Straeon Cynnar D. J. Williams 1914-1920
Y stori fer a’r ddrama oedd cyfryngau poblogaidd ac arloesol cyfnod aeddfedu D. J. Williams. Dyw hi’n syndod yn y byd iddo dro at y stori fel ei gyfrwng creadigol cyntaf. Yn Cymru y cyhoeddodd ef bump o’r chwech stori a gyhoeddodd rhwng 1914 a 1920. Cylchgrawn arall dylanwadol oedd Y Beirniad, a olygwyd gan un o wŷr mwyaf dyalnwadol y cyfnod, Yr Athro John Morris Jones o Fangor. Ar dudalennau’r Beirniad y cyhoeddwyd straeon cynnar J. J. Williams ac eraill. Roedd cyfrol R. Dewi William (g. 1870), Clawdd Terfyn (1912) eisoes wedi gwneud cryn argraff. Enw amlwg arall ymhlith yr arloeswyr cynnar oedd Richard Hughes Williams, ‘Dic Tryfan’ (1878-1919) o Rosgadfan yn Sir Gaernarfon, awdur Straeon y Chwarel (1914) a Tair Stori Fer (1916). Heb enwi mwy na’r tri hyn canfyddir nad ffurf sefydlog unffurf oedd y stori fer Gymraeg pan aeth D. J. ati i roi cynnig arni. Yr ail stori a sgrifennodd, yn ôl ei ail gyfrol hunangofiannol, Yn Chwech ar Hugain Oed oedd ‘Hen Gleddyf y Teulu’, ‘stori nad wyf am ei gweld mwyach’ ym marn gloriannol yr hunangofiannydd.
Er nad yw’n anodd deall awydd yr awdur i ddileu’r stori gynnar hon o’i yrfa,nid yw’n syndod ychwaith i ganfod fod ynddi ddeunydd cyfoethog i’r darllenydd ystyriol. Ceisio gwneud gormod, agor gormod o wythiennau, a wnaeth D. J. yn ‘Hen Gleddyf y Teulu’, stori gyfoes ei hamseriad a diwydiannol ei lleoliad cychwynnol yn Aberdâr. Mae’r teitl yn cyfeirio at un wythïen, y chwedl am felltith hen gleddyf o fewn teulu’r prif gymeriad, trywydd cyfarwydd mewn llenyddiaeth boblogaidd, ond cwbl ddianghenraid yn y stori hon. Ceir yma hefyd berthynas garwriaethol rhwng Twm ac Enid, gobeithion Twm am adfeddiannu hen gartref y teulu yn Sir Gaerfyrddin, a’r wasgfa a roddir ar ei obeithion a’i berthynas gan y rhyfel sydd newydd dorri yn Ewrop. Mae mwy na digon fan hyn; yr argyfwng y dylasai’r awdur ffocysu’n fwy unplyg arno yw’r ffrae rhwng Twm ac Enid: hi’n edliw iddo’i lwfrdra yn peidio ag ymrestru yn y fyddin fel rhai o ddynion eraill yr ardal, heb wybod mai ei dylanwad hi yn unig a’i cadwodd rhag bodloni’i ysfa i wneud hynny. Yntau wedyn yn listio fore drannoeth ac yn y man yn brwydro’n arwrol ac yn marw ym mrwydr afon Aisne.
Does dim rhaid cloddio’n ddwfn iawn i gymeriad Twm yr halier cyn taro ar is-destun hunangofiannol. Un o Shir Gâr, o ardal Llandeilo yw Twm, ‘yn hanu o hen deulu pur gyfrifol yn y sir’, ond un a wasgarwyd ar ôl marw’r tad a gwerthu’r hen le. Breuddwyd Twm yw cynilo digon i brynu’r hen gartref. Mae e, fel D. J., yn ei gael ei hun yng ngwlad Morgannwg a’r pyllau glo. Yn wahanol i D.J., ond nid yn anghyson â breuddwydion D. J., bu Twm yn ymladd gyda’r Bwriaid yn Ne’r Affrig ac yn gweithio ar ransh yn America. Ac y mae’r afiaith amhasiffstaidd a amlygir wrth ddisgrifio’r brwydro erchyll yn y Rhyfel Mawr yn datgelu agweddau at yr ymladd na fyddai’r awdur am ei harddel yn ddiweddarach.
Er mai byr yw arhosiad ei gariad, Enid Bifan, ar ganol llwyfan y stori, mae’r modd y mae’r awdur yn trin un o’i gymeriadau benywaidd cyntaf yn ddadlennol. Awgrymir deuoliaeth a thensiwn rhwng cnawd ac ysbryd, rhywioldeb disgybledig yn gymysg ag ysbrydolrwydd dyrchafol. Mae’n ‘nwyfus’, ‘bywiog’, ‘talp o deimlad a serch’; mewn cywair mwy barddonol ceir ynddi ‘[g]wallt ac emrynt y nos, a chalon a thegwch y dydd’. Ac yn fwy llwythog ei awgrymusedd eto, ‘er yn danbaid a brwdfrydig ei hysbryd, meddai ar ddigon o ddoethineb a synnwyr cyffredin i gadw ei theimladau dan reolaeth deg’. Merch y capel ydyw, wedi’r cyfan, a bu ei dylanwad arTwm, yr halier garw, yn un dyrchafol, ysbrydol, yn ‘efengyleiddio ei natur’, yn ei ennill ‘yn ôl at grefydd bore’i oes’.
Ar ei noson olaf, pan yw ar ‘outpost duty’, atgof am Enid a’r ‘ llyfr caneuon bach ‘ny roddodd Enid i mi am addo troi dalen newydd a dod i gapel Soar nos Sul’ sydd yn ei feddwl yn union cyn iddo gael ei glwyfo’n enbyd. Diwedd arwrol, hunanaberthol, sydd i Twm, ac edmygedd yr awdur o wrhydri milwrol eto’n flaenllaw: ‘Gyda dewrder ac ymdrech Brython ar faes y gad, a chryndod angau yn cyflym ddifa nerth ei aelodau, ei lygaid yn rholio’n wyllt, a’i wddf ar dân gan syched ingol, llwyddodd i lusgo’n ol at ei adran cyn llwyr gilio o’i ynni, lle y cafodd nerth i roddi gwybodaeth weddol ddealladwy o ddynesiad a chryfder y gelynion, y rhai, gyda llaw, a gredai yn ddiffael iddo ef syrthio yn gelain ar y fan’.
Y mae’n lleoli’r ail stori a gyhoeddodd, ‘Y Gaseg Ddu’ (1916) mewn ardal gyfagos i’w gartref, ‘Llanaber’ (Llanybydder?) yn nyffryn Teifi. Ond mae’n llai cyfoes ei hamseriad na’i rhagflaenydd. 1846 yw’r flwyddyn, a chyfoesedd garw ambell elfen yn ‘Hen Gleddyf y Teulu’ yn cael ei ddisodli gan liwio dychmygus ar yr hen amser difyr gynt. Mae’r ansoddeiriau sy’n britho’r agoriad - ‘hyfryd’, ‘bywiog’, ‘swynol’, ‘hardd’, ‘tlws’- yn ddigon i ddeall beth yw’r cywair llywodraethol ac o ran hynny beth yw gwendid anghynnil y traethau. Wil yw’r prif gymeriad, un a roes ei fryd ar Elen Ty’n y Fron. Y cymeriad pwysig (a llai gwamal) arall yn ei fywyd yw ‘Black’, caseg ddu’r teitl, ceffyl a achubasai ei fywyd yn y gorffennol, ac anifail y llwythir arno arwyddocâd symbolaidd digon amrwd o’r cychwyn, gan fod tynged Wil ‘wedi ei rhwymo wrth dynged y gaseg ddu’.
Fel yn y stori flaenorol mae tuedd i geisio gwneud mwy nag y gall ffrâm y stori ei ddal yn gyffyrddus . Nid yw’r cynildeb a ddaeth yn amod anhepgor yn y stori fer Gymraeg dan arweiniad Kate Roberts yn amlwg yma. Rhaid i’r stori serch ymladd am ei lle yn erbyn y darluniau o’r hen Gymru lawen y sarnwyd ar ei rhin gan grefydd (gwneir pwynt o ddweud mai Cymru cyn diwygiad 1859 sydd yma.)Felly rhaid manylu ar yr hen arfer o gyhoeddi priodas a gwahodd yr ardalwyr i ymuno yn y dathliadau, yn yr achos yma gan Bili’r Gwaddotwr, ‘pwtyn o ddyn bach, byr, byr, tew, tew’, y cynhwysir ysgrif bortread ohono’n rhan o’r stori.
Yn ogystal â’r arwr a’i fun, rhaid cael dihiryn. Bert Edwards, amheus ei gymeriad a’i weithredoedd yn Llundain bell, yw hwnnw. Nid yw o ddifrif yn ei ymlyniad wrth Elen,ond mae Wil yn ei ystyried yn ‘wrthwynebydd mor beryglus ym mhob ystyr’. Trwy’r ‘pob ystyr’ y cyflëir y bygythiad rhywiol i burdeb Elen gan y gŵr a fu ‘mewn rhyw helynt neu’i gilydd ynglŷn â rhwy chwareuyddes, perthynol i gwmni o’r drydedd radd, yn Llundain’. Ar ddydd y briodas mae Bert yn herio Wil i ras geffylau, gan gymaint ei awydd i drechu’r gaseg ddu, fawr ei bri. Black sy’n ennill y ras i. Dilynir hyn gan ddisgrifiad o’r ‘daith’ neu neithior yn yr oes a fu, pan oedd y cwrw hyd yn oed yn emblem o gyflwr purach, dilwgr: ‘Diod wedi ei bragu a’i macsu gartref a geid yr adeg honno – trwyth dilwgr yr haidd dyfai ar fronnydd Cymru ei hunan; ac nid rhyw olchion diflas wedi treulio ei nerth allan yn llwyr ym mhibellau’r gyllid a’r darllawdy, fel a geir heddiw’. O dipyn i beth try pethau’n gas yn y neithior, a’r canlyniad yw rhedeg ras arall rhwng y ddau farchog gelyniaethus. Yn ddisgwyliedig mae Black yn ennill eilwaith ond yn marw wrth wneud ar ôl i Wil roi ei sbardun yn ei hochr am y tro cyntaf erioed. Ond hyn sy’n gorfodi Elen i ddangos mai Wil piau ei chalon. Ond diweddglo gwanllyd ac anfoddhaol a gawn: ‘Unwyd y ddwy galon yma, a ysgarwyd am ychydig gan ystryw amgylchiadau, uwchben calon doredig y Gaseg Ddu’. Fel yn ei stori gyhoeddedig gyntaf, y diffyg canolbwyntio ar un trywydd yw’r bai amlwg.
Yn ôl i Forgannwg a’r gynhysgaeth brofiadol a enillasai yno yr aeth am ei stori nesaf, ‘Mari Morgan’. Stori ddelfrytgar,foeswersol yw hon; garw ei chyd-destun cymdeithasol ar y wyneb, ond meddal ei chalon. Arwres ddilychwin ond ymylol y stori yw’r wraig a roes deitl iddi, yr un na fu ‘erioed garedicach lletywraig’ na hi. Fel Enid y stori gyntaf, mae ei dylanwad ar ddynion yn un dyrchafol ac ysbrydol. Un o’r dynion a ddyrchefir ganddi yw ei gŵr, John Bach, a fuasai’n ymladdwr yn ei ieuenctid. Yn wir mae’r stori’n agor gyda’r ornest awyr agored rhwng dau focswr, John Bach a ‘Black Dan’(gogleddwr o’r enw Daniel Roberts). Daw’r heddlu i darfu ar yr achlysur. Caiff ‘Black Dan’ ei ddal, a’i garcharu am 4 mis, ond gan wrthod rhoi enw ei wrthwynebydd i’r heddlu, gweithred sy’n creu argraff annileadwy ar John. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, wedi’i wareiddio gan gan ei wraig, John Bach yw John Morgan,blaenor yn eistedd yn sêt fawr Salem, Llanllechau. Rhyw ddiwrnod daw ‘clamp o nafi corfforol heibio’r tŷ i ofyn am waith’. Yn ôl ei hanian mae Mari yn tosturio wrtho ac yn rhoi gwaith iddo yn yr ardd. Pan wêl ei gŵr natur llafur y nafi yn yr ardd mae’n anfodlon iawn, a chan fod ei wraig oddi cartref, ildia i’r demtasiwn i fynd i’r dafarn. Yno, yn amlwg wedi dwyn cot John yn ogystal â chymryd mantais ar garedigrwydd y wraig, y mae’r nafi. Mae John yn mynd i’r afael ag ef ond yn cael ei lorio ganddo ac yn cael ei gario tuag adref ‘gan bedwar o ddynion ar hyd un o heolydd mwyaf prysur Llanllechau’. Y canlyniad anochel yw disgyblaeth eglwysig, ac mae’r gweinidog a’i flaenoriaid yn ymweld â John yn ei gartref. Mae tipyn o ysbryd ‘hen ymladdwr cyndyn a thawedog y mynydd gynt’ yn John, a Mari sy’n gorfod ymddwyn yn weddus ysbrydol yn yr argyfwng: ‘Yr oedd ei chalon hi’n llyn o drallod. Hyhi a ddygai benyd yr edifeirwch i gyd, er y rhoddai ’i gŵr ambell edrychiad cilwgus arni am hynny. Llifai ei dagrau fel dagrau Magdalen gynt yn frwd ac araf dros ei gruddiau’.
Ar ganol yr olygfa hon daw curiad trwm ar y drws a daw’r nafi i mewn, ac ar unwaith mae’n dechrau dweud ei brofiad yn yr hyn y mae’n ei alw’n ‘seiat’. Pan ddatgelir mai ‘Black Dan’ ydyw, mae John yn ei gyfarch fel ‘y’n hen ffrind gora i’ ac yn ei gofleidio. Yn fwy arwyddocaol fyth, mae’n priodoli i’w hen wrthwynebydd ddylanwad ysbrydol mwy sylweddol na dim a gafodd o fewn y grefydd gyfundrefnol: ‘ “Torrwch fi ma’s o’r seiad pryd mynnoch chi yn Salem ‘na. ‘Dw i ddim llawar o ‘sboniwr y’n hunan, ond ‘rwy’n credu mod i’n gwpod rhwpath am ysbryd Iesu Grist drw’r cwpwl. A ma’r hen Flack Dan ‘ma wedi dangos mwy o hwnnw i fi na’r un pregethwr na blaenor gwrddas i ario’d.’ Y gŵr garw, un o bobl yr ymylon, yw cyfryngwr yr efengyl i John. Caiff le i fyw gyda John a Mari, ac fe’i gwelir cyn bo hir yn y cwrdd nos Sul, ‘a phâr o ddillad splended am dano’. Ac fe ddygir i gof eiriau rhyw Ianto Cardi a fu’n ‘lodjo’gyda Mari, geiriau a lefarwyd y noson cyn ei ladd mewn ‘tanad’: ‘ “A’th dim un ened ar goll ario’d, fu’n aros ‘da Mari Morgan”’. Mae gan Mari ddoniau cadwedigol, felly. Neges drwyadl ddyneiddiol sydd yma yn y bôn, un sy’n gwrthod y syniad o angenrheidrwydd ymyrraeth oruwchnaturiol. Fel y mae cymdogaeth dda yn gyfrwng achubiaeth yn straeon J. J. Williams, mae purdeb cymeriad benywaidd yn gyfrwng tebyg ei effaith yma.
Storïau am serch a siom serch yw’r ddwy nesaf a gyhoeddodd, sef ‘Y Fan’(1917) a ‘Cadw’r Mis’ (1918). Yn y gyntaf mae’r traethydd yn ei gofio’i hun yn grwt pymtheg oed yn dwli ar Het y Llechwedd a oedd ddwy flynedd yn hŷn nag ef. Mae’n drawiadol mai iaith feiblaidd ei tharddiad a ddefnyddir i gyfleu cariad glaslencynnaidd: ‘Ychydig o’r ymgom agofiaf yn awr,ond cofiaf fod fy nghalon yn llosgi ynof ar hyd y ffordd, gan rywbeth newydd a dieithr i mi ar y pryd.’ Elfen arall y tynnir ein sylw ati yw’r naws hydrefol a oedd mor gyffedin yng ngwaith beirdd dechrau’r ganrif: ‘Ymlanwai tarth yr Hydre’n donnau tew o’n cwmpas erbyn hyn’. Dichon bod yma elfennau poenus o hunangofiannol yma hefyd, nid yn unig o ran profiadau carwriaethol; fel y traethydd, bu D. J. yn barddoni’n ifanc: ‘Am y tro bûm yn fardd hefyd, os yw llond tri chopi ceiniog o rigymau mewn ysgrif fân, burion destlus, yn brawf digonol o’r gwir fardd mewn dyn’. Ac fel yn achos yr awdur, profodd y traethydd chwithdod yn ei amgylchiadau ar ôl marw ei dad. Ac er i Het, er syndod iddo, ddweud wrtho mai fe yw ei chariad hi mewn gwirionedd, gadael yr ardal i weithio ym maes glo Morgannwg yw ei hanes, gan golli golwg ar Het. Priodas anhapus a marwolaeth ifanc yw ei thynged hi, a daw stori leddf i’w diwedd affwysol felodramatig gyda’r traethydd yn cyfaddef iddo geisio cymuno ag ysbryd Het yn eu hen gyrchfan, ac awgrym ei fod yn mynd i wneud amdano’i hun ar bwys ei bedd.
Mae ‘Cadw’r Mis’ yn sioncach stori ac mae’r cyffyrddiad dychanol yn y portread o’ r pregethwr ifanc ymhonnus Ishmael Samuel yn elfen i’w chroesawu. Llawn mor ddifyr yw’r ymddiddan tafodieithol rhwydd a geir yma, ac yn fwy na dim synhwyrir bod yr awdur yn bodloni ar wneud llai yn ei storïau, yn hapus i gyflwyno darn o fywyd heb ei ystumio’n ormodol â chonfensiynau llenyddol. Os yw’r darn hwnnw o fywyd yn cynnwys elfen o ffârs weithiau, boed felly. Gofid John ŵr Marged yw nad oes ganddo gerbyd addas i gyflawni’r gwaith o gludo pregethwr y Sul o’r orsaf gyfagos, ac yntau newydd ei wneud yn flaenor ac yn cadw’r mis, sef rhoi llety a lluniaeth i bregethwyr gwâdd. Yn y diwedd rhaid iddo ddefnyddio’r hen gaseg deirclun, Dandi, i gyrchu’r pregethwr sy’n cystadlu â’i fab, Willie, (myfyriwr yn Aberystwyth) am serchiadau un o ferched y fro, ‘Elen Glen View’. Siomir y cyw bregethwr gan ansawdd y ddarpariaeth ar ei gyfer, a thry siom yn warth wrth i’r hen gaseg ‘godi trot’ anodd ei reoli ar ei ffordd tuag adref, nes peri i gynnwys ‘hand-bag’ Ishmael fynd ar wasgar. Wrth i’r gaseg garlamu trwy’r pentref gwelir yr olygfa ryfeddol gan Elen Glen View. Gyda’r nos mae Ishmael yn mynd am dro, gyda’r bwriad o weld Elen, ond siom greulonach sy’n ei aros. Clyw ei fun yn siarad â gŵr ifanc arall (sef Willie, erbyn gweld) gan adrodd gydag afiaith yr hanes am orymdaith Dandi trwy’r pentref. Manylir hefyd ar yr hyn a gwympodd o’r ‘hand-bag’, sef ‘dwy faneg cid ffein, admiralty collar 15P, tooth brush, night shirt, a phregeth Thomas John Cilgerran mewn manuscript’. Mae’r maldodyn ymhonnus sydd wedi mynnu cael rhywun i’w gyfarfod yn yr orsaf yn hytrach na cherdded, fel y gwnâi amryw yn ei oedran ef, hefyd yn pregethu pregethau pobl eraill. Dyw hi’n syndod yn y byd, felly, nad yw Willie, er holl geryddon ei fam, yn llwyddo i godi o’i wely i fynd i’w glywed bore drannoeth.
Ceir darn difyr arall o fywyd gwledig yn ‘Y Beinder’, y stori olaf iddo’i chyhoeddi yn Cymru (1920). Gwir bod yma ddiweddglo clyfar, anfoddhaol fel gyda’r storïau blaenorol, ond gellir gwerthfarwogi’r sylwebaeth gyfoes, fachog ynghyd â’r portreadu diweniaith. 12 Awst 1918 yw dyddiad y digwydd yn y stori; a’i arwyddocâd yw dyfodiad y beinder, peiriant cynaeafu ar fenthyg gan y Llywodraeth i’r ffermwyr am fod gweithwyr amaethyddol yn brin. Jones y Glog yw’r ffarmwr sy’n elwa, ‘gŵr bychan, byrgoes, dwrgiaidd yr olwg arno’. Ond peiriant trafferthus yw’r ‘beindar’ a diwrnod trafferthus, rhwystredig a ddaw i ran Jones, druan: ‘Ymdonnai’r yd yn gefnfor melyn, faes wrth faes ar dir y Glog, ond Ow! A’r haul eto’n uchel yn y ffurfafen dyma’r juggernaut bachog hwn y bu’r Llywodraeth fawr yn ei hwtro ar y bobl, unwaith eto wedi sefyll yn gelach anhydwyth ar ganol y cae’. Nid yw Shoni’r dreifwr yn poeni gormod am hyn – wedi’r cyfan beth yw’r trafferthion hyn yng ngoleuni ei atgofion ‘am yr helynt enbyd ym meusydd ffrainc ryw flwyddyn ynghynt gyda’r cyflegrau ysgafn, - y ceffylau druain hyd eu cyrff yn y mwd ac heb obaith symud cam o’r fan a phelenau’r gelyn yn disgyn yn dorchau tyllog o’u cwmpas ac angau rhwth ei safn yn ymyl bob eiliad’. A chan mai gŵr diamynedd, amharchus o’i weithiwr a braidd yn gybyddlyd yw Jones mae’n colli’i dymer, yn lladd ar Shoni, a chyn pen dim mae’n mynd yn ymladdfa rhyngddynt – ymladdfa fer, sy’n diweddu gyda Jones ‘yn sypyn digoes gryn ddegllath o’r golwg yn yr yd a mwy o ser yn ei wybren nag a welsai er dydd ei briodas’. A chan mai gweithio i’r Llywodraeth y mae Shoni a’i bartner, gall adael y gwaith ar ei hanner a mynd gyda’i bartner i’r swper sydd ar eu cyfer yn y dafarn leol. Ni ellir peidio â gweld yn y darlun o ddiwrnod cynhaeaf helbulus ac aflwyddiannus wrthbwynt gwawdlyd braidd i’r delweddau cyfarwydd o gynghanedd cydweithredol y bwyd gwledig, delwedd a fynegwyd yn fwyaf cofiadwy hwyrach ryw chwartrer canrif yn ddiweddarach gan un o gyfeillion agosaf yr awdur, Waldo Williams, yn ei gerdd ‘Preseli’. Nid gwerinwyr delfrydol na saint dilychwin yw cymeriadau’r storïau cynnar hyn; dyn bach pigog yw Jones y Glog, a thipyn o dderyn yw Shoni. Ac mae’r stori hon yn cyfleu ffws a ffwdan a phoenau diwrnod cynhaeaf yn gywir ac yn gofiadwy.