Ailfesur y Filltir Sgwâr: D. J. Williams, Dan Amor a mi
(Papur a draddodwyd yng nghynhadledd Theoreiddio Cymru, Gregynog, 13 Gorffennaf 2010)
Mae hwn yn bapur personol, myfïol hyd yn oed. Mae’n gynnyrch ac yn fynegiant o idioddiwylliant unigolyn a anwyd ganol yr ugeinfed ganrif o fewn teulu a chymuned Cymraeg eu hiaith. Bydd gennyf sylwadau yn codi o’r ymchwil sydd gennyf ar y gweill ar hyn o bryd ar D. J. Williams,ond fe’u cymysgir â deunydd sy’n codi o’r pleser a gaf fel gwrandawr ar gerddoriaeth un artist cyfoes Cymraeg, a byddaf yn ceisio deall pam fy mod i mor awyddus i wneud cysylltiad rhwng y ddau, ac i dadogi cymaint o arwyddocâd ar waith Dan Amor o Benmachno.
Y cysylltiad arwynebol yw cyfeiriadau at y ddau fel dynion eu milltir sgwâr. Ceir un o’r cyfeiriadau amlycaf at ‘y filltir sgwâr’ yng ngwaith D. J. Williams ym mharagraff olaf pennod gyntaf ei gyfrol hunangofiannol gyntaf Hen Dŷ Fferm (1953). Mae’n baragraff yr apeliodd ei ymchwydd rhethregol yn fawr at edmygwyr a dilynwyr D. J. Fe’i defnyddid fel darn adrodd, cynhwyswyd darlleniad T. James Jones ohono ar y record finyl Cofio D. J. a gyhoeddwyd gan gwmni Sain yn 1973 (Sain 1006D). Argraffwyd y paragraff yn llawysgrifen D. J. ar ffurf taflen neu boster hefyd yn ystod yr un cyfnod, enghraifft drawiadol o’r eiconograffeg genedlaethol a gynhyrchwyd gan genhedlaeth iau a brofai golledion o blith y genhedlaeth hŷn (Gwenallt yn marw yn 1969, J. R. Jones a D. J. yn 1970, Waldo yn 1971) ar yr un pryd ag yr ymgyrchwyd i ennill brwydrau gwleidyddol ym maes hawliau iaith.
Mae’r darn dan sylw yn cynnwys mawl teimladol i’r ‘hen ardal’, ‘dyma fro y broydd, y godidocaf ohonynt oll’; mynegiant eithafol a gormodieithol o berthynas yr awdur â hi: ‘Dysgais ei charu...cyn dechrau cerdded...fe’m meddiannwyd i ganddi’. Priodolir i’r fro rhyw rym cyfrin, lled ysbrydol. Cydnabyddir mai golwg alltud ar y fro sydd ganddo, ond honnir mai’r fro a roes iddo ei ideoleg a’i wleidyddiaeth:
Y brogarwch cyfyng hwn, os mynner, a’i ganolbwynt yn “y filltir sgwâr” yn Hen Ardal fach fy mebyd lle y gwelais i bethau tecaf bywyd a’m gwnaeth i yn Shirgar anobeithiol. Dyma graidd fy ngwladgarwch, os caniateir i mi ddefnyddio gair a enllibir gymaint, drwy’r cenedlaethau, heb i mi ei lychwino na’i ddifwyno ymhellach.
A chymaint mwy dilys ac ystyrlon, medd yr awdur aeddfed o genedlaetholwr rhwystredig yn 1953, yw’r brogarwch hwn o’i gymharu â’r rhyng-genedlaetholdeb ffasiynol a arddelir gan bobl ‘mor llydan fel nad oes ganddynt ochrau i ddal dim’.
Fe gydiodd yr ymadrodd ‘y filltir sgwâr’ yn anwahanadwy wrth y ddelwedd gyhoeddus o D. J..Fe’i ceir yn y ddwy gân deyrnged a luniodd Dafydd Iwan iddo. Lluniwyd y gyntaf yn syth ar ôl marw D. J.a dyma’r fwyaf aruchel o’r ddwy, yn defnyddio iaith ysbrydol ei chysylltiadau. Yn y cyswllt hwnnw, ‘y fflam na ddiffydd byth’ y dywedir:
Fe welodd hwn ryfeddod/ A hud ei filltir sgwâr,
Adroddodd inni chwedlau llon ei hil,
Dangosodd inni fawredd/ Gwerin yr erwau gwâr
Rhoes gip i ni ar ryddid yn ei sgil.
‘Rhyfeddod, ‘hud’ ‘chwedl’ - mae’r myth yn cael ei greu o flaen ein llygaid, megis, a honiad D. J. mai’r bychanfyd hwn a’i werthoedd yw’r allwedd i ddyfodol Cymru yn cael ei dderbyn a’i gofleidio. Roedd yr ail gân a luniodd Dafydd Iwan i’w arwr, ‘Cân D. J.’ fel pe bai am gywiro ychydig ar gywair aruchel y gân gyntaf, ‘Peidiwch meddwl bod D. J. yn sant a ddaeth o’r ne’ / Roedd e’n ddyn o gig a gwaed fel chi a fi’ – fel ‘na mae’n dechrau. Yn y cyd-destun hwn mae llinell gynta’r cytgan ‘Dyn y filltir sgwâr’ yn pwysleisio’r dyn cyffredin gwerinol, gwreiddiedig – ond heb golli’r pwyslais ar swyddogaeth hanfodol, allweddol y filltir sgwâr – Am ei fod e’n ddyn y filltir sgwâr y llwyddodd hefyd i fod yn ddyn Shir Gâr ac yn ddyn i Gymru gyfan.
Dyw hi ddim yn hawdd mynd ati i ganfod bylchau, gwrthebau, eironïau, yn y defnydd o’r ymadrodd benthyg o’r Saesneg ‘the square mile’ a byddai astudiaeth gronolegol o’i ddefnydd yn ddadlennol (yn 1858 y mae Geiriadur Prifysgol Cymru yn cofnodi’r defnydd cyntaf). Yng nghyd-destun y cofiant llenyddol i D. J. sydd ar y gweill gennyf bydd agweddau mwy cymhleth ar y berthynas â’r ‘hen ardal’ yn anochel yn cael eu harchwilio. ‘Hen ardal’ yw hi wedi’r cwbwl, ac ardal yr oedd e’n ddigon awyddus i’w gadael pan oedd gorwelion ehangach yn galw – yn wir onid prif gyfraniad ‘y filltir sgwâr’ i fywyd D. J. am flynyddoedd maith oedd bod yn ffynhonnell incwm – y rhent a gâi ar eiddo’r teulu ac a rannai gyda’i chwaer? Afraid dweud na chafodd y wedd faterol hon ar ei berthynas â’r filltir sgwâr y sylw a gafodd ei weithred hunanaberthol yn rhoi’r £2000 a gafodd o werthu’r hen gartref ym Mhenrhiw yn 1966 i goffrau Plaid Cymru.
Elfen allweddol arall yn naratif ‘y filltir sgwâr’ wrth iddi ddatblygu oedd ei bod yn fychanfyd dan fygythiad, o du all-lifiad, mewnlifiad,coedwigaeth, militariaeth neu ddyfroedd cronfa ddŵr. Bydd hwn yn faes cyfarwydd i chi ac roedd D. J. Williams yn un o’r awduron a drafodwyd gan Kirsti Bohata yn ei phennod ‘The Battle for the Hills’ yn Postcolonialism Revisited. Wn i ddim a oedd cyfeiriad, ymwybodol ai peidio, yn nelwedd Waldo Williams o’r ‘fforest ddiffenestr’ yn ‘Preseli’ (1946) at weithgareddau’r Comisiwn Coedwigaeth, ond buasai hynny’n addas, oherwydd sarnwyd ar ‘filltir sgwâr’ D. J.gan goedwigaeth yng ngolwg y rhai a gofiai’r gymdeithas fel yr oedd- a chrewyd darluniau catastroffig o ddisodliad cymdeithasol yn yr ardal gan feirdd fel W. Leslie Richards yn’Cwm Llanllawddog’ a D. Gwenallt Jones yn ‘Rhydcymerau’. Roedd y beirdd hyn ac eraill yn gallu elwa ar gysylltiadau hen fotiffau am golled o fewn y traddodiad barddol Cymraeg,ond daeth rhai darllenwyr i deimlo nad peth cwbwl iach i’r psyche cenedlaethol oedd ailadrodd naratif colled a dioddefaint – victimhood – hyd syrffed – nid o safbwynt undonedd cywair yn unig ond oherwydd y peryg o fferru mewn ystum hunandosturiol, clwyfus. Rhaid cydnabod serch hynny bod grym i’r ddadl bod cofio’r hyn a ddigwyddodd yn Nhryweryn ac ar fynydd Epynt (testun y cyflwyniad dramatig ‘Mae’n ddiwedd byd yma’ )yn gallu herio ac annog cymunedau cyfoes i warchod eu milltiroedd sgwâr nhw (gwnaed cymhariaeth ddadleuol gan Gmmdeithas yr Iaith rhwng Tryweryn a pholisi Cyngor Sir Gwynedd ar gau Ysgol Gynradd y Parc) ond tebyg bod fy mhrofiad i o berthyn i gymuned a lwyddodd i wrthsefyll bygythiad i foddi tiroedd er mwyn creu argae ar draws afon Gwendraeth Fach (Adroddais yr hanes yn y gyfrol Cloi’r Clwydi yn 1983) yn fy ngwneud yn ddiamynedd â’r slogan sy’n fy annog i gofio methiant Tryweryn ar wal ar y ffordd rhwng de a gogledd.
Un o’r cerddi enwocaf am golled a disodliad cymdeithasol-ieithyddol oedd ‘Cwm Carnedd’ gan Gwilym Tilsley, (cerdd arall a drafodir yn Postcolonialism Revisited). Fe’i seiliwyd ar yr hyn a welodd y bardd, gweinidog gyda’r Methodistiaid Wesleaidd ,yng Nghwm Penmachno yn Sir Gaernarfon. Pentref cymharol newydd a gododd yn sgil y diwydiant llechi ar ddechrau’r 19g oedd Cwm Penamchno, ond gyda dirywiad cysn chwareli o ddiwedd y Rhyfel Mawr mlaen roedd diboblogi yn anochel ac roedd pethau’n nesu at y terfyn pan oedd Tilsli yn byw yn yr ardal. Priodolwyd i goedwigaeth hefyd ei ran yn y chwalfa, gan i hynny roi ergyd i hyfywedd amaethyddol yn ogystal â’r un diwydiannol:
‘Lle bu preiddiau gwyllt y bryniau/ Ar y llethrau garw a llithrig,
Tir a hawliwyd, coed a blannwyd/Mur a godwyd,môr o goedwig’
Ac fe lenwir y faciwm cymdeithasol, medd llinell olaf y gerdd sy’n swnio braidd yn henffasiwn ac yn annerbyniol ei rhethreg bellach, gan ‘Saeson hinon ha’.
Hanner can mlynedd yn ddiweddarach enillwyd cystadleuaeth yr erthygl grafog yn Eisteddfod Caerdydd 2008 gan Vivian Parry Williams, cyn frodor o’r cwm sy’n byw bellach ym Mlaenau Ffestiniog. Diflaniad hen gymdeithas Cwm Penmachno yw pwnc yr erthygl, ac mae e’n cyfeirio at gerdd Tilsli ynddi. Galarnad o erthygl yw hon, yn dywyll hiraethus ddiobaith. Sonnir am ‘dranc y pentref’ sonnir am ystadegau ‘sy’n ddigon i dorri calon unrhyw Gymro o’r iawn ryw’, rhoddir y bai ar wleidyddion am beidio ag ymyrryd i arbed y gymdeithas a oedd yno unwaith. Darllenodd beirniad y gystadleuaeth Simon Brooks yr erthygl yn isdestunol fel cyfraniad i’r ddadl ar gadw ysgolion pentref bach ar agor, ond cri bersonol o’r galon sydd yma, ond cri sy’n awgrymu efallai peth mor ddiffrwyth a di-fudd yw hiraeth am gymdeithas ddiflanedig a oedd yn gynnyrch amodau economaidd cyfnod arbennig na elir byth eu hadfer. Mae’n arwydd hefyd nad yw’r Cymro Cymraeg ingol ymwybodol o’i golled ddiwylliannol yn barod i gydnabod dilysrwydd cymdeithas newydd wahanol sy’n datblygu ar yr un filltir sgwâr ddaearyddol – i VP-W fe ymddengys fod Cwm Penmachno wedi mynd, wedi marw, er bod yno gymuned ‘amgen’ yno bellach sydd wedi addasu capel Shiloh yn ganolfan gymdeithasol sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol, ond gan adlewyrchu’r ffaith mai cymuned Saesneg ei hiaith sydd yno bellach.
Un o Benmachno, yn fab i rieni digymraeg o fewnfudwyr, yw’r canwr (singer-songwriter) cyfoes Dan Amor. Cymeradwywyd ei waith i mi ddechrau 2008 a’r pleser eithriadol dwi di gael yn gwrando ar ei gerddoriaeth yw’r peth pwysicaf am fy mherthynas i â’i waith. Ond rwy’n sylweddoli mod i hefyd yn raddol wedi priodoli iddo arwyddocâd diwylliannol ehangach. Dysgodd Dan Amor Gymraeg yn Ysgol Gynradd Penmachno; mae’n cyfansoddi ac yn perfformio trwy’r Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’r rhan fwyaf o’r caneuon a ryddhaodd fel artist unigol yn ganeuon Cymraeg. Yn gymysg a’r alawon a’r harmonïau hyfryd sy’n nodweddu ei waith ceir mynych gyfeiriadau at dir a thywydd ei gynefin (‘Y Tir a’r tywydd’) yw teitl un gân. Fe’i disgrifiwyd unwaith fel ‘dyn ei filltir sgwâr’ ar ol dweud mai’r lle delfrydol yn ei ardal i gynnal gig fyddai wrth ymyl ei dŷ, ac nad oes dim ond rhaid edrych allan trwy ffenest ei gartref i chwilio am ysbrydoliaeth. Dyma’r cefndir i ddelweddaeth a geirfa caneuon fel ‘Disgyn mewn i Freuddwyd’ [darn o’r haf yn Rhagfyr,lliwiau yn dy ben . .. glaw dros rhan fwyaf o’r allt, chwythodd y gwynt drwy dy wallt... Cofio beth sy’n cuddio lle mae’r haul yn suddo , cyfnos lawr y dyffryn ma na dal haul yr allt,Pelydryn yn y gegin yn toddi mewn i’r cefndir’;
Mae cân arall yn agor ‘Dyddiau gwlyb yn fy nyffryn/Y nant yn methu cymryd straen’ (‘Gwin, gwlith, gwawr’), un arall eto ‘Llinellau glas a llwyd/ Erioed di gweld glaw fel hyn ym Mehefin’ (‘Seren Bren’)(mae ei fam Yvonne Amor, yn artist a hi a ddyluniodd ac a ddarluniodd yr amlenni lliwgar, llawen sy’n dal y crynoddisgiau); y cynefin hwn yw’r gronfa drosiadol iddo fynegi ei deimladau trwyddynt – ‘Pam mae’r llyn ddim yn dal ei adlewyrchiad?/ Achos mae’n bwrw glaw o hyd/ Dwi di rhoi fy nghalon , fy ngolau, y golau yn fy nghalon i ti’ (‘Adlewyrchiad’); ‘Genod tlws yn y ddinas, cefn gwlad glas/Mae na dal rew rhew i’w doddi yn y filltir sgwâr/patrymau glas ac aur dan y nen rhwng yr haul a chdi.’ (‘Glas ac Aur’)-Mae un o’i ganeuon Saesneg yn sôn am ‘The only hills I know’ ac un arall am ‘November Gold forbidden by green /valleys that August have seldom seen’.
I mi fe ddyfnhawyd y pleser esthetaidd o wrando ar ganeuon Dan Amor gan y sylweddoliad fod yma artist a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith (ceir nodweddion’ansafonol’ yn ei ynganiad a’i ramadeg) wedi dehongli tirlun a thwyydd bro yr oedd syrffed o ddelweddau negyddol wedi hel yn ei chylch. Mae rhywbeth hardd, gwerthfawrogol, llygad agored yn ymateb DA i ‘fy nyffryn’ – mor braf yw’r meddiant a’r balchder a ddynodir gan y rhagenw meddiannol – mae’r filltir sgwâr hon yn cael ei mesur a’i harwisgo ag ystyr o’r newydd gan y caneuon hyn. (Rwy’n gallu gwerthfawrogi ailfeddiannu ac ail-leisio tebyg gan lenorion Saesneg eu hiaith gyda llaw, yr enghraifft amlwg fyddai darlun Tom Bullough o dirlun –a glaw – Maesyfed yn The Claude Glass. Wna’i ddim helaethu chwaith ar sut mae Sleep Furiously ffilm Gideon Koppel am gymuned Trefeurig yng Ngheredigion yn ymateb i’w ‘hen ardal’ e.
Wrth gwrs rwy’n cyfaddef fy mod yn rhoi pwysau annheg ar ganeuon melys Dan Amor, yn gwthio arnynt fy nymuniad i am naratif llai galarnadol ar gyfer y broydd Cymraeg,un sy’n rhydd o’r ymdrybaeddu mewn hiraeth am a gollwyd, un a leisir gan genhedlaeth brith ei chefndir ieithyddol yn rhydd o gonfensiynau arddullegol y gorffennol hefyd. Ac efallai bod cymhelliad seicolegol dyfnach, mwy personol nad wyf yn ei wynebu’n agored. Rwy’n dal i fyw yn yr ardal lle ces i fy magu, rhyw dair milltir o nghartref. Prynodd fy nhadcu a’m mamgu ffarm fechan o’r enw Blaenywern ddechrau’r ugeinfed ganrif, gan fyw yno tan i’r ifanca o’u naw plentyn briodi yn 1951 a phrynu’r lle ganddynt. Yno y ces i fy magu .Gwerthwyd y cartref yn 1991 ac ers hynny bu tri pherchennog gwahanol. Erbyn hyn mae Blaenywern yn gartref i’r Heartwood Community, rhan o rwydwaith cymunedau Diggers and Dreamers a cheir tuedd i gyfeirio at enw’r lle fel ‘Heartwood’. ‘Our long term plans’ yn ôl gwefan http://www.diggers anddreamers.co.uk ‘involve up to 12 adults with children. We have a pony that pulls a cart and helps with woodland management . . . Our practice of permaculture and sustainability includes maintaining sustainable relationships with each other as well as with the land we live on; this forms the basis of our own community’. Rhoddwyd cymorth mawr i’r gymuned i ddatblygu ei gweledigaeth gan y Comisiwn Coedwigaeth trwy gynllun Cydcoed, cynllun Amcan Un Comisiwn Coedwigaeth Cymru – cafwyd cymhorthdal o £120,000 i ddatblygu’r allt y chwaraewn ynddi’n blentyn,’ the scheme has opened up a beautiful 12 acre wood with new paths, bridges, a sculpture trail and a roundhouse education centre, which is available to groups from the local community and beyond for access to outdoor learning’. Yn ogystal â datblygu’r hen allt mae’r gymuned hefyd wedi plannu coed newydd ym mhobman ac wedi gadael i rannau o dir dyfu’n wyllt. Alla’i ddim edrych ar yr olygfa heb deimlo bod dros 80 mlynedd o ffermio gofalus, pwrpasol gan fy nhad a nhadcu wedi’i danseilio, a hyn heb sôn am y newid ieithyddol a diwylliannol . Mae’r temtasiwn i ildio i hiraeth a mesur o chwerwder yno. Ond mae’r cul-de-sac emosiynol hwnnw yn un y mae’n rhaid ei wrthod – mae hyn i gyd yn rhan, felly, o’m hidioddiwylliant i, rhywbeth a’m gyrrodd i greu’r cysylltiad rhwng dau ddyn a dwy filltir sgwâr.