SLEID 1 ‘Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr’: cenhadaeth a chyfeillach D. J. Williams, Abergwaun Diolch am y gwahoddiad i draethu’r ddarlith hon eleni, edmygaf eich menter yn gofyn i rywun nad yw’n ddiwinydd i draethu ar rywun nad
  • Cartref
    • Darn o'r Rhagymadrodd
  • Cronoleg
    • Cronoleg 1885-1924
    • Crnoleg 1925-1949
    • Cronoleg 1950 ymlaen
  • Trafod Testunau
    • Tair Stori
    • Cyfarch D. J. >
      • Straeon Cynnar
    • Hen Wynebau
    • D.J., Dan Amor a Fi
    • D. J. y Darlledwr
    • Ailgodi'r tŷ: D. J. a Waldo
    • Darlith Eisteddfod y Garreg Las
    • Gwaith a Gweledigaeth D. J. Williams
  • Llyfryddiaethau a Mynegeion
    • Cyhoeddiadau D. J.
    • Llyfryddiaeth
    • Mynegai i Bobl: Hen Wynebau, Hen Dŷ Ffarm,
  • Gohebiaethau
  • English
  • Untitled
  • Ailgodi'r tŷ: D. J. a Waldo
  • New Page
  • Hen Wynebau
    • Blog
  • Untitled


‘Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr’: cenhadaeth a chyfeillach D. J. Williams, Abergwaun

Darlith Flynyddol Adran Diwinyddiaeth Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, 4 Awst 2026



 

Diolch am y gwahoddiad i draethu’r ddarlith hon eleni; edmygaf eich menter yn gofyn i rywun nad yw’n ddiwinydd i draethu ar rywun nad oedd yntau yn sgolor ym mhrenhines y gwyddorau. Er cael llaw rydd i draethu ar D. J. Williams, a D. J. Williams Abergwaun yw e yr wythnos hon, nid ar chwarae bach y codais drywydd a fyddai o leiaf i fesur yn cynhyrchu darlith y gellid ei hystyried yn addas i gylch gorchwyl Adran Diwinyddiaeth Urdd y Graddedigion (cyn-fyfyrwyr)


Nid bod prinder deunydd crai i awgrymu cyd-destunau crefyddol/ ysgrythurol/ ddiwinyddol i fywyd a gwaith D. J. Ond peth arall yw barnu pa mor arwyddocaol yw’r deunyddiau gorluosog hyn mewn amgylchfyd diwylliannol lle roedd iaith ysgrythurol wedi treiddio’n ddwfn ac yn eang i’r iaith lenyddol a chyhoeddus. 


Cyn dod at ein prif benawdau - a thri phen fydd gen i - mae dau drywydd yr wyf am eu crybwyll heb eu dilyn  . . .

Y cyntaf yw pererindod crefyddol/ysbrydol D. J. Williams ei hunan - fe’i crybwyllwn a’i ddefnyddio’n gyfle i’n hatgoffa ein hunain o rai o brif ddigwyddiadau ei fywyd. Ei eni ym mhlwy Llansawel (Llansewyl ar lafar) yng ngogledd Sir Gaerfyrddinyn 1885; ar ochr ei dad o linach Methodistaidd Galfinaidd yr ymfalchïai yn fawr ynddi - un o’i gyndadau, William John, Llywele, yn gynghorwr gyda’r Methodistiaid ac un y canwyd marwnad iddo gan Williams Pantycelyn; sawl cenhedlaeth o’r llinach yn flaenoriaid yn enwad y Methodistiaid Calfinaidd, nes bod eu dilyn i'r swydd yn obaith, yn uchelgais, bron yn fater o hawl ac anrhydedd i D. J ( ac nid ar chwarae bach y cafodd ei ddymuniad ym Mhentowr, Abergwaun, ei gael wrth gyrraedd oed yr addewid). Mae ei sêl genhadol, ei daerni anghyffredin hyd at fod yn niwsans wrth berswadio pobol, yn dod i’r golwg yn fore wrth werthu Trysorfa’r Plant. Mae’n gadael cartref  yn un ar bymtheg oed am wlad  y gweithiau glo, treulio cyfnodau yn Fernale a Blaendulais, ac roedd e’n gweithio yn y Betws ger Rhydaman pan dorrodd Diwygiad 04/05, ond yn aros heb ei gyffwrdd er bod yn bresennol mewn cyfarfod allweddol yn Bethany Rhydaman. Fe gofnododd ei ymateb dadlennol i’r diwygiad hwnnw yn ail gyfrol ei hunangofiant, Yn Chwech ar Hugain Oed, yn 1959:

‘Ond er teimlo’r cynhesrwydd a’r naws hyfrydol drwy’r cyfan, eto, aros yn sylwedydd a fu fy ran i heb i ddim arbennig gyffwrdd â mi’


Cyn diwedd degawd y diwygiad, fodd bynnag, profodd e yr hyn y mae’n ei alw yn yr un gyfrol  yn ‘droedigaeth’ er bod y teitl a roes ar stori fer yn seiliedig ar yr un profiad rai blynyddoedd cyn hynny, 'Cysgod Tröedigaeth' yn gweddu'n well.Yn ystod ei ddwy flynedd yn athro yn Llandrillo ger Corwen y bu hyn. Y cyd-destun yw'r siom enbyd a gafodd D. J. mewn merch ifanc, ‘y fun o Lannau Dyfrdwy’  y rhoes ei bryd a’i serch ar ei hennill. Wedi’i wrthod a’i ddadrithio fe’i bwriwyd i bwll o iselder difrifol a wnaeth iddo gydymdeimlo i fesur â chymhellion yr hunanleiddiad. Ond torrodd gwawr ar ei galon, meddai, ac ni amheuodd y pethau sylfaenol am Dduw ar ôl hynny.  Cafodd D. J. brofiadau isel tebyg ar ôl Llandrillo, siomedigaethau yn ei ganlyniadau gradd yn Aberystwyth ac yn arbennig yn Rhydychen, ac yn fwyaf nodedig yr ergyd a’r rhwystredigaeth a deimlodd eto wrth fethu perswadio merch arbennig er cynnal ymgyrch ddygn dros sawl blwyddyn mai ei thynged anorfod hi oedd ei briodi ef; a’r llythyrau ati gan D. J. yn gynyddol daer ac yn anghyffyrddus o agos at flacmel emosiynol,  wrth iddo ensynio bod ei wrthod ganddi hi yn peri iddo amau popeth, sylfeini ei ffydd. Dyma un o’r elfennau sy’n gwneud cloriannu ei fywyd mewnol yn gymhleth, fel yn achos pawb ohonom. Roedd yn gapelwr selog, yn diolch i Dduw am ei nerthu yn ei waith ac yn ceisio’r nerth hwnnw ganddo - yn cyplysu ei genedlaetholdeb a’i grefydd yn gwlwm annatod fel llawer o’i gyfeillion agosaf, Lewis Valentine gymaint â neb -  ond ei safbwyntiau gwleidyddol, ei genedlaetholdeb a'i heddychiaeth ymosodol yn peri ei fod yn aelod eglwysig anesmwyth,  beirniadol o’r drefn, a pharod i fynegi’r feirniadaeth yn ddeifiol yn gyhoeddus (‘Beth sy’n bod ar yr Hen Gorff - Methodist ar dueddiadau ei enwad ei hun’ oedd y pennawd ar ysgrif ymfflamychol yn y Faner yn 1941).  


Ond eto yn yr arholiad ar gyfer darpar bregethwyr lleyg ei enwad (hyn ar ôl iddo ailafael yn ei addysg ar ôl gadael y maes glo a llwyddo i gyrraedd Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1911) y cafodd lwyddiant academaidd prin  (hynny yn 1913) .  Ystyriodd yrfa yn y weinidogaeth, gan bregethu tri Sul yn olynol ar daith brawf ym mro ei febyd fis Gorffennaf 1913. Penderfynodd beidio â’i gyfyngu ei hun i’r llwybr hwnnw ond arhosodd ei enw  ‘ar y llyfrau’ o fewn yr enwad ar hyd ei oes. Bydda i’n cyfeirio at gynnwys ambell bregeth gynnar o’i eiddo yn y man. Mae mwy i’w ddweud am y trywydd cofiannol yma, ac mae tystiolaeth ei ddyddiaduron yn berthnasol - ond nid dyna’n trywydd penodol bore ma.

Yn rhedeg yn gyfochrog â hyn mae'r wythïen honno o fewn ei yrfa lenyddol y gellid ei henwi yn annigonol yn wythïen grefyddol. Y mae traethu  am grefydd, a’r grefydd Gristnogol yn ei pherthynas â chenedligrwydd yn rhan o gynnyrch ysgrifenedig D. J. o gyfnod cynnar. Byddwn yn cyfeirio at y cynnyrch hwn  ond doedd ei wneud yn brif ffocws ddim yn codi archwaeth arnaf i ac ofnwn hefyd y byddai manylu a chloriannu ei waith yn y maes yma yn arwain at asesiad  negyddol ar y cyfan a fyddai’n ddiflas i mi draethu amdano ac yn ddiflasach byth i chi wrth wrando. Mae awdur mor gydymdeimladol â D. J . â'r diweddar Emyr Hywel o'r bröydd hyn, o Flaenporth,  yn gywir yn ei gasgliad nad 'oedd i grefydd D. J. swmp a sylwedd athrawiaeth . . . ac annelwig oedd ei syniadaeth.’ 

(A iawn i ni oedi am funud i dalu teyrnged i waith ymchwil dygn a thrylwyr Emyr Hywel,  a esgorodd ar dair cyfrol perthnasol i’n maes - ei astudiaeth  Y Cawr o Rydcymerau  a gynhwysai ddetholion o ddyddiaduron D. J., yn ogystal â’i olygiadau o lythyrau rhwng D. J. a Sunders Lewis a Kate Roberts (Annwyl D. J. )  ac eto rhwng D. J. , Valentine a Saunders Lewis (Annwyl Val )

Nid annhebyg yw barn dau ŵr enwog a adnabu D J yn dda iawn - 
Un o'r enghreifftiau prin o leihad ymatalgar yng ngwaith Gwenallt yw'r llinellau hynny yn ei gerdd gyfarch i D. J. 'Nid wyf yn siŵr a oedd dy ddiwinyddiaeth yn uniongred/ Yn ôl barn hen wynebau'r tir coch a'r tir glas'. Roedd Gwenallt wrth gwrs yn berffaith siŵr. ‘Peth sentimental ar y naw oedd ei ddiwinyddiaeth’, meddai Saunders Lewis, ‘ac ni byddai ball na therfyn ar ei foesoli’ - ac o geisio ei hyfforddi a’i gael i ailfeddwl, meddai Saunders, ‘yr oedd yn ystyfnig fel mul’.

Rwy’n dewis peidio â dilyn y ddau drywydd hyn - y profiadau a’r traethodau. Yn hytrach carwn drafod bywyd a gwaith D. J. yn yr Eisteddfod yn y sir hon lle treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd o dan dri phen -  a hynny at ei gilydd heb fframwaith theoretig na diwinyddol amlwg, heb law am athrawiaeth gras cyffredinol all roi gofod i ni werthfawrogi’r doniau a roddwyd i’r gŵr dan sylw a natur ei gydweithio ag eraill. 

Mae'r tri phen yn nheitl y ddarlith:
Cymeradwyaeth, Cenhadaeth, Cyfeillach (neu gymdeithas, ond mae cyfeillach yn llai cyffredinol ei ddefnydd) a gorffen gyda Chymeradwyaeth hefyd .

CYMERADWYAETH
'Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr'


Dyfyniad, cyfeiriad ysgrythurol sydd yma -
Dyma weddill yr adnod a geir ar ddiwedd llyfr Esther -  'yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.' Dyma'r adnod sydd ar garreg fedd D. J. a Siân ei wraig ym mynwent Rhydcymerau. Mae’n cyfeirio at Mordecai, arweinydd craff yr Iddewon yn yr hanes Beiblaidd, ac yn cael ei gymhwyso’n ddiamwys at gyfraniad D J. i fywyd Cymru. Dim ond degawd a aethai heibio ers cyhoeddi addasiad a dehongliad Saunders Lewis o'r hanes Beiblaidd yn ei ddrama Esther, a’r cymhwysiad at sefyllfa wleidyddol Cymru ar y pryd yn amlwg, a’r gyfatebiaeth rhwng y Cymry a’r Iddewon dan ormes - motif gyson yng ngwaith D. J. fel y gwelwn ni - yn llai dadleuol a phroblematig nag ydyw bellach gan rai.  Saunders Lewis ei hunan oedd Mordecai’r Cymry, meddai D. J. mewn llythyr ato yn ei longyfarch ar y ddrama, ‘ond petai ef . . . wedi parhau wrth y porth fel y gwas dirmygedig y doi ei dro yntau i fod yn wladweinydd i arwain y bobl.’ Meddai Lewis Valentine mewn llythyr  at DJ -  ‘A glywaist ti’r darllediad o ESTHER?Yn wir, i’m tyb bach i, dyna’r peth gorau gan Saunders eto, ac yr oedd yr actio yn fendigedig. Euthum ati i lunio pregeth ar Esther ar gyfer y Sul wedi’r darllediad, ac yr oedd Mordecai [ yr actor Meredydd Edwards] yn gwrando arnaf.’


Roedd yr ymateb i farw D. J. yn 84 oed yn 1970 yn drawiadol; bu farw mewn amgylchiadau rhagluniaethol rhyfeddol o addas, marw yn ei sedd mewn cyfarfod yn y capel lle y’i magwyd yn Rhydcymerau . Ac mae yna dalu teyrnged helaeth - nid yn unig nac yn bennaf i’w gynnyrch fel llenor, awdur Hen Wynebau, tair cyfrol Storiau’r Tir, dwy gyfrol o hunangofiant,  Hen Dŷ Ffarm ac Yn Chwech ar Hugain Oed . Roedd yr ysgrifau coffa yn y Faner yn fwy na chydnabyddiaeth ddiolchgar o’i gyfraniad llenyddol neu deyrnged i’w gyfraniadau gwleidyddol. Canmolir ei gymeriad yn yr ieithwedd fwyaf aruchel. Nid un i sgrifennu’n feddal wenieithus oedd Kate Roberts, ond dyma a ddywedodd amdano - ‘yr oedd yn gymeriad mor gyflawn o bob daioni, fel ei bod yn anodd gwybod ple i ddechrau enwi ei rinweddau’. Tystiolaeth ei weinidog  am wyth mlynedd, y Parch Stanley Lewis, oedd ‘Ni welais neb yn fy mywyd a oedd yn fwy o ymgnawdoliad o ffydd, gobaith a chariad nag ef’. Ac meddai ei gyfaill mynwesol a’i gyd-garcharor gynt Lewis Valentine mewn ysgrif goffa yn dwyn y teitl ‘Apostol Paul y Blaid’ ac mewn geirfa sy’n adleisio tystiolaeth yr Apostol am ei dreialon ei hun -

‘Rhoddodd hwn bopeth oedd ganddo i’r frwydr dros Gymru Rydd Gristnogol, nid ataliodd ddim na dawn na dysg na’i dreftadaeth, mewn llafur a lludded, mewn anhunedd, mewn annwyd a noethni, ac i Dduw y bo’r diolch am roddi i ni ail Ddewi fab Non yn y Dafydd hwn.’ 

Ac roedd yn gymeradwy gan ‘liaws ei frodyr’. Yn syth ar ôl ei farw derbyniodd Plaid Cymru roddion er cof amdano a’i cymhellodd i sefydlu ‘Cronfa D. J.’ gan dderbyn £2500 o bunnoedd yn y tridiau cyntaf. Dyna i chi ymateb y beirdd wedyn, cerddi coffa niferus, lawer ohonynt gan feirdd cymharol di-nod yn cael eu casglu a’u golygu gan ddau o feirdd Sir Gaerfyrddin, D. H. Culpitt a Leslie Richards yn gyfrol,  Y Cawr o Rydcymerau.  Un o’r beirdd iau a gyfrannodd oedd Eirwyn George o fro’r Eisteddfod hon (Y diweddar brifardd Eirwyn George, ysywaeth, a gollwyd ychydig fisoedd yn ôl) a gofiai’r croeso a dderbyniodd gan D. J. yn ei gartref yn Abergwaun, ‘cofio dy gyfarch bonheddig yn y senedd-fwthyn’. Cawn sôn mwy am y gymeradwyaeth wrth gloi, ar ôl dweud gair am y gyfeillach ac yn gyntaf y genhadaeth.

CENHADAETH

Roedd ganddo gennad, neges - ‘gynt yn ardal ei galon/ Ganed hwyl y gennad hon’ meddai Waldo Williams yn ei gywydd mawl iddo a ddarllenwyd yn gyhoeddus mewn cyfarfod teyrnged iddo fe a Siân ei wraig yn Ysgol Haf Plaid Cymru yn 1964. Dywed y bardd fod gwreiddiau ei weledigaeth yn hen ardal ei fagwraeth. Beth yn union oedd honno? Mae cwpled yn yr un cywydd yn ei chrynhoi’n ingol - ‘Honni hawl hen wehelyth/ Rhag darfod o’i bod am byth’ . Dyna bwyslais un o’i gyn-ddisgyblion yn Ysgol Abergwaun, y Parch Islwyn Lake,  yn ei ysgrif goffa iddo yn Y Traethodydd:

‘Y dasg wleidyddol yr ymgymerodd ef ac eraill â hi o ganol y dau-ddegau ymlaen ydoedd argyhoeddi eu cyd-Gymry o werth eu cenedligrwydd ac o‘r rheidrwydd moesol o’i fynegi a’i ddiogelu trwy lywodraeth Gymreig ar ddaear Cymru.’ 

Argyhoeddi, newid meddwl y Cymry, dadwneud effeithiau difaol imperialaeth Seisnig ar feddylfryd y Cymry, eu cael yng ngeiriau  Waldo Williams eto , i ganfod ‘dawn yn nwfn y galon’, perswadio’r Cymry eu bod yn genedl, dadwreiddio cymhlethdod y taeog, hyn i gyd ar seiliau cyfiawnder,  a chan ddilyn yn ôl traed Emrys ap Iwan mynnu bod hyn yn gwbl gyson â’r datguddiad Cristnogol. Doedd ganddo ddim amheuaeth am anferthedd y dasg. Pan gyhoeddodd tri Penyberth neges yn Y Ddraig Goch ar ôl eu rhyddhau o’r carchar yn 1937 cyffelybai D. J. Gymru i gydgarcharor iddo a ddywedasai y buasai’n ddigon hapus i aros yn y carchar am dymor hwy na’i ddedfryd oherwydd bod ei fyd yno yn un digon cysurus. Aeth ymlaen:

 ‘Byddai ei fron yn cronni gan falchter wrth gyflawni’r coeg swyddi hyn dros hwn a’r llall,  a phedfai ganddo gynffon fe’i hysgydwai yn llwch ei  gaethiwed.Y mae’r genedl y perthynaf i iddi yng ngharchar ers saith canrif. Am y cyfnod cyntaf wedi colli ei hannibyniaeth, yr oedd “syrthfyd Sais” yn beth digon anodd i’w ddioddef ganddi. Ond yn oes y Tuduriaid dechreuodd gael mân anrhydeddau a swyddi yn llywodraeth y Sais. Daeth parch dirmygus yr estron ohoni yn fwy peth yn ei golwg na’i pharch balch tuag ati hi ei hun.  Ni theimlai bellach ddim o golli ei rhyddid . . . Daeth i ymorchestu yn ei chaethiwed ac i ganu “God save our Gracious King” a chwifio’r “Union Jack” yn fwy aiddgar na’r Jingo pennaf o Sais .  . . '

            Dyna’r weledigaeth a’r gennad graidd dybia i – llenor, ymgyrchwr, ymbiliwr gwrthdrefedigaethol , gwrthimperialaidd oedd D. J. Williams; yn ei gywydd mawl iddo mae gan Waldo Williams y cwpled cyfoethog hwn, ‘Rhodio’n calonnau’r ydwyt/ Ymbil ar yr hil yr wyt’. Roedd gwreiddiau ei syniadaeth yn agweddau balch ei dad a’i gydfrodorion, crewyr ‘y diwylliant graenus hwnnw a ffynnai yng Nghymru cyn i’r papur Saesneg ddechrau meinhau asgwrn cefn y genedl, - y dyddiau pan oedd Y Faner a Thomas Gee . . .ac Emrys ap Iwan yn bwerau ym mywyd Cymru’.   Yr  Emrys ap Iwan hwn oedd ‘tad ysbrydol y Blaid’ meddai D.J. a hawdd olrhain ei ddylanwad ar sgrifennu heriol a deifiol ffraeth D J. 


 Rhaid nodi Iwerddon fel ail ffynhonnell allweddol.
Y dylanwad pennaf ar Blaid Cymru yn ei blynyddoedd cynnar, meddai J.E. Jones yn Tros Gymru, oedd yr hyn oedd yn digwydd yn Iwerddon.  Ymserchodd D. J. yn llwyr yn y wlad yr oedd hi’n gyfleus iddo fwrw draw iddi ar y bad o Abergwaun -  yn ei hanes a’i gwleidyddiaeth a’i llenyddiaeth wrth-drefedigaethol.   Ei arwr mawr oedd AE, George Russell y bardd a’r golygydd a gyfunai’r gyfriniaeth a welid yn ei gerddi a rhaglen gymdeithasol-economaidd ymarferol ac adferol ar gyfer cymunedau gwledig Iwerddon. Darllenai D. J. y cylchgrawn a olygid gan Russell, The Irish Homestead. Cyhoeddodd gyfres o ysgrifau arno yn gymharol gynnar yn ei yrfa, ac aeth ati i gyhoeddi ei gyfieithiad o un o gyfrolau pwysicaf Russell The National Being -   Y Bod Cenhedlig gyda rhagymadrodd gwerthfawr, yn 1963 - y gyfrol, ar wahân i’r Beibl, meddai, a gafodd y dylanwad pennaf arno.


Amlwg ac allweddol hefyd oedd dylanwad ysgol Sul a chapel a'r Beibl.

Afraid dweud bod yr hyn a ddysgasai mewn oedfa ac ysgol Sul am am gaethiwed  a gwaredigaeth o’r Aifft a Babilon yn gorff arwyddocaol o wybodaeth a delweddau i’w gymhwyso at sefyllfa Cymru 

Roedd i’r proffwydi Beiblaidd le amlwg yn ei feddwl a’i ysbryd, a theg dweud i D . J. feithrin ymwybyddiaeth broffwydol yn gynnar.  Mae nodiadau pregeth gynnar (cyfnod Rhydychen, blynyddoedd y Rhyfel Mawr) yn dweud fel hyn:

'Nodwedd amlwg y proffwyd ymhob oes  a gwlad ydyw dewrder. Dywed ei farn yn groyw ddifloesgni heb ofni gwg na gwên neb. O fewn terfynau ei egwyddorion ei hun y mae ei ryddid yn ddiwarafun. Nid yw mympwy cymdeithas na defosiwn allanol yn ddim iddo. Gŵr ydyw yn rhodio yn ôl yr ysbryd ac nid yn ôl y cnawd. Pan gynhyrfo’r ysbryd mae yntau’n gadarn ac yn ddiatal fel y corwynt. Tery fagwyrydd hen draddodiadau canrifoedd yn gydwastad â’r llawr a chwardd uwchben yr annhrefn’. 

Dyna grynhoad o’r delfryd a osodai D. J. iddo’i hun, teg dyfalu.

Mewn pregeth arall ar y testun ‘ Ai Ceidwad fy mrawd ydwyf fi?’ dywedir hyn(Genesis 4:9) -’Abel oedd y cyntaf erioed a aberthodd ei fywyd er mwyn delfryd. Delfryd yw’r peth drutaf mewn bywyd. Ychydig a’i medd. Dim ond y proffwyd a’r weledig. [sic] ganddo. Cyst yn rhy ddrud i’r mwyafrif. Ei gwobr yw merthyrdod.’ 

Pregethu yn erbyn y Rhyfel oedd ei genadwri proffwydol yn y cyfnod hwn, meddai mewn llythyr at ei gyfaill T. Eirug Davies yn 1950, ac ‘ni chawn gyhoeddiad odid byth i fynd i’r un eglwys yr eilwaith.’ Rywbryd tuag at ddiwedd y Rhyfel Mawr aeth y myfyriwr meddygol Martyn Lloyd-Jones (y pregethwr Dr Martyn yn ddiweddarach) gyda’i frawd Harold yn gwmni i D. J. Williams, ffrind i’r teulu oedd yn pregethu yng Nghapel Cymraeg Holloway.   Lleisiwyd pryderon am safbwyntiau pasiffistaidd y pregethwr cyn iddo gyrraedd a buan y gwireddwyd y pryderon wrth i’r pregethwr fwrw iddi, gan gythruddo’n arbennig rai oedd â’u plant yng nghanol y frwydr ar y pryd. Peth anarferol iawn oedd i aelodau cynulleidfa o’r fath i godi ar eu traed i brotestio ac i dorri ar draws y pregethwr, ond dyna fu. Tawelwyd y cythrwfl ar ôl i Martyn godi i amddiffyn ei gyfaill, gan dystio fod ei gymeriad yn loyw, ei farn yn onest, iddo fethu ag ymrestru yn y Lluoedd Arfog oherwydd ei olwg diffygiol ac y dylid arfer goddefgarwch er na chytunai ef ychwaith â’i safbwyntiau. 

Dywedodd mai prin y câi wahoddiad yn ôl yr eilwaith i unman!

Ceir tystiolaeth bod eraill hefyd yn meddwl dano fel rhywun ag aura broffwydol yn ei gylch.  Ysgrifennodd ei gyfaill agos Ben Bowen Thomas ato yn 1924 yn canmol ei ysgrif  ‘de Valera’ yn y Darian ond yn ei siarsio:  ‘Rhaid iti fod yn ofalus neu fe ei yn hanesydd  ar dy waetha. Cofia mai proffwyd yw dy waith di i fod a gadael y croniclo i’r di-weled fel fi.’

Prin bod angen atgoffa D.J. - roedd mantell y proffwyd yn un i’w chwennych a’i harddel ganddo ar hyd ei yrfa. Mae’r ysgrif  ‘Yr Artist a’i Oes’ (1958) yn cyfosod Cymru ac Israel yr Hen Destament - ac mae’n gweld cyflawni swyddogaeth broffwydol yn ei ddydd yn weithgarwch tebyg i’r hen broffwydi gynt:

‘ Allan o gyfnodau ac amgylchiadau yn hanes Israel gynt, nid llwyr annhebyg i Gymru heddiw, y cafodd y byd rannau o’i lenyddiaeth odidoca’r oesoedd, a hynny, cofier, nid gan feirdd a llenorion wrth grefft - nid oedd y fath bobl yn bod yn eu hamser hwy - ond gan bropagandwyr cymdeithasol  [a] chenedlaethol mawr eu dydd, gwŷr a welent yn ddyfnach ac yn gliriach na neb arall arwyddocâd y pethau a ddigwyddai o’u cwmpas gan eu pwyso a’u mesur yng nghloriannau’r nefoedd yn ôl fel y’u hamlygid iddynt yn eu cydwybodau eu hunain. . . Y mae yng Nghymru heddiw, diolch i’r nefoedd, cyn sicred ag yr oedd yn Israel gynt, broffwydi, gwŷr sydd yn teimlo hyd ddyfnder eu henaid gyflwr eu cenedl eu hunain.’ 

Ac at ei gilydd o fewn un blaid wleidyddol yr oedd rheiny i’w canfod, ( ‘Y Blaid sy’n reit am bopeth!' meddai ei frawd-yng-nghyfraith Wil Ifan amdano) a D. J. ei hunan yn eu plith. Posib bod yn y geiriau hyn hefyd ateb i’r cyhuddiad fod propaganda yn amharu ar ansawdd ei lenyddiaeth greadigol,  yn enwedig yn ei storïau diweddar, a bod yr elfen ymwthgar bregethwrol hefyd yn codi yn ei hunangofiant.

Mewn ysgrif i’r Darian yn 1930, mewn cywair cymharol ysgafn, dehonglodd fywyd Abergwaun  trwy lygaid y proffwydi Beiblaidd Eseia a Jeremeia, yn gweld arwyddion gobeithiol yn y mudiad drama a dosbarthiadau allanol Prifysgol Cymru, ond yn gresynu at esgeuluso dysgu’r iaith yn yr ysgolion ac at brinder prynwyr llyfrau Cymraeg. Mae cyfeirio at y ddau broffwyd Beiblaidd amlycaf yn ein hatgoffa o swyddogaethau deublyg proffwydoliaeth, cynnig dadansoddiad heriol, diflewyn ar dafod o gyflwr pethau yn y presennol, gan herio grym y wladwriaeth neu’r sefydliad crefyddol yn aml,  a chynnig gweledigaeth am ddyfodol gwahanol a gwell - ‘ deifio’r llawr er adfer llys’ yw llinell wych Waldo - llosgi’r hyn sy’n ddiwerth er mwyn codi byd newydd . Neu o droi at gyfrol enwog y diwinydd ysgogol hwnnw, Walter Brueggemann,The Prophetic Imagination,  mae’r gymuned broffwydol amgen yn ymroi i feirniadu ac i fywiocau neu egnïo, hyn yn y gwaith o ffurfio ymwybyddiaeth  - consciousness  - oedd yn cynnig gwrthbwynt i’r hyn y mae e’n ei alw yn ‘ymwybyddiaeth frenhinol’ - ac o symleiddio rywfaint nid peth ffôl fyddai honni bod y ddwy wedd ar y weledigaeth broffwydol yn cael eu mynegi gan ddau o gyfeillion D. J., sef  Gwenallt Jeremeiaidd a Waldo Isaiaidd.

Beth oedd cyfryngau D. J. y llenor broffwyd hwn? Roedden nhw’n niferus ac yn amrywiol. Ni phregethodd lawer mewn pulpudau ar ôl cyrraedd Abergwaun yn 1919, ond ymroes i  weithio o fewn pleidiau gwleidyddol, y Blaid Lafur yn gyntaf, yna’r Blaid Genedlaethol gyda thaerni ac ymroddiad syfrdanol a godai gywilydd ac euogrwydd ar eraill - ‘ Miaren i’n cydwybod’ meddai’r Parch T. R. Jones, gweinidog yn y fro hon, amdano, mewn cerdd goffa,  ‘Pedlerwr y pamffledau’ ydoedd. Ei ddull, meddai Saunders Lewis, ‘oedd mynd o dŷ i dŷ, o bentre i bentre, rhannu llenyddiaeth, trefnu cyfarfodydd, rhoi ei amser, arllwys ei gyflog, tynnu eraill i roi, cerdded milltiroedd.’ 

Roedd yn rhan o’r mudiad Drama a oedd mewn bri yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, nid fel actor na dramodydd ond fel trefnydd a hwylusydd i’r cwmni drama oedd dan nawdd y Cymrodorion yn Abergwaun. Cofier mai elfen gyffredin yn nramâu y cyfnod oedd gosod y proffwyd ifanc yn erbyn anghyfiawnder cymdeithasol a rhagrith grefyddol yn brif gymeriad.

Ond wrth reswm fel llenor, awdur, ysgrifennwr y gwnaeth ei gyfraniadau  mwyaf,  ac rwy'n defnyddio’r tri gair i gyfleu ehangder ei gynnyrch - ysgrifau a straeon byrion, ie, a’r rheiny’n dathlu gwerthoedd ei gynefin neu’n cystwyo tueddiadau difaol y dydd - ‘y tir glas a’r tir du’ - ond  yn dod yn amlwg fel awdur ysgrifau polemig ar faterion y dydd, materion crefyddol weithiau, cyflwr addysg Cymru yn gsyon, felly hefyd gyflwr a dyfodol y genedl  - 
Dyma rai teitlau o 1924, y flwyddyn cyn sefydlu’r Blaid Genedlaethol:

‘Cenedligrwydd’
‘De Valera’
‘Carmarthen Borough Education and the Welsh Language’
A Welsh state. The New Nationalism: a moral lead to the world’
‘Wales and her destiny. A plea for a school of “Rebels’. Subservience or real partnership’
‘Athro’r Clas wrth Gefen Drws’

Mae’r llif brwd yn para ar hyd ei oes, hyd y diwedd. Ac yna’r llythyrau i’r wasg, tanllyd, deifiol, chwyrn yn amal, a llythyrau oedd yn mynd yn rhy bell weithiau i’r golygyddion allu ystyried eu cyhoeddi.

Llythyrau personol wedyn, cannoedd os nad miloedd ohonyn nhw mae’n rhaid, a barnu wrth y gronfa o lythyrau ato fe gadwyd ganddo ac sydd yn y Llyfr Genedlaethol. Ac mae hynny’n ddolen gyfleus i ni symud ymlaen at ein pennawd nesaf - Cyfeillach D. J.



CYFEILLACH D. J.

Neu Gymdeithas - neu a defnyddio’r gair Groeg - koivonia . Dyma ran o ddiffiniad Thomas Charles - ‘ cymdeithas neu gyd-gyfeillach wedi ymuno â’i gilydd trwy ryw rwymyn cyffredin i feddiannu rhyw ragorfreintiau trwy eu hundeb â’i gilydd’  (mae rhannu a hunanberth hefyd yn awgrymedig). Roedd koinonia yn arferedig fel gair Groeg cyn dyddiau'r Testament Newydd, ond fe'i cymhwyswyd i ddisgrifio’r gymdeithas â Duw yng Nghrist a chymdeithas  Cristnogion â’i gilydd. Yn awr  rhaid bod y ddau yn achos cylchoedd D. J.  - y cymdeithasol  wleidyddol a’r ysbrydol tragwyddol - weithiau yn plethu i’w gilydd does bosib - ond anodd os nad amhosibl olrhain y gydberthynas honno yn ystyrlon . Sôn a wnawn ni dan y pennawd hwn yn bennaf am hwyl, ffyddlondeb,  cyd-ymddiredaeth rhai o’r un argyhoeddiadau, yn cyrchu tuag at yr un nod.  Dyna oedd gan D. J. yn y cyfarfod teyrnged iddo ef a Sân yn Abergwaun yn 1964 pan ddywedodd mai Plaid Cymru oedd  ‘y gymdeithas odidocaf y bûm yn rhan ohoni’. (Ac nid unrhyw gymdeithas eglwysig, ni ellir peidio â sylwi).  Koinonia criw bychan sydd yma, dirmygedig gan y mwyafrif ond unplyg yn ei genhadaeth broffwydol.

Un o’r testunau craidd i ddeall natur y koinonia, y gyfeillach bleidiol hon yw cerdd Prosser Rhys, ‘Cymru’ , lle mae'r bardd yn cydnabod awydd ‘am godi cefn o’m gwlad . .  a ffoi i ynys radlon/ Yng ngloywddŵr Môr y De’ ymhell o’r siom o fod yn Gymro - ond yn hytrach ‘’glynu’n glos  yw ‘nghynged/ Wrth Gymru, fel y mae,/ A dewis, er ei blynged,/ Arddel ei gwarth a’i gwae’ - a’r hyn sy’n gwneud hyn yn werth ei fyw a’i oddef yw’r koinonia o fewn y Blaid Genedlaethol:

‘A chyda’r cwmni bychan
A’i câr drwy straen a stŵr,
Heb hitio yn nig a dychan
Cnafaidd nac ynfyd ŵr, --
Galwaf am fynnu o’n cenedl ni
Gymod â’i theg orffennol hi.

Ac os yw’r diwreiddiedig
A’r uchelgeisiol griw
Yn dal mai dirmygedig
Yw ple’r cymrodyr gwiw, --
Deued a ddêl, rhaid imi mwy
Sefyll neu syrthio gyda hwy’

(Mae gen i frith gof i’r diweddar Dafydd Elis-Thomas adweithio’n chwyrn yn erbyn syniadaeth ac osgo'r penillion a’u hawgrym o elît uwch eu gwerthoedd na phawb arall . . . )
Beth a welwn yma?


i: uniaethu gyda’r cwmni bychan sy’n caru Cymru mewn ffordd neilltuol
Ii: parodrwydd i ddioddef dirmyg, dig a dychan er mwyn yr achos
Iii: maent yn fwy na chwmni - ‘cymrodyr’ 
iv: natur y weledigaeth ‘gymod â’i theg orffennol hi’
v: natur y gelyn - ‘cnafaidd, ynfyd - yr ‘uchelgeisiol griw’, y rhai yr oedd drysau yn agor iddyn nhw yn wahanol i’r ‘cwmni bychan’. Gwnaeth D. J., er enghraifft sawl cais  aflwyddiannus am brifathrawiaethau.
Vi: ymroddiad i fod yn ffyddlon i’r cymrodyr, i’r frawdoliaeth, i’r koinonia  ‘Deued a ddêl, rhaid imi mwy
Sefyll neu syrthio gyda hwy’’

Mae’r darn hwn o ragair Yn Chwech ar Hugain Oed  (a gyhoeddwyd yn 1959) yn dangos dyfned cydymdeimlad D. J. â Prosser Rhys:

'Yn y cyfwng arbennig hwn yn hanes Cymru fe gefais i, er fy nyddiau coleg, y fraint, na allaf ei gorbrisio, o adnabod a chyfrif ymhlith fy nghyfeillion personol ryw nifer o’r dynion a’r merched hynny sydd i mi . . . yn halen y ddaear yn y gymdeithas Gymraeg heddiw - yn ysgolheigion rai ohonynt, yn weinidogion, yn wleidyddion, yn addysgwyr, beirdd a llenorion, ac ambell ŵr busnes, heb sôn am rai eraill na ŵyr y byd fawr amdanynt. Dyma’r bobl y cynhaliodd eu ffydd hwy i dioddef poen tragwyddol y merthyr wrth geisio deffro’r lliaws o’r diymadferthedd llwfr hwnnw sy’n cadw Cymru’n gaeth.’

Glynu’n glos, peidio â chyfaddawdu, dannod yn llym i’r rhai oedd yn oeri, yn ymbellhau oddiwrth ‘y cwmni bychan’ ‘y cymrodyr gwir’ , ceir hyn yng ngwaith D. J.  Yn ei farn e claddwyd y proffwyd yn rhy aml gan uchelgais fydol a grym y wladwriaeth Seisnig ; meddai fe mewn ysgrif yn 1932 - ‘Y mae blodau parchusrwydd y deugain oed yn berarogl hyfryd ar feddau y rhan fwyaf o’n proffwydi. Y mae gennym enghreifftiau o broffwydi gwleidyddol diamheuol, a aeth yn ffidlers yr Ymerodraeth yn gynnar yn eu canol oed, pregethwyr a aeth yn  showmen y cymanfaoedd’’ (roedd e’n saith a deugain ar y pryd! . . .)

Uchel ŵyl y cyfranogwyr o’r koinonia  oedd Ysgol Haf y Blaid Genedlaethol, ac mae adroddiadau D. J. yn y Ddraig Goch yn cyfleu afiaith a gwres y gymdeithas.  Gwerddon las,  yng nghanol ‘y tir du’  a defnyddio’r ymadrodd a gaed yng nghyfrol olaf D. J.  o straeon byrion, oedd yr Ysgol Haf: (Dyma a ysgrifennodd yn  Y Ddraig Goch Medi 1935)

‘I lawer hon yw wythnos bwysica’r flwyddyn - penllanw’r gobeithion cenedlaethol yn codi i’w fan uchaf, wedi’r trai hir. Wedi blwyddyn o frwydro dygn, unig yn fynych, yn erbyn traha Sais a diffrwythder gwaeth y Sais-Gymro, mor hyfryd yw gwên a chyfarch a chymdeithas cynifer o hen gyfeillion o bob rhan o Gymru a gred yn bendant yn yr un efengyl â dyn ei hun. Daw â hoen a llawenydd newydd i’w galon. Pair iddo gredu am ryw ennyd fach yn ei gallineb ei hun, unwaith eto; ac mor amheuthyn yw hyn i lawer ohonom o hir drigo yng ngwlad Philistia!’

Beth sy’n sicrhau Ysgol Haf lwyddiannus? Mae angen mwy na threfnu effeithiol a chefnogaeth leol, rhaid wrth yr hyn a eilw D J yn ‘gymdeithas dda’, sef  koinonia.

Cyfeillach genhadol oedd hi wrth reswm. Yn ei dyddiau cynnar y Blaid Genedlaethol yng ngolwg D. J. a Valentine oedd eglwys fore y Gymru newydd, a D. J. a’i gyfeillion yn genhadon, yn apostolion.  Fel ‘crwsad’ y mae’n disgrifio ei gyfres o gyfarfodydd i hyrwyddo’r blaid newydd a’r Ddraig Goch yn enwedig yn ardal Llansewyl a Rhydcymerau dros wyliau’r Pasg 1927. ‘Y mae hi’n arfer gan bob cenhadaeth ddechreu yn Jerusalem. Fy Jerusalem i yw Rhydcymerau’. Mae’r adroddiadau o’r cyfarfodydd yn darllen fel cofnod o seiadau cynnar y Methodistiaid  ‘Cwrdd bychan eto o rif, ond byw ddigon’ a gafwyd ym Mrechfa, er enghraifft.

Ei argraff ar ddiwedd y daith oedd fod pobl Sir Gaerfyrddin ‘yn fwy na pharod i wrando ar yr efengyl newydd’  Un o’r gwersi a ddysgodd oedd ‘mai gwell i efengylwyr fyned bob yn ddau a dau.’ 

Cyfeillach lawen, hwyliog, a’r hwyl yn para er gwaethaf blynyddoedd o siom. Hoen dyn ifanc sydd yn yr ysgrif ‘Gyda’r Cadfridog Charles de Gaulle', ei hanes yn cydweithio gyda’r baswr ifanc o Dre-fin, Eirwyn Charles, mewn ymgyrch drwyadl i rannu llenyddiaeth y Blaid yng ngogledd sir Benfro yn 1961.


Mae papurau D. J. yn ein llyfrgell Genedlaethol yn cynnwys cruglwyth o’r llythyrau a dderbyniodd D. J. a’u cadw, dros gyfnod o 60 mlynedd. Rhoddant ddarlun hardd, mawreddog a chyfareddol ni o gyfeillach D. J. - ei ffrindiau a’i rwydweithiau -  y koivonia  cenedlaethol yr oedd ef yn gyfranogwr ohoni ac yn symbylydd ac yn ysgogwr iddi. Mae diolch am gefnogaeth ac anogaeth yn neges gyson gan y rhai sy’n sgrifennu ato ( byddai Barnabas y Blaid yn deitl mwy addas iddo hwyrach na’r un roddwyd iddo gan Valentine.) Wnawn ni ddim manylu ar y gohebiaethau gyda’r mawrion - bydwn yn eich annog i brynu neu i ddarllen eto’r cyfrolau a olygwyd gan Emyr Hywel,a throi eto at gofiant meistrolgar Rhys Evans i Gwynfor Evans - ac roedd perthynas arbennig rhyngddo wrth reswm â’r ddau fu gydag e drwy’r llysoedd a drysau’r carchar.

Ychwanegaf ambell gyfeiriad yn unig i  nghreifftio pwysigrwydd a chyfoeth y gyfeillach, a’r elfennau diymwad ysbrydol Gristnogol oedd weithiau yn blethedig ynddi.
Dyna’r llythyrau a gafodd yn sgil ei ran yn ngweithred Penyberth, a’r achosion llys a’r carcharu a ddaeth yn ei sgil. Mae’n derbyn llythyr gan John Clement, Llanelli, gŵr y lluniodd ysgrif goffa iddo’n ddiweddarach, gyda'r geiriau hyn: 
 'Annwyl Mr Williams, Darllenwch Daniel 3. 23-25, 27-28 a Llyfr yr Actau. Credaf y bydd y Pedwerydd hefyd gyda chwi eich tri drwy’r holl helynt.'
'Cyfeiriad beiddgar sydd yma at y tri llanc yn y ffwrn dân, ,a’r brenin yn gweld ‘pedwar o wŷr rhyddion yn rhodio y’nghanol y tân . . . a dull y pedwerydd sydd debyg i Fab Duw’ ( Enghraifft, fe dybir, o Gristoffani)
Neges D. T.Morgan ,fferyllydd o’r Bermo, oedd  ‘Cofiwch fod eich cyfeillion yn dal y rhaffau. Daliwch Afael.’

 Buasai golygu detholion helaeth o’r llythyrau a anfonwyd at D J ac a gadwyd ganddo yn rhoi darlun cyfansawdd rhyfeddol i ni o dalp helaeth o fywyd diwylliannol a deallusol Cymru ganol yr 20 ganrif  - ymysg y gohebwyr pwysicaf ( ar wahân i’r rhai a olygwyd gan Emyr Hywel) y mae  Cassie Davies, ei gyfeillion agos Ben Owen ac Ellis D Jones,  y Parch D. Eirwyn Morgan,Mary Lewis y darlithydd a’r cynhyrchydd dramâu o Landysdul, ei gynfyfyrwyr D. J. (Dafydd) Bowen ac Islwyn Lake ac ymlaen.

Mae’r gerdd goffa a luniodd W.D. Williams iddo yn y gyfrol a nodwyd yn un ymddiheurol, edifar - acmae’r llinellau hyn yn cyfleu cyfraniad D. J. o fewn y gyfeillach: 

'Ffyddlon a  thirion lythyrwr,
Ninnau mor fyr o gydnabod
A gawsom gennyt o gysur
Mewn llythyr ‘r ôl llythyr llon’.'

Roedd y gyfeillach hefyd yn ehangu, a to iau yn cael eu hysbrydoli  gan D. J.

Dyna James Nicholas o Dyddewi yn sgrifennu ato yn 1955 wedi’i ddiflasu gan ryw ddigwyddiad yn Nhyddewi - ‘ yr holl gylch wedi colli eu pennau’n llwyr ar y pageantry estronol a gyrchodd at allor ein nawddsant yn gwneud i mi gywilyddio. . . . Troais am noddfa at gymdeithas iach yr Hen Dŷ Ffarm a chefais ryddhad mawr.'  Mae'n diolch iddo hefyd am ei lyfr ar Mazzini - ‘nid oes un llyfyr arall wedi tanio fy enaid i gymaint graddau ag a wnaeth hwn.’

Mae gŵr ifanc o’r bröydd hyn, Dyfrig Thomas, Boncath  yn gofyn iddo ddod i siarad â changen y Blaid yng Ngholeg Aberystwyth yn 1963, a’r flwyddyn ganlynol yn anfon gair o Foncath i ddiolch i D. J.  am erthygl gampus yn yr Echo, [papur wythnosol abergwaun a'r cylch] ac yn dweud ei fod yn bwriadu mynd ati o ddifri  ei hunan i sgrifennu i’r wasg. Roedd llawer ohonom yn nabod y gŵr ifanc hwn fel y diweddar Dyfrig Thomas, Siop y Werin Llanelli, ymgyrchwr gwledyddol dyfal a thaer yn olyniaeth D.J.

Ond er mor unplyg ydoedd ac er y siom a brofai’n aml roedd dawn ganddo i gynnal perthynas a chyfeillgarwch rhai tu allan i’r ‘cymrodyr gwiw’. Mae'r modd y blodeuodd ei gyfeillgarwch â Trevor Vaughan, y gwleidydd Llafur o Gasnewydd a gyfarfu ar ei wyliau yn enghraifft nodedig . (Ond ni chollai gyfle i roi achos y Blaid ger ei fron.)

Roedd ei gefnogaeth i lenorion di-Gymraeg yn rhywbeth eithriadol meddai’r bardd Eingl-Gymreig Roland Mathias wrtho mewn llythyr unwaith. Ac oes oedd rhai o’i ffrindiau agosaf yn dilyn llwybrau gwahanol ac yn ymddyrchafu yn Syr Ben Bowen Thomas ac yn Syr Archibald Rowlands, doedd y cyfeillgawrch ddim yn oeri.

Rwyf wedi cyfeirio at gywydd mawl Waldo i D. J.; yr oedd y croeso a’r lletygarwch a brofai y barddar yr aelwyd ym Mhenucha’r Dre, yr hen ‘Bristol Trader’ yn rhywbeth a ddisgrifiodd fel hyn yn 1965:  ‘I mi o hyd diluddedu ac ireiddio yw cyfeillach â hwy ar yr aelwyd’ 



CYMERADWYAETH

Roedd cenhedlaeth iau yn ymuno yn y gymeradwyaeth. Deuai llawer i’w gwrdd a’i adnabod wrth iddo gefnogi ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae englynion coffa Gerallt Lloyd Owen, awdur Cerddi’r Cywilydd, yn rhyfeddu’n wylaidd at lafur D. J. :  ‘I hybu’i wlad, er pob loes o’i herwydd/ Fe lafuriodd deiroes;/ Mwy na gofyn un einioes,/ Mwy mewn awr na mi mewn oes. Mae'r cartŵn gan Tegwyn Jones ymddangosodd yn Barn ar ôl ei farw yn cyfleu edmygedd y genhedlaeth iau i’r dim. Ynddo gwelir pâr ifanc sy'n gwisgo bathodynnau’r triban a thafod  y ddraig yn dweud ‘Diolch, D. J ‘ wrth roii blodyn ar ei fedd.  Ar furiau rhai o’r bobl ifainc hyn yr oed y posteri a gynhyrchodd Cyngor y Celfyddydau ar sail ffotograffau Julian Sheppard o rai o brif lenorion Cymru, a D. J. yn eu plith.

Cofiwn i Dafydd Iwan, ŵyr i un o gyfeillion a chydweithwyr pennaf  D. J. , Y Parch Fred Jones,  leisio cymeradwyaeth ar ran ei genhedlaeth mewn dwy gân:
Yn 'Y Wên na Phyla Amser' soniodd amdano fel yr un oedd
'mor rhydd â’r awel/Yng nghoedwig Esgairceir,/ Yr awel sydd y chwythu lle y mynn’.
Dyma ni’r   gŵr rhydd sy’n ymgorfforiad o’r hyn y carai i’w genedl fod, ac wrth reswm, y grym ysbrydol a all newid cenhedlaeth a chenedl; cyfeiriad, ymwybodol neu beidio, at y gwynt sy’n chwythu lle y mynno yn Ioan 3:8, sydd yma, delwedd o waith yr Ysbryd Glân yn aileni yn y gwreiddiol, a defnydd nodweddiadol feiddgar  sy’n ei gymhwyso at yr angen am ailenedigaeth genedlaethol. Mae ‘tân’ a ‘fflam’, geiriau cryfion eu cysylltiadau ysbrydol yn yr ysgrythur yma hefyd: ‘y fflam na ddiffydd byth’, ‘rho golsyn bach o’r tân a lysg mor lân’.   
Erbyn iddo lunio’i ail gân goffa, 'Cân D. J.' i ddathlu canmlwyddiant geni D. J. bymtheng mlynedd yn ddiweddarach roedd tymer y canu wedi newid, a’r ieithwedd ysbrydol aruchel wedi’i rhoi naill ochr. Yn wir am bwysleisio normalrwydd dynol ei arwr yr oedd Dafydd Iwan bellach:

'Peidiwch meddwl bod D. J. yn sant a ddaeth o’r ne’
Roedd e’n ddyn o gig a gwaed fel chi a fi.'

Dethlir dyrchafiad D.J. yn arwr cenedlaethol, a hynny mewn modd sy’n gyson ag argyhoeddiad y gwrthrych ynghylch twf organig y cenedlaethol o’r lleol: ‘Dyn y filltir sgwâr/A dyn Shir Gâr/ Dyn i Gymru gyfan/Cyfarwydd Cymru gyfan/Dyn i Gymru gyfan oedd D. J.’

Bu'n rhan o sawl sgarmes o achos ei argyhoeddiadau yn Abergwaun, ond os cewch gyfle ewch i weld y gofeb iddo o waith Vicky Craven yng nghanol y dref.

Trown yn ôl at gywydd Waldo wrth gloi. Mae'n portreadu D. J.
fel rhywun yn aredig y tir ac yn hau’r had, delwedd debyg i’r un a ddefnyddiodd am Dewi Sant yn ei gerdd ‘Gŵyl Ddewi’:

 ‘Rhoi dy aradr i’r erwau,
Llywio’n hyf a llawenhau
. .
Rhwygai’n pridd rhag y diddym,
Gyrru llwfr ag irai llym
…
Llorio siom â’r lleuer siŵr
Yng nghalon efengylwr

Mae'n cloi’r gerdd fel hyn:

Daw o’th rawd a’th weithredu
Gadw’r tân, ailgodi’r tŷ.
Daw dy obaith toreithiog
I’r llwybrau hir lle bu’r og.


Wedi ymchwilio a meddwl am D. J. ers dros ugain mlynedd, mae'r sydd gen i bore ma - cymeradwyaeth, cenhadaeth, cyfeillach yn bethau sydd wedi gwaelodi ac aros yn fy meddwl i - er mor denau’r geiriau hyn o ran cynnwys diwinyddol, diolch i’r Adran am roi pwnc i mi a gobeithio ein bod ni wedi gwneud rhyfaint o gyfiawnder â’r gŵr y mae’n briodol i ni ei gofio a’i ddathlu’n ddiolchgar yn yr Eisteddfod hon 











Proudly powered by Weebly