaeth orawenus yr eilunaddolwr. Teyrnged dawel, hunanfeddiannol ydyw, yn agor gyda’r bardd yn cofio’r ceffylau gwaith yn Rhydcymerau, ac yn eu gweld yn debyg yn eu dyfalbarhad a’u dewrder a’u hymroddiad dirwgnach i D. J.. Cymharu ei ddawn fel adroddwr straeon â hen gyfarwyddiaid y fro wedyn, cyn cofnodi rhai o droeon yr yrfa. Nid yw’n farddoniaeth gyffrous, ond mae’r pennill olaf yn llefaru’n groyw ar ran cenhedlaeth o genedlaetholwyr yr oedd eu teyrngarwch i’w gilydd ac i’w delfrydau yn wyneb beirniadaeth a rhagfarn sefydliadol yn wedd amlwg ar eu meddylfryd. Rhan o drefn anrhydeddu amgen yw’r gerdd hon a rhai tebyg iddi:
Nid yw’r gwaith a wnaethost ti yn deilwng o dysteb,
Ac ni chei di gan y Brenin y CBE;
Ond bydd y cyfarwyddiaid yn adrodd drwy Gymru
Bedair Cainc dy fabolgampau a’th aberth di.
Un o gyfeillion pennaf D. J. yn Sir Benfro oedd Waldo Williams ac mae i’w cyfeillgarwch hynod a’u cydweithrediad le amlwg yn y gyfrol hon. Yn Ysgol Haf Plaid Cymru yn Abergwaun yn 1964 cynhaliwyd cwrdd anrhegu D. J. a Sian ei briod, a darllenwyd cywydd iddo gan Waldo (‘Cywydd Mawl i D. J.’, Cerddi Waldo Williams, Gregynog, 1992, tt. 97-9). Ceir datganiad rhyfeddol hefyd gan y bardd ar y record Cofio D. J. Mae’n gerdd sy’n ceisio codi i dir uwch na cherdd Gwenallt, ac yn llwyddo. Ond ceir ynddi gyfuniad hefyd o’r ingol aruchel a’r hwyliog ffraeth. Mae’r adran sy’n crybwyll gweithred Penyberth a’r carchariad a’i dilynodd yn ddigon ysmala, yn sôn am D. J. yn mynd ‘rownd ar bererindod/ Er mwyn hyn, i’r mannau od’ (sef y carchar), a hyn oherwydd Penyberth, ‘y berth lle bu/ Disgleirwaith England’s Glory’. O fewn ychydig linellau mae’n medru crynhoi cyfraniad ac argyhoeddiad D.J. yn y cwpled rhyfeddol, ‘Honni hawl hen wehelyth/ Rhag darfod o’i bod am byth’.Mae’n gywydd sy’n crynhoi eto ddelwedd carfan o Gymry Cymraeg o D. J. a’u gwerthfawrogiad ohono, ‘Y gŵr tanbaid eneidfawr/ O hil faith Llywele Fawr’. Roedd yn ysgogydd, yn ysbrydolwr, yn ymbiliwr, gwedd ganolog ar yr yrfa ymgyrchol gyhoeddus a olrheinir yn yr astudiaeth hon, gwedd y mae’r bardd eto’n ei dal yn ddeheuig gampus: ‘Rhodio’n calonnau’r ydwyt, /Ymbil ar yr hil yr wyt’.