1950
Beirniadaeth : Stori fer ddigri, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 184-7.
‘ "Breeding apes and mimics". Reply to Welsh-in-School critics,' Cardigan and Tivy-side Advertiser, 1 Dec, 6.
‘ “Hogiau’r Coleg” yn Abergwaun: noson i’w chofio’n hir’, County Echo, 9 March, 6
‘Boycott of Welsh Home Rule Conference’, County Echo, 13 April, 3
‘How Wales is governed’, Cardigan and Tivy-side Advertiser, 5 January 1950, 7 [?]
‘How Wales is governed’, Cardigan and Tivy-side Advertiser, 5 January 1950, 7 [?]
‘Gair o goffa am John Morgan, Abergwaun’, County Echo, 2 Chwefror 1950, 7
‘Y Ddau Ddewis’ yn Pennar Davies (gol), Saunders Lewis ei feddwl a’i waith ( Dinbych, Gwasg Gee, 1950), 7-17
Llythyr ato Chwefror 7, 1950 gan J. J. Morgan, 8 Vergam Terrace, Abergwaun yn diolch i DJ am ei ysgrif goffa (i’w dad?) oedd newydd ei gyhoeddi yn yr Echo.’Cofiaf ef yn dweud yn 1936, “ond wedi’r cyfan DJ sydd yn reit”.’ (LLGC P2/24/67 }
Llythyr gan Huw Dafis/Davies (ysgr. Y Blaid Coleg Aberystwyth, golygydd The Welsh Republican (1950, yn gofyn i D. J.am air o gyfarchiad yn y rhifyn cyntaf)
Llythyr gan (y Parch?) Huw Roberts, 92 Marble Hall Rd, Llanelli – diolch i DJ am ei lythyr caredig – HR wedi adolygu Storiau'r Tir Du yn Seren Cymru– diolch i DJ am y straeon wedi cael ‘mwynhad trist’ wrth eu darllen ‘Darllenais ran helaeth ohonynt yn Llandrindod mewn llety unig, a minnau yno’n ceisio cyhoeddi’r Efengyl yn Saesneg.’ (LLGC P2/28/53 )
11 Rhagfyr 1950: Papurau Norah Isaac 1/56 – llythyr at Norah Isaac gan DJ
‘Annwyl Nora fach Isaac
a dyma chi wedi anfon gair ataf ddwywaith i holi shwd ydw i. Whare teg i chi, ‘wir am gofio fel yma am yr hen Ddai Cefn Gwyn.
Wel, mae’n dda iawn genny ddweud wrthych fod Dai wedi codi ‘i gefen yn rhyfedd unwaith eto, drwy drugaredd a diolch i’r nefoedd a llawer eraill a fu’n cydweithio a hi. Tair wythnos fues i yn yr hospital, ac amser diddorol yn wir oedd hwnnw gan nad oedd arnaf boen, - dim ond gwres uchel a methu cysgu a fu’n fy mlino am fisoedd o ran hynny, heb wybod yn iawn beth oedd yr achos . . . Rhyw ‘fyr ysgafn gystudd’ a ges i a gwella’n rhyfedd wedi dod o hyd i’r drwg – carreg fach yn yr aren, rhy fach i blât yr X Ray allu ei gweld.’
1951
Abergwaun ddeng mlynedd ar hugain yn ôl' gan ' Y Bachan Diarth,'
County Echo, 22 Nov., 7.
Beirniadaeth : 'Beirniadaeth ddychmygol gan Gymro o'r gorffennol ar bortread ffilmiau o fywyd Cymru heddiw.' Cyfansoddiadau a beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 183-4.
Beirniadaeth : Y Fedal Ryddiaith. Deunydd cyfrol o ryddiaith greadigol, Cyfansoddiadau a beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 159-162.
‘"H.R." a thraddodiad Plaid Cymru : cip ar y dechreuadau,' Y Ddraig Goch, Meh., 3.
‘How Wales is governed’, Cardigan and Tivyside Advertiser, 5 Jan.,
‘Blac’, Y Genhinen, Gwanwyn 1951, 97-9
8/9/51 llythyr at ‘Nora fach Isaac’ gan DJ (papurau Norah Isaac 1/61) – diolch iddi am
ei chyfraniad i’r drafodaeth ar yr Eisteddfod a’i chynnyrch ddechrau’r wythnos ‘Mae hyn yn awr yn llwyr ar wahân i’r sylw brawdol a wnaethoch o Dai Cefen Gwyn wrth basio.’
‘Best best from Dai and his mate Jane.’
1952
28/2/52 – Llythyr P2/31/181 gan Bil (ffrind coleg a fuasai’n garcharor rhyfel) – Dr William Thomas, Trefloyne, Tenby – prif HMI Cymru
' Bob the old grey nag ' (Trans, from Hen Wynebau by ' Wil Ifan '), Dock
Leaves, Summer, 14-16.
' Cwrs y byd : Y Doctor William Thomas,' Baner ac Amserau Cymru, 7 Mai,
8.
' Gair o goffa am Kitchener Davies,' Y Ddraig Goch, Medi, 1.
' Our right and our duty,' Welsh Nation, March, 1.
‘Ysgol Haf Plaid Cymru yn Aberteifi’, County Echo, 17 Gorffennaf 1952, 7
‘Yr Iaith Gymraeg yn Abergwaun’, County Echo, 6 Tachwedd 1952, 4
[dienw] ‘A challenge to a Nation’s Life – Self Government or Perish’, County Echo, 20 November 1952, 6
P7/57-75 Llythyrau W. Anthony Davies [Llygad Llwchwr] (1952-1960) ato yn dechrau nawr.
Lythyr ato LLGC P2/25/31 – Ben [Owen] o Y Glyn, Castellnewydd Emlyn, 25 Awst 1952, ‘Annwyl Syr Dafydd John Williams’ DJ yn amlwg yn poeni am broblem £30 Pwyllgor Dyfed ac am alw Pwyllgor o’r Blaid ar i drafod hyn – Ben mewn arddull ysgafn, smala yn dweud wrtho bod hynny’n amhosibl a phawb ar eu gwyliau, ac yn awgrymu ei fod yn poeni gormod – ‘Blin gennyf fod y dyn a losgodd yr Ysgol Fomio, ac a daflodd John Bwl ar asgwrn ei gefen, ac a gariodd ddau ddyn cryf mawr allan dan ei freichiau yng nghyfarfod Pwllheli, ac a fedrodd ddal llysnafedd y chemist hwnnw yn Aberteifi mor hamddenol, yn colli cwsg oherwydd problem £30 Pwyllgor Dyfed’ (mae'n awgrymu ffordd hwylus ymlaen)
30 Hydref 1952 Llythyr ato LLGCP2/31/205 gan Sén Tóibín , Corcais Eire –wedi llunio sgets ar sail ‘A Good Year’ ['Blwyddyn Lwyddiannus'}ac am ganiatâd i’w chynnig i Radio Eireann
1953
Tri llythyr gan Mary Clement LLGC P2/5/39-41 Mary Clement, merch John Clement Llanelli, yn diolch am ysgrif deyrnged gan D. J. i’w thad yn y Faner, 14 Ionawr (39)
LLGC
Hen Dy Ffarm. Aberystwyth : Gwasg Aberystwyth.
'John Clement, Llanelli : teyrnged bersonol,' Baner ac Amserau Cymru, 14 Ion., 3.
' D.J. Williams' reply to "Elizabethan",' County Echo, 8 Jan., 2.
' Walter L. Williams, Abergwaun : ysgrif goffa,' Baner ac Amserau Cymru, 6 Mai, 2.
‘D.J.Williams’reply to “Elizabethan”’, County Echo, 29 Jan., 2
‘Wales and its M. P.’s’, Western Mail, 14 July, 6
‘Civic Centre or Council’s Private Mansion?’, County Echo, 19 Nov., 5
‘Myfyrion Dydd y Coroni’, Y Ddraig Goch, Awst, 4-5
‘Gwarnoge’, Ymofynnydd, Ionawr 1953, 1-4
Marw Archibald Rowlands yn 1953 gw Bywg https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-ROWL-ARC-1892–
Toriadau 'obituaries' ym mhapurau DJ LLGC P2/29
3 Mehefin 1953 Llythyr ato LLGC P2/26/18 , gan Tom (Parry); diolch iddo am ysgrifennu ato; sôn am gyflwr RWParry ‘Y mae wedi henediddio’n ddirfawr. Aeth ei gam yn fyr iawn ac ansicr, y fegin ar brydiau yn bur wichlyd, a’r cof yn gymysglyd . . .Bu paratoi Cerddi’r Gaeaf i’r wasg y gymysgfa ryfeddaf erioed o gomedi a thrasiedi.’
P2/29/63 – llythyr, 15/9/63 gan May, gweddw Archie Rowlands yn anfon waled Archie iddo yn anrheg – ‘I thought you might like to have som elittle thing of his, celtic sentimentalism perhaps!’
P2/5/148 Llythyr (1953) gan Llywelfrynyn diolch am HDFF ‘a minnau wedi adnabod llawer o’r hen wynebau, ac yn gyfarwydd iawn â chlywed amdanynt hon [sic] i gyd.’]YrAthro Llywelfryn Davies]
P2/6/90 Llythyr, 2/12/53 gan ‘Dick’, Richard Phillips, Aberystwyth (un o gyfres) yn diolch am Hen Dŷ Ffarm [wedi’i adolygu yn y Welsh Gazette?] ‘ ‘Blas! Blas! Ni chefais i’r fath flas . . . Chwarddais ganwaith ac fe wylais droion (sic)
P2/27/93 – llythyr Rhagfyr 7, 1953 gan W. J. Rhys, 9 Hillside Terrace, Gelli, Rhondda (sef y Parch W. J. Rees, HDFF, 162 [?]) – diolch iddo am HDFF, cael blas mawr arno, mae’n ‘rhodd Nadolig addas’ ‘Gwell yw i mi na phe cawswn dwrci; caf fwy allan ohoni’. Diolch am y cyfeiriadau caredig ato yn y gyfrol.
P2/28/46 – 8/12/53 llythyr gan Gomer Roberts, Y Manse, Pontrhydyfen, yn diolch am HDFF ‘Yr wyf wedi cael pwle o hiraeth am ShirGâr oddi ar bore ddoe . . . ‘ trafod y cynnwys – cofio ei fam yn sôn am ‘Rhys Glan ‘Rwyth’; DJ yn sôn am afal ‘gwyn Niclas’ GMR yn cofio ‘Moragn Niclas’ fel enw ar afal a gadwai’n dda dros y gaeaf. ‘Yr oedd fale Morgan Niclas mewn bri pan oeddwn yn grwt.’ ‘Diolch i chi am ddiwrnod o bleser pur wrth ddarllen eich llyfr . . . bydd rhaid ei ddarllen yn araf wrth fy mhleser eto adeg y nadolig. Yn y cyfamser caiff le ar y silff yn ymyl ‘Slawer Dydd Llewelyn Williams. Dau gŵyn sydd gennyf – piti na chaech fap bychan o Rydycymerau rywle yn y llyfr . . . peth da fasai cael dwy achres tua’r diwedd – achres teulu’ch mam, ac achres teulu’ch tad.
1954
P2/26/91 – Llythyr 13/1/54 gan Dick (Richard Phillips) Kilrie, Caradoc Rd, Aberystwyth (ar bapur Coleg Profysgol Cymru, Dairy Buildings, Llanbadarn Road)
[Awgrymu gwelliannau i HDFF]
‘1. Yn gyntaf, gosod tabl o fewn cloriau’r llyfr o’r holl berthynasau a’r tylwythau fel family tree . . . Byddai’n rhwynddineb i’r darllenydd.
2. Yn ail, gosod map o’r ardaloedd rhwng Tywi a Theifi gan leoli’r llefydd . . . Credaf y gwnai E. G. Bowen y map iti, ac mi ofynaf iddo (hefyd yn awgrymu cynnwys lluniau o’r teulu)’
[Rhiannon ei ferch wedi dweud “Os ceir llyfrau Cymreig tebyg i “Hen Dy Ffarm a “Chysgod y Cryman” fe fydd yna ddigon o ddarllenwyr a phrynwyr.”
P2/5/7 Jacob [Davies] 2, Tudor [?] Aberdâr cerdyn post 21 Ja 54 – cydnabod llythyr yn diolch am adolygiad J.[o HDFF?]
P2/30/4 llythyr gan Wynne Samuel, Ystalyfera 26 Ionawr 1954 - addo dod i Abergwaun nos Sdawrn 13 Mawrth – ‘Ni all neb wrthod dim i D. J. a byddaf yn falch iawn o gael cyfle unwaith eto ag ysgwyd llaw ag “Hen Wynebau” – heb allu gaelc opi o HDFF cyn y Nadolig, pob copi yn siopau Abertawe a Chaerdydd wedi diflannu – erbyn hyn wedi ei ddarllen ac wrth ei fodd
P2/31/184 – llythyr 26 Ionawr 1954 gan Bil (Dr William Thomas,erbyn hyn cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru a Mynwy) – ‘Diolch yn fawr i ti am dy gyfraniad. Y mae fel pobeth a ddaw o dy law – neu fel y dylwn ddweud o dy ben – yn ardderchog iawn. os fydd pobeth yn y cylchgrawn o’r un safon, bydd y cylchgrawn yn wych.’
P2/31/163 – llythyr 14/3/54 gan T. E. Thomas, Cwrywern, Llanrthne, un â’i wreiddiau yn ardal Rhydcymerau ac yn cofio rhai o’r cymeriadau a grybwyllir.
Llythyr gan Huw Davies P2/5/140 (1954) diolch am gyfraniad D. J. i gronfa’r carcharor gwleidyddol (?) Peter Lewis ac esbonio ei reswm dros aros yn y Mudiad Gweriniaethol
P2/24/3 – Llythyr ato gan Eirwyn Morgan, Rhos Gerdd, Bancffosfelen. 13/4/1954 , trafod y Ddraig Goch (EM y golygydd) a rhoi hanes cwrdd ‘Senedd i Gymru’ a gafwyd ‘neithiwr ym Mhontyberem’.
P2/30/6 – Llythyr Mai 11, 1954 gan Wynne Samuel, Ysg Cyff Eist Gen Ystradgynlais a’r Cylch 1954, gofyn i DJ lywyddu ‘Seiat y Llenorion’ bore Gwener Awst 6, ppwnc ‘Safonau’r Stori Fer Gymraeg’ – ei wahodd ef a Sian a aros gyda nhw yn Ystalyfera (disgwyl y bydd DJ yn cyrraedd bore Mawrth ar ôl bod yng Nghynhadledd y Blaid yn Rhydaman)
27/8/54 – llythyr at ‘Norah fach Isaac’ (papurau Norah Isaac 1/91); wedi bod ar gwrs haf ym “Mhantycelyn” (y neuadd, DJ yn siaradwr?) ‘gyda chofion cynhesaf Dai Cefen Gwyn ‘i briod atoch’
P2/28/12 – llythyr 22 Medi 1954 gan Elwyn Roberts, Trefnydd ymgyrch Seneddi Gymru (Llywydd – Lady Megan Lloyd George, Is-lywydd, Yr Henadur H. T. Edwards, Shotton) – diolch i D. J. am y rhodd a’r llythyr, dweud na chlywdd ddim gn wahanol lefydd yn Sir Benfro
Mazzini, cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd. Caerdydd : Plaid Cymru.
Beirniadaeth : Stori fer. Cyfansoddiadau a beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 172-5.
‘Welsh Day in Parliament’, Western Mail, 25 February 1954, 8
‘Imperialism and Nationalism’, Western Mail, 5 Mehefin 1954, 6
1955
The meaning of the election,' The Welsh Nation, Aug., 3. (Reproduced from
The County Echo).
'Neges Shirgar at Shirgarwyr,' Baner ac Amserau Cymru, 25 Mai, 3.
' Pedigri'r Cwisling Cymreig,' Y Ddraig Goch, Mawrth, 1.
' Syr Archibald Rowlands fel Cymro : teyrnged bersonol,' Baner ac Amserau
Cymru, 6 Ebrill, 3 ; 13 Ebrill, 3 ; 20 Ebrill, 3 ; 27 Ebrill, 3 ; 4 Mai, 3 ;
11 Mai, 7 ; 18 Mai, 3.
' Welsh home rulers at this election,' County Echo, 26 May, 7.
' William Ambrose Bebb : wedi diwrnod o waith caled' [Teyrnged],
Baner ac Amserau Cymru, 4 Mai, 8.
P2/25/4 llythyr gan James Nicholas, 36 Nun Street, Tyddewi [d]d] ond tystiolaeth fewnol yn awgrymu haf 1955, ar ôl etholiad cyffredinol 26 Mai 1955 – diolch i DJ am ei garedigrwydd iddo, gobeithio ei fod yn gwella ar ôl anhwylder, crybwyll yr etholiad, ‘Aeth pethau’n rhagorol gyda ni ym Meirion [JN yn athro yn y Bala] Digwyddiadau yn Nhŷ Ddewi y Sul cynt wedi ei ddiflasu ‘roedd meddwl fod yr holl gylch wedi colli eu pennau’n llwyr ar y pageantry estronol a gyrchodd at allor ein nawddsant yn gwneud i mi gywilyddio. O werin arwynebol! Troais am noddfa at gymdeithas iach yr Hen Dŷ Ffarm a chefais ryddhad mawr. Roedd yn dda gennyf glywed Saunders yn traethu mor wych amdanoch – un o’r rhaglenni gorau a glywais erioed . .. Diolch hefyd am Mazzini [gyhoeddwyd yn 1954] –nid oes un llyfyr arall wedi tanio fy enaid i gymaint graddau ag a wnaeth hwn’.
P2/24/4 Llythyr 23/6/55 gan Eirwyn Morgan, Bancffosfelen yn dymuno dymuniadau da iddo ganddo ef a Mair ei wraig ar ei benblwydd yn 70[? ] ‘Gwasanaethasoch eich cenhedlaeth yn ddewr ac yn egnïol, a pha bryd bynnag y daw’r amser i chwi i ganu’n iach, bydd gennych yr hyfrydwch o wybod i chi wneud eich rhan ym mrwydr eich pobl.’
P2/28/13 – llythyr gan Elwyn Roberts, 1 Gorffennaf 1955 yn diolch am y llythyr ddechrau Mehefin ac am y rhodd o £3.1.0 o Dreletert. Dweud i’r Blaid wneud yn dda. Y Fonesig wedi bod yn ffyrnig am i’r Blaid sefyll yn erbyn G. O. R.’
P2/31/189 – llythyr 30-8-55 gan W. Gwyn Thomas, Abercych, ar ran Cymdeithas Heddwch Bedyddwyr Cymru yn gofyn iddo annerch yng Nghyrddau’r Undeb yn Abergwaun fis Mai 1956 a P2/31/190 14-9-55 yn diolch iddo am gytuno i wneud ac yn mynegi ei edmygedd ohono
P2/24/5 Llythyr gan Eirwyn Morgan o Fancff. yn cydymdeimlo â D.J a’i wraig yn eu llesgedd, 5/12/55
1956
' Coffau'r Dr. D. J. Davies,' Y Ddraig Goch, Tach., 1.
' English oratory and Welsh Nationalism at Fishguard,' Welsh Nation, Nov., 4.
[dienw] ‘Plaid Cymru Organiser is Welsh and ashamed of it’, Western Telegraph, 15 March 1956, 6
[dienw ] ‘Plaid Cymru Organiser is Welsh and ashamed of it’, Western Telegraph, 15 March 1956, 6
Mai 10, 1956 – DJ i fod i draddodi anerchiad ‘Cymru a’r Trydydd Gwersyll’ yn Undeb Y Bedyddwyr Abergwaun [ond tynnu yn ôl oherwydd salwch a WW yn cymryd ei le. ‘Brenhiniaeth a Brawdoliaeth]
P2/28/14 – llythyr gan Elwyn Roberts, rheolwr The Welsh Nation ‘diolch mawr a gwirioneddol am rodd mor hael ac ar amser mor anghennus.’
P2/24/7, 23 x1956, llythyr gan Eirwyn Morgan, Llandudno, yn diolch iddo am ysgrif ardderchog ar “Davy James” [sef D. J. Davies], diolch iddo am air caredig am y Ddraig, a dweud wrtho pwy oedd Iorwerth Morgan (‘Bachgen o Fancffosfelen’ fentorwyd gan EM ac a aethi Goleg Harlech, Coleg y Drindod, bellach yn athro yng Nghaerdydd – ‘Byddai gair o Abergwaun yn atgyfnerthiad mawr i sgrifennwr ifanc addawol fel ef.’
‘Coffau’r Dr D. J. Davies,’ Y Ddraig Goch, Tachwedd, t.1
‘English Oratory and Welsh Nationalism at Fishguard’, Welsh Nation, November, 4
P2/31/200 – cerdyn post 7-11-56 gan W. Gwyn Thomas, Abercych – DJ wedi dweud na all annerch y Gymdeithas Heddwch yn yr Undeb nesaf, ond yn falch o wybod ei bod ‘yn well ac yn medru ailgychwyn ysgrifennu yn ara deg.Hyderaf y byddwch yn holliach yn fuan. . . . Roeddem yn wir ddiolchgar i chwi am wneud cymaint o ymdrech i ddod i’r cwrdd heddwch ar waetha’r anhwylder a’ch blinai. Cawsom wledd ddihafal gan Mr Waldo Williams.’
P2/26/77 – llythyr 19/11/56 gan Hettie [Phillips], yn ei longyfarch ar ei ethol yn flaenor yn Pentwr (sic)
P2/30/9 20 Rhagfyr 1956; llythyr gan Wynne Samuel yn gobeithio bod y ddau’n cadw’n iach’ ei hanes yn amddiffyn sipsi a siaradai Gymraeg ac a ddarllenodd ddau o lyfrau DJ – haesn yr ymgyrch yn Sir Gar – Beti gwraig Bobi yn oruchwyliwr – Disgwyl y byddai Jennie yn ennill rhwng 5 a 7 mil o bleidleisiaus
P2/24/8 – llythyr gan Eirwyn Morgan, gol Y Ddraig Goch, 31/12/1956 yn hysbysu DJ bod Jennie Eirian yn ymladd isetholiad i’r Blaid yn Nghaerfyrddin ‘A gawn ni eich poeni am “neges i Sir Gaerfyrddin” (2 neu 3 colofn)
1957
Adolygiad : Yr Etifeddion (W. Leslie Richards), Y Ddraig Goch, Mawrth, 3.
' Gwlad hud a lledrith,' Blodau'r Ffair, Rhif 5, 10-13.
' Llewelyn yn ail alw,' Y Ddraig Goch, Ion.- Chwef., 5.
‘Cyngor yr Eglwysi Rhydd a’r Gymraeg yn Abergwaun’: “Pechod dirmygus yw llwfrdra”’, Baner ac Amserau Cymru, 2 Mai 1957,6
P2/26/92 – Ionawr 15, 19/1/57 – llythyr gan ‘Dic a Eiddwen’ (Richard Phillips’) yn dweud na all aros gyda nhw yn Abergwaun nos Wener ar ôl siarad yn y cyfarfod yno
P2/30/82 – llythyr 28/3/1957 A. Steel, Is-ganghellor Prifysgol Cymru ato yn ei hysbysu (mewn llythyr uniaith Saesneg) i’r Bwrdd Academiadd benderfynu cynnig gradd D Litt iddo – angen iddo ddweud a yw’n derbyn ai peidio? P2/30/82 – copi o ateb DJ, 3/4/57 yn dweud ei fod yn wylaidd yn derbyn
P2/24/6 – llythyr ato 3/6/1957 gan Eirwyn Morgan, Llys yr Awel, St Andrew’s Place, Llandudno, yn llongyfarch DJ ar y D Litt - ‘yr anrhydedd y mae ein Prifysgol yn ei osod arni’i hun wrth roi doethuriaeth i’r glewaf o feibion shir Gâr . . . Gwelais ysgrif Wil Ifan am eich ymweliad a Jacob.’
P2/31/43 – llythyr agn R.A., Fernleigh, Penslâd, Abergwaun yn ei longyfrach ar y ‘doctorate’
P2/28/47 – cerdyn post 6 mehefin gan Gomer M. Roberts, Pontrhydyfen, yn ei longyfarch ar y D Litt.
P2/27/94 – llythyr 7/6/57 gan Brinley Richards, Nantyffyllon yn ei longyfarch ar y D Litt – ‘rhaid oedd uno gyda’r llu i longyfarch un a roes gymaint i ni yn ei weithiau a’r fath esiampl lachar o argyhoeddiad hunanaberthol .’
P2/26/93 , Mehefin 7 1957, llythyr gan Dick a Eiddwen, Llangwyryfon yn ei longyfarch ar ei ddoethuriaeth
P2/24/53 – Gorff 10, 1957 llythyr gan y Mrs Olwen Morgan a’r Parch E. Eurfin Morgan, gweinidog Bethesda, Y Tymbl, yn llongyfarch DJ ar ddod yn ddoctor ‘’Rown i o’r farn ei fod yn “dipyn o ddoctor” ers blynyddoedd – mae’n dda gweld bod y Brifysgol yn cytuno o’r diwedd . . . Gwn mai anrhydeddu ei hun wna’r Brifysgol yn cydnabod eich cyfraniad gwych i lên cenedl- a’ch dycnwch ar hyd y blynyddoedd dros y genedl fach hon. . . . Buoch yn gysur ac yn gydwybod inni tra’n byw yn Abergwaun. Cawsom lawer o ddiddanwch yn eich cwmni a llawer o bigiadau cydwybod – a wnaeth les mawr inni – yn wir, maent yn llesol o hyd.
Diolchwn am lawer seiat- yn shop Martin (y gŵr unig) yn y Bristol Trader, ar y sgwar yn y Blacowt, yn y Cymrodorion a chyfarfodydd yr Eglwysi Rhyddion. Cofiaf am D. J. yn “cymryd rhan” yn y Cwrdd Gweddi yn y Tabernacl ar ôl Munich. Y Parch J. T. Job yn llywyddu – ac y mae’r naws ddaeth i’r oedfa tra’r oedd D. J. yn annerch yr Orsedd fawr yn aros yn fendith ar fy mywyd.’
19 Gorffennaf; cael ei urddo yn Doctor in Litteris Prifysgol Cymru yn Assembly Room Neuadd y Ddinas, Caerdydd
P2/29/18 – llythyr yn ei lofarch agn Parri Roberts, 19/7/57 ‘yr oeddych eisoes yn “Ddoctor” yn ol tystiolaeth unfryd y Werin Ddiwylliedig yng Nghymru.’
31 Gorffennaf 1957- llythyr P2/27/89 yn Gymraeg gan Keidrych Rhys, ar bapur ‘The People’ – cwyno am ddiffyg dychymyg y ‘Welsh Tourist Board’ sôn bod y People a’r News of the World yn colli darllenwyr - ,Cael gafael ar newydiadurion (sic) heb ofn a thipyn o guts sy’n angen yng Nghymru yr awrhon! Maent yn wgybod mor boeth gall Yr Establishment wneud pethe. Diolch yn fawr am eich llythr calonog (sic) a serchog . Mae yn galondid imi ymysg Cymry Llundain.’
3 awst – llythyr Llwyd Thomas (Pontardawe, Llanfyllin gynt_ - ei longyfarch ar y radd – cyfeirio at gyflwyniad G. J. williams – ‘Y mae llawer tro ar yr hen fyd yma, a melus yw gweled llestr mor afrywiog â’r ‘Bristol Trader’ yn hwylio mor esmwyth i’r harbwr.
P2/24/43 Llythyr gan Dyfnallt [Morgan] 27 Awst 1957 – diolch iddo am lythyr caredig yn dilyn cystadleuaeth y goron eleni. ‘Chwi ddeëllwch mai calondid mawr i brentis o lenor oedd cael eich dyfarniad ffafriol ar y gwaith . . . Yr ydych yn iawn. Y mae rhyw dristwch na chafodd tad a mam Eleri fyw i sefyll gyda ni yn y profiad hwn. Ond diolchwn o waelod calon am gefnogaeth gyson hen ffrindiau ffyddlon fel chi. . . . a chofiaf yn arbennig am eich cyfeillgarwch personol yn y dyddiau tywyll- yn Halfway. Seiclo o Lanymddyfri gyda’r nos. ‘Roedd eich ymweliad â ni yn ysbrydoliaeth.’
P2/28/36
Medi 26 1957, llythyr gan Emrys P. Roberts, Swyddfa Plaid Cymru, Caerdydd, diolch am enwau’r derbynwyr newydd
P2/28/30 – Hydref 24, 1957, llythyr gan Emrys Roberts o Swyddfa’r Blaid – Diolch am yr hanesion a’r cyfraniadau, hanes staff y swyddfa
27/10/57 – papurau Norah Isaac 1/126: Llongyfarch Norah ar ei phenodiad yng Ngholeg y Drindod – ‘Gyda Bobi Jones a chithau yng Nghaerfyrddin y mae gobaith i broblem y ddwy iaith i gael ei setlo bellach yng Nghymru’ – wedyn gofyn ei chyngor ar lyfrau dysgu Cymraeg diweddar – wrthi’n helpu Llydawr, Olivir Loyer a fu’n aros yno dros y Sul – gobeithio ei anfon am bythefnos at Tom Lewis ym Mynachlog ddu. ‘Dai Cefen Gwyn’ eto
1958
Arwyr bore oes : cwrdd ag O.M. ac A.E.' Y Ddraig Goch, Rhag., 1.
' Legalised murder of a nation ? ' Welsh Nation, April, 6.
‘ “Y Dychryn” – perfformiad gwych, ac ambell gwestiwn’, County Echo, 3 April, 7
‘A friendly word to our friend Agricola’, County Echo, 15 May, 6
‘Welsh Nationalism in minor and major keys: a few words to Agricola’, County Echo, 29 May, 3
‘O ben y Bigni: Gair at y Cymry gwlatgar’, County Echo, 3 July, 7
‘Portread: Waldo Williams’ (O’r Faner), County Echo, 3 July, 7
‘Yr Artist a’i Oes’, Yr Arloeswr, 3 (1958)
14/1/58 – llythyr at Norah Isaac, (PNI, 1/132)
Gofyn iddi ddod i Abergwaun ar gais yr Eglwysi Rhyddion i annerch ar fater y Gymraeg yn yr ysgolion
‘Mae Cyngor yr Eglwysi Rhyddion wrthi yma ers peth amser yn ceisio cynllunio beth a ellir ei wneud yn fwyaf effeithiol yma i ddiogelu’r Gymraeg mewn lli sy’n carlamu’n Seisnig ers rhai blynyddoedd bellach. Gwyddoch heb ymhelaethu am yr awyrgylch sydd yn yr Ysgol Gynradd yma; ac nid yw Ysgol yr Eglwys wedi bod erioed namyn English garrison.’
PNI 1/135, 18/2/58, llythyr arall at Norah yn cynnig dyddiad arll iddi ymweld, ac yn dal i bwyso am deitlau llyfrau dysgu Cymraeg elfennol i’r Llydawr.
P2/26/73 – 4/4/58, llythyr gan Elgar Phillips, Glandwr, Hebron yn ei wahodd i annerch Cymanfa’r tair Sir yn y Tabernacl, Abergwaun, 18 Mehefin 1958 (Annibynwyr Caerfyrddin, Penfro ac Aberteifi)
PN1/137, 24/4/58 llythyr at Norah yn cynnwys y pennawd yn yr ‘Echo’ ‘a amgaeaf i chwi yn rhoi rhyw syniad o’m pen fy hun ar ddrifft eich anerchiad’ . . . dweud wrthi ei bod yn rhydd i siarad fel y myn – ‘Ond eisiau creu ymwybyddiaeth o werth a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg ar gyfer y gymdeithas gyfan yng Nghymru sydd arnom – ynghanol y cywion hynny o rieni a faged yn y fagddu fawr ac a fynnant lechu ynddi, a’u hepil o gywion llai ar eu hôl.’
P2/26/51 – 6 mai 58 llythyr gan Peate yn diolch am lythyr yn ymateb i gais am wybodaeth am dermau o fyd y ceffyl – ‘Deil Griffith John y bydd eich dogfen yn un gwbl hanesyddol!!’ DJ weid cytuno i ddod i gyfarfod Gŵyl ddewi nesaf yr Amgueddfa (?) – nos Iau 26 Chwefror 1959.
PN1/138: llythyr at Norah 16/5/58‘yn amgau y sylw hwn yn y papur lleol ar eich anerchiad eneiniedig y dydd o’r blaen.’
P2/24/9 – llythyr gan Eirwyn Morgan 9/7/1958 yn gofyn iddo ysgrifennu gair i rifyn Medi Y Ddraig Goch am lyfryn ar Hopkin Morris
yna P2/24/10, 22/7/58 Eirwyn eto at DJ, ‘Diolch yn fawr am eich llythyr. Wedi’i ddarllen yr oeddwn yn teimlo’n fwy nag erioed mai chwi a ddylai adolygu’r llyfr. O ran hynny, mi fuasai’r un paragraff ar wacter moesol y gwleidydd a eilun-addolwyd gan wladwyr Sir Gaerfyrddin yn llawn digon o adolygiad.’ [h.y. D.J. wedi gwrthod y gwahoddiad i adolygu, awgrym nad yw ei iechyd cystal, ei wahodd am bythefnos i Landudno i ymatgyfnerthu.]
P2/31/169 llythyr [d.d.] gan T. M. Thomas, Penybanc, Llandeilo yn ei wahodd i feirniadu y stori fer a’r dyddiadur wythnos yn Eist Rhanbarth Caerfyrddin Plaid Cymru yn Llandeilo 11 Hydref 1958 [dim rhaid i fynychu] DJ wedi ychwanegu ar yr amlen ‘Addo beirniadu’
P2/24/12 llythyr, 8/11/58 gan EM o Landudno, cyfeiriad at ymddangosiad gan DJ ar y teledu – ‘Bendith anghyffredin oedd cael eich gweld a’ch clywed . . .Tirion iawn oedd eich teyrngedau i’ch mam . . . Diddorol oedd eich datganiad ar O. M. Edwards’ – gofyn i DJ sgrifennu colofn neu ddwy ar ei ddyled iddo [sef:]
‘Arwyr bore oes: cwrdd ag O. M. ac A. E’, Y Ddraig Goch, Rhagfyr, 1
Tachwedd 6, 1958 – cynryd rhan mewn rhaglen gyda TWW ym Mhontcanna – gw P2/29/27 y llythyr gan Wyn Roberts, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg; DJ ar y 6ed yn cael cinio gyda T. Morris Owen ‘y bardd a’r gwr diddan o Fôn’ yn restaurant Gorsaf caerydd
P2/25/25 – [d.d.1958-9, diwedd 1958 mae’n debyg?] Llythyr gan Ben Owen, Y Glyn, Castell Newydd Emlyn – BO wedi dod â chynigion ger bron cwrdd ei enwad (cwrdd cwarter yn Ffynnon Bedr) a’r rheiny wedi eu pasio – ar fater Prydain a Chyprus fe ymddengys oherwydd â ymlaen i draethu’n ddeifiol am ymateb gwleidyddion Prydeinig. ‘Edmygaf ddewrder y bobl yn Cyprus – ac hyd yn od y plant syn ddigon dewr i belto’r milwyr Prydeinig. Ni ellir concro pobl felly gan unrhyw fyddin.
Wel yn awr diolch o galon am eiriau a fu yn ysbrydiaeth gwirioneddol i mi . . . Fe ddaw dy lyfr newydd yn barod yn 1959 yn sicr’.
Rhai o lythyrau Ben Owen yn y 50au yn ddiddyddiad – ynP2/25/28 – ‘Diolch i Dduw am dy adfer yr hen ffrind annwyl, ie wedi ateb gweddiau eich ffrindiau chwi eich dau.’ BO bellach yn pregethu deirgwaith y Sul – ‘Digon cryf i dynnu’r Triger DJ a saethu. Diolch lawer am y bwledi trwy gyfrwng y Peace News, mae’n wir odidog’ – lladd ar bobl Ffestiniog a Chyngor Meirionnydd ‘Gwnaeth gormes y Sais ni yn gynffonwyr uffernol ac yn fradwyr cythreulig a chachgwn heb ail i ni yn y byd sydd ohoni.’ P2/25/29 – yn cynnwys ar frig y dudalen gyntaf ‘O frenin bydd fyw byth’ Dydd Gwyl Dewi - o Y Glyn, CNE – cynllythyr 28 yn ôl yr adroddiad ar iechyd BO –‘ Fel dywedodd y Proffwyd o Abergwaun o’r enw Dafydd John Williams wrthyf un tro. Rhaid i ni fodloni ar fod yn hauwyr. Yr hau sy’n bwysig, os gwneir y gwaith hwnnw yn iawn, meddai, fe ddaw y medi yn ei bwysau.’ P2/25/30 – ‘O na chaem iechyd i ymladd brwydr Treweryn (sic) onide? . . . Credfa rhywsut y llwyddir yn Treweryn eto. Os yw’r gwrthwynebiad yn ddigon cadarn yng Nghymru. A saif y ffermwyr? Amser a ddengys.’
1959
Cyhoeddi Yn Chwech ar Hugain Oed (Gwasg Aberystwyth)
Yn Chwech ar Hugain Oed. Aberystwyth : Gwasg Aberystwyth. ' Y Blaid i ymladd yn sir Benfro : arwyddocâd ymgeisiaeth Waldo Williams,' Y Ddraig Goch, Medi, 1.
‘Welsh Socialists and the “Wicked Tories”’, Western Telegraph, 18 May 1959, 3
‘The Wrong Way of Doing the Right Things: Action of Fishguard Chamber of Trade Condemned’, Western Telegraph, 21 May 1959, 8
‘The “Telegraph” and Plaid Cymru’, Western Telegraph, 16 June 1959, 12
‘Forty years on the brink of politics in Pembrokeshire’, County Echo, 1 October 1959, 3
‘O Ben y Bigni, “Eisteddfod y Preselau” yn Abergwaun’, County Echo, 10 Rhagfyr 1959, 7
P2/5/8 Jacob Mans Alltyblaca Ion 11, 1959 – cydnabod lythyr gan D. J. yn diolch am adolygiad – trafod rhai materion gwleidyddol
P2/24/11 Llythyr gan Eirwyn Morgan, Llandudno, 21/8/59 ‘Diolch yn fawr am yr ysgrif’ ac am ei gefnogaeth iddo fel golygydd ‘Ysgrifennais fy ngair olaf fel Golygydd ddoe. Bydd y Seren yn dipyn o faich, rwy’n ofni’.
‘Y Blaid i ymladd yn Sir Benfro: arwyddocâd ymgeisyddiaeth Waldo Williams’, Y Ddraig Goch, Medi,t. 1
P2/24/14 llythyr gan Eirwyn Morgan , 31 Awst 1959 ond wedi ei gamddyddio – cyfeirio at fwriad Waldo i sefyll yn Sir Benfro a gofyn am ysgrif i rifyn Medi, y rhifyn olaf y bydd EM yn ei olygu cyn mynd yn olygydd Seren Cymru – hwn cyn P2/24/11 yn ôl pob golwg
P2/25/5 d.d. ond diwedd 1959 gan James Nicholas, ei longyfarch’ar eich gorchestwaith lenyddol “Yn Chwech ar Hugain oed” – dymuno N. llawen a Bl.n. dda i D. J. a Msrs Williams
P2/26/95 – Llythyr , 17/12/59gan Dick (Llangwyryfon) yn diolch iddo am YCHO - bydd yn falch o allu dweud wrth y ddau wyr a’r tair merch – ‘Cefais y fraint fawr o adnabod y Dr D. K. a’r Blaenor hefyd ta beth am ei beintiau, a theimlo mod i rywle ymhlith ei gyfeillion.’ – Mynd i geisio gofalu bod y Cymry ymhlith swyddogion amaethyddol y NAAS yn ei ddarllen – ‘fe anrhegaf gymaint a llaf fforddio a chopi ohono’
Cip ar y Tir Gwyn 1960-1970
1960
P2/29/50 – llythyr cyntaf d.d. Don Rowlands, golygydd newydd y Western Mail ato, diolch iddo am ei ddymuniadau da; amlwg ei fod yn perthyn i Archie Rowlands, nai iddo?
Bywiol had y genedl. Teyrnged goffa i'r diweddar Barchedig Ben Owen,
gweinidog a chenedlaetholwr,' Seren Gomer, LII, 41-3.
' Teyrnged goffa : Y Parch. Ben Owen, Dre-wen,' Carmarthen Journal, 6 May,3.
' Mr. Donnelly—the prophet of Wales,' The Western Telegraph, 12 May, 8.
'What is a full nation ' (letter). Carmarthen Journal, 21 Oct., 3.
‘A very excited idea’, County Echo, 8 Dec, 2
P2/26/53 – llythyr gan Peate, 6 ii 1960 – canmol ‘eich cyfrol’. ‘Yn whaanol i Lygad Llwchwr a gohebydd y Faner, yr oedd yn dda gennyf i chwi ddweud stori’r pot! Beth sy’n bod ar y Cymry? Pan feddyliaf am lyfr fel Clochmerle, hawdd yw sylweddoli fod rhai cenhedloedd eraill gryn dipyn yn fwy gwareeiddiedig eu syniadau am bethau fel hyn.’
P2/26/78 – Llythyr ato 2 Mawrth 1960 gan Hettie, Ysgol Penffordd – cytuno i drefnu uiddo siarad mewn cyfarfod er mai ardal difater yw hon [DJ wedi ychwanegu yn ei law ei hun; ‘Llythyr un o’r merched gorau yn Shir Benfro – hi ac Annie ei chwaer.’
P2/26/114 – llythyr Saesneg March 22/1960 gan David Prosser, Caerdydd yn cyfeirio at lythyr gan DJ yn y Western Mail yn cefnogi ei syniad i gael ‘A National Trust for the Arts’
[Cyhoeddasai Prosser 3 ysgrif ar y pwnc yn y WM, 8, 9, 10 Medi 1959 ac yna’n bamffled y ceir copi ohoni ym mhapurau DJ, P2/26/114]
P2/29/50 – 5May , llythyr teipiedig Don Rowlands, D. G. H. Rowlands, golygydd y WM ; diolch i DJ am ei eiriau caredig ‘on the recent achievements of the Western Mail.’ Mynnu bod y Blaid yn cael gofod teg, ‘ a fair and sometimes more than fair share of our columns to the Blaid’. Disgrifio ei anghytundeb â safbwynt y Blaid – ond ateb DJ i Des Donnelly i’w gyhoeddi yn y dyfodol agos!
P2/30/39 – Llythyr 10.5.60 gan Harri Samuel, Y Mans, Rhaeadr, Sir Faesyfed – diolch am y wledd a gafodd wrth ddarllen YCHO – nodi bod Bill Samuel a’i dadcu yn ddau gefnder. ‘Yr oedd fy nhadcu yn ei osgoi fel y pla, ond bu fy nhad lawer gwaith yn ei gwmni, a chael mynediad rhad i’r babell baffio! Gwelais eich llythyr yn y Western Mail ddoe. Da iawn. ‘ Disgwyl ymlaen at gyfrol aralll i orffen yr hanes.
30/5/60 Papurau NI 1/148 – llythyr at Norah, diolch am wahoddiad i ddod i weld perfformio rhannau o waith Saunders, ond Caerfyrddin yn rhy bell, ‘iechyd Sian yn bur wanllyd o hyd, a finnau wrthi’n treio sgriblan rhyw bethach yn ôl fy arfer’ – DJ wedi bod yng Ngŵyl Ddawnsio (yr Urdd?) yn Hwlffordd y Sadwrn cynt – sôn am yr ieuenctid yno – ‘ aelodau o Blaid Cymru i gyd yn y dyfodol, neu beth yw’r Urdd dda, meddech chi!’[Dai Cefen Gwyn]
P2/29/28 llythyr gan W. M. Rogers, Penybont-ar-Ogwr yn ei wahodd i fod yn siaradwr gwâdd yng nghinio Gwyl Ddewi Cymrodorion Penybont 1 Mawrth 1961
P2/26/115 - Llythyr, Mehefin 20, 1960, gan Denzil a Edna Protheroe, Aneddle, Boncath – hanes cyfarfod o’r Blaid yn y pentre pan fu Gwynfor yn siarad ‘nos Fercher diwetha’ – cangen Boncath wedi’i ffurfio yn sgil hynny.
P2/14/5
/5 gan Ald. John Harries, B.E.M., J.P,(‘Irlwyn’)Maes-y-betws, Rhydaman, 31Hydref 1960
Diolch iddo am Yn Chwech ar Hugain Oed – ‘Rwyf yn eich cofio yma yn y Betws yn dda; yr oeddech yn aros gyda Tom Cathan [?] Davies yn heol y Cyrnel[ïïï] a chawsom ambell i noson am y Byd a’r Betws ar yr aelwyd hono; er na welais sôn am [?]Tom a Jessie, ond y mae sôn am y ferch Louisa ac sydd yn parhau yn gantores o hyd. Y mae eich cof yn dda,oherwydd yr oeddwn yma pan oedd y diwygiad yn ei fawredd, a’r noson y torrodd allan yn Bethani; rwyf yn cofio yn dda fod Gwili’r Prif fardd yn annerch yn y Vestri ar ‘Bob’ Rhys Lewis gan Daniel Owen a phan oedd yn diweddu dyna ganu brwd yn y capel , a dyma Nantlais heb gynnig diolchgar i Gwili yn rhuthro i fewn i’r capel fel pe buasai’r byd ar ben: a ninnau lawer yn ein siom yn gweld Gwili yn mynd allan heb gymaint a diolch am ei anerchiad ragorol. Bum innau yn gweithio yn y ddwy lofa(No 1 a 2) ac wedi ennill ysgoloriaeth i Goleg Ruskin am naw mis des yn fy ol, a ches fy ethol yn atalbwyswr yng nglofa Pantyffynnon, ac yno y bum wrthi am ddeugain mlynedd yn nghanol brwydrau y Glo Carreg. Yr oeddwn wedi cychwyn dan yddaear yn 11 mlwydd oed felly ni ches i fawr o amser i fyfyrio’ (sôn am ei gyfrol “Y Byd a’r Betws” argraffiad o 5000 wedi’u gwerthu, ail ar fin ymddangos.Sôn am ei gyfeillion barddol, Amanwy, Llwyd, Gwilym Myrddin, am ei gyfeillgarwch â Gwilym, brawd Amanwy a laddwyd mewn damwain yng nglofa Pantyffynnon ) ‘Yr ydych wedi ysgrifennu yn odidog am yr hen fro, yn gywir a manwl iawn. Yr wyf wedi synnu fod eich cof mor dda wedi’r holl flynyddoedd oddi yma.’
P2/14/9
Llythyr gan Mrs May Harris, Rhydaman, Ion 24 1960 yn diolch am YCHAHO. ‘Merch wyf i ail ferch Wiliam Griffths y neiler wedi fy magu ar straeon am yr hen ddyddiau a’r hen gymeriadau yn y Betws. Yn wir, mae’n syn gennyf na holltodd to’r tŷ hwn lawer gwaith gan daran chwerthin Wncwl Dai (Amanwy) pan fyddai ef a Jim ei frawd yn adrodd rhai o hanesion eu hieuenctid. Rwy’n arbennig o ddiolchgar am eich cyfeiriadau caredig at Gwilym... Diolch yn fawr i chwi am y llyfrau sy’n drysorau mor werthfawr gennyf.. .
P2/31/209 – llythyr 1st July 1960 gan Trefor Vaughan, 97 Brynglas Road, Newport Road [llythyr cyntaf TV ar ôl iddynt gyfarfod yn lletya yn yr un gwesty yn Llandrindod] – ‘It was very kind of you to send the literature with reference to the claims of our nation’ – rhannu edmygedd DJ o George M. Ll. Davies – nid oedd yn ei nabod ond fe’i clywodd yn siarad yn Aberdar. Cofiai weld Khardie yn cerdded trwy strydoedd Aberdâr with ‘a shouting mob after him following an attempt by the I.L.P. to hold a peace meeting in September 1914, It has been said that experience broke his heart.’ Adnabod Sir Ben, wedi cael sgwrs gydag e yng Nghaerdydd ddoe. Gobeithio bod y cyfieithiad yn dod yn ei flaen . . .
P2/27/56 Llythyr 27 Oct 1960, gan William Rees, Llundain yn anfon yn ôl at DJ gopi o Brad a fenthyciwyd iddo. Ymddiheuro am ysgrifennu’n Saesneg, mynegi Barn am y ddrama, amgau ‘ a print of that photo of an excursion on the Cherwell in 1918, which I had long ago promised, but never sent.’ [ DJ yn ychwanegu yn ei law ei hun, ‘Y Tad William Rees, cydysgolor a fi yn Aberystwyth a Rhydychen, wedyn – brodor o Eglwyswrw a drodd yn Babydd, un o dri brawd rhagorol, Jac, Ben ac yntau, bechgyn disglair y tri ohonynt a gollodd eu rhieni yn gynnar.’]
P2/27/41 – Llythyr 6 Rhagfyr 1960 gan Ifor Rees BBC, Caerdydd yn trafod y rhaglen ‘Cadw’n ifanc’ y bydd DJ yn cymryd rhan ynddi ar Rhagfyr 19 yn Stiwdio Broadway, Sapphire Street, Caerdydd [sgwrs gydag Emrys Cleaver – gofyn iddo anfon ychydig nodiadau ar yr hyn fydd ganddo i’w ddweud]
P2/29/51 – 13/12/1960 – llythyr byr gan D.G.H. Rowlands WM yn dweud ei fod am ychwanegu’r frawddeg a anfonodd DJ at ei lith – ‘A Very Excited Idea’ – Ai’r un erhtygl a gyhoeddwyd yn County Echo. 8/12/60
1961
Yn ein dwylo ni a neb arall y mae tynged Y Genhinen,' Y Cymro, 2 Mawrth, 1.
The Old Farmhouse translated from the Welsh by Waldo Williams (London, Harrap)
' Ail ymgyrch Mr. Eurwyn Charles yn Nyfed,' Y Ddraig Goch, Medi, 7.
' Gyda'r Cadfridog Charles de Gaulle,' Y Ddraig Goch, Gorff., 5.
' Gair at bwyllgorwyr addysg Sir Gâr,' Y Cymro, 24 Awst, 7.
' The National Eisteddfod and local authorities,' Western Telegraph, 7 Dec, 15.
' Welsh voice in chorus of nations.' (Letter). Western Mail, 5 June, 6.
Fforwm y pleidiau : 'Plaid Cymru a Phlaid Lloegr', Baner ac Amserau Cymru,9 Tach., 3.
‘Panzers' [in Pembrokeshire] (Letter). Western Mail, 7 July, 6.
‘ “Unwarranted attack by Artemus says Welsh Nationalist’, Western Telegraph, 23 Feb., 12
‘Wales should decide Panzer’, Western Mail, 7 July, 6
‘New towns and old policies’, Western Mail, 18 Ionawr 1961, 6
‘Ni thawodd y bytheiaid’, Taliesin, Cyfrol 1 (1961), 22-9
‘Plaid Cymru a Phlaid Lloegr’, Baner ac Amserau Cymru, 9 Tachwedd 1961, 3
P2/24/95
P2/29/52 – drafft teipiedig gan DJ 10/1/61 o lythyr at olygydd y WM yn mynegi siom na chyhoeddwyd ei lythyr ac ynghylch agwedd ‘ diffident and negative towards the Welsh nation’
P2/29/53 – llythyr gan D.G. H. Rowlands 10 Jan 1961 – mynnu ei bod hi’n fwriad i gyhoeddi ei lythyr ac yn anghytuno â’i farn am agwedd y papur. Y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru yn ddifraw ar fater ‘the cause’ ‘They do not share – nor do I – your view that Wales is a subject nation.’ Y papur yn rhoi llawer o ofod i Blaid Cymru.
Mercher 18 Ionawr 1961 – llythyr gan DJ yn y WM – ‘New Towns and Old Policies’ – protestio yn erbyn syniad Mr Henry Brooke ‘the urbane custodian of our rights with a profound intuition of what is good, and what is not good for us’ i godi tref newydd yng Nghaersws ‘to be peopled by “some Welsh” but mainly by “English from the Midlands”
[ymosodiad lliwgar ar Brooke]
( yn ôl stamp yr amlen, llythyr gan Lonwen Morris, 22 Gwyther Street, Pembroke Dock – D. J. wedi sgrifennu ar yr amlen ‘Gŵr Gwadd yn Noc Penfro nos Wener Mawrth 2, 1962
P2/24/94, llythyr gan Lynwen Morris, 3/5/61 yn diolch i DJ am gytuno i fod yn ŵr gwadd y Gymdeithas Gwyl Ddewi yn 1962 – llongyfarch DJ ar i Saunders Lewis ddewis yn 26 oed fel campwaith rhyddiaith y ganrif
P2/31/77 – llythyr 14-ii-61 gan David Thomas (golygydd Lleufer) – treulio’r gaeaf gyda’i ferch a’i fab-yng-ngh ym Mhorth Tywyn –‘Y mae eich llythyr a ddebyniais yma ychydig cyn y Nadolig yn un o’r pethau a gynhesodd fy nghalon fwyaf o ddim byd a dderbyniais erioed’ – mynegi ei edmygedd mawr o DJ ers dyddiau Penyberth – ei lyfrau i gyd ar ei silffoedd - diolch am ei sylwadau caredig am Lleufer, ei wahodd i gyfrannu
P2/31/210 ; 12 May 1961, llythyr gan Trevor Vaughan, Casnewydd – ‘I have not forgotten our meeting in Llandrindod – wedi cael benthyg pamffledi ar safle Sir Fynwy gan DJ ond yn eu dychwlyd gan eu bod ‘out of date’ ; ‘I do not know whether I was inspired by your enthusiasm buy I have taken a course “Learning Welsh” with “Coleg Harlech” this winter – correspondence course of 24 lessons and althouh it was real hard work at times, I completed them and feel very proud of my effort.’ ron dim gwybodaeth o’r iaith ganddo cynr, enwau lleoedd yn ddiystyr iddo. Mam ei fam yn siarad Cymraeg a’r teulu’n mynd i Sion y Wesleiad yn Aberdâr. Diddorden mawr ganddo a boddhad o allu darllen rhai pethau a chynnal sgwrs syml. Dweud ei fod e a’i wraig a’i gyfnither yn ymweld â’r UDA am fis ac yna wythnos yn Montreal. Holi am Syr Ben; TV yn 62, wedi ymddeol ers dwy flynedd, ond yn brysur fel cynghorydd, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg
Llythyr Roland Mathias P2/23/5, 8 June 1961 ‘You are almost the only person in the nationalist camp who has shown much real understanding of the position of persons like myself who have to use English as their first language.’
P2/24/18 – cerdyn post agn Eirwyn Morgan, 15/6/61 ‘Ail-ddarllen eich llythyr calon-gynnes heddiw. Storïau dafydd ‘r Efail Fach yn foethyn [?] – ac is-adran Cranogwen yn gampus’
P2/26/12 llythyr Elwyn D. Parry ato yn ei wahodd i ddarlithio i ‘Gymrodorion Caerdydd’ ar 12 Ionawr 1962. ‘Mae eich cyfaill B. O. Jones yn dweud fod raid i chwi ddod! Y mae yn benderfynol o’ch cael yma rywsut.’
P2/5/6 D. Evan Davies, Abergafenni, 10/7/61 – derbynneb a gair o ddiolch am rodd o un gini i Ysgol y Delyn,Pantybeiliau, Gilwern, y Fenni
P2/31/212 – llythyr 11 August gan Trevor Vaughan yn rhoi haes ei daith i’r UDA a Montreal. DJ wedi trefnu i’r Athro John Hughes [llanllwni gynt] eu cyfarfod. JH wedi bod yn gyfeillgar iawn ac yn gymwynasgar iawn. ‘For all this we are indebted to your kindness in asking him to meet us.’; P2/31/214 – TV yn falch fod DJ a S. wedi derbyn gwahoddiad i aros gyda nhw yng Ngahsnewydd; P2/31/213 [camrifo] siomedig na allent ddod ond yn parchu eu rhesymau. Dal i ddysgu Cymraeg, ‘I am sure it was my meeting you that inspired me to tackle this difficult task – I was ashamed that in Llandrindod a person like yourself was compelled to speak to me in English! . . . I can now read “Nant y Mynydd” and the “Cwcw” (trained – Coleg Harlech ) with real pleasure!
P2/24/17 llythyr EM o Landudno yn diolch iddo am lythyr (ac englyn Waldo) ac am rai ysgrifau diweddar yn y wasg – gofyn iddo ‘am dair neu bedair llith ar : “Rhai Bedyddwyr a Adnabûm” , e.e Iau [?] Dafis, Aberwgaun, R. Parri-Roberts, Lewis Valentine, Herbert Morgan etc – ‘Hefyd, tybed a allech ddylanwadu ar Waldo i ddod yn ysgrifennwr cyson i’r Seren?’
P2/28/15 – llythyr 17/11/61 gan Elwyn Roberts, Cyfarwyddwr Cyllid Plaid Cymru ‘diolch o galon am eich help sylweddol iawn efo’r arian a’r cylchrediad’ – ‘Yr ydych chwi eich hun yn well na’r Swyddfa am godi’r cylchrediad.’ Pe bai pob rhanbarth cystal a Sir Benfro am gyrraedd eu cwota byddai’n iawn ar y Blaid wedyn.
P2/24/20 llythyr gan Eirwyn Morgan, Llandudno, 27/11/61 – ‘Annwyl D. J., Diolch am eich llythyr – y math o lythyr sy’n codi calon yn fwy na dim. Yn rhyfedd iawn, gwnaethwn gyfeiriad atoch yn fy nyddiadur oedd eisoes yn y wasg, gan sôn am y rhai cadwedig oblegid bara ohonynt hyd y diwedd (nid bod hwnnw gerllaw, gobeithio, chwaith!) Cyfeirio at ei brysurdeb yn golygu na all sefyll yn Llanelli i’r Blaid – ‘Wynne’ [Samuel?neu Owen?] wedi’i wahodd i gymryd ei le ac EM yn ffafrio hynny.
P2/26/104 Llythyr gan Dewi Powell (Watcyn Powell, Francis Taylor Building, Temple, E. C. 4)
30/11/61 yn diolch am YCHO dweud ei fod ‘wedi cael pleser, mwynhad ac ysbrydiaeth wrth ei ddarllen. A oes modd yn y byd i’ch perswadio i sgrifennu hanes eich cyfnod yn Aberystwyth a Rhydychen? Amheuthun fyddai ei gael.’
P2/26/105 – 11/12//61, llythyr gan Dewi Powell yn ymateb i gais agn DJ iddo ystyried bod yn ymgeisydd i’r Blaid yn Sir Benfro – esbonio bod hynny’n ‘gwbwl amhosibl’.[awgrymu enwau Graham Hugehs, Aberystwyth neu Granville Jones, bargyfreithuwr, Abertawe]
1962
' Llywydd yr Undeb—Val' [y Parch. Lewis Edward Valentine], Seren Gomer, LIV, 7-10.
' The Montgomery by-election ' (Letter), Western Mail, 15 May, 6.
' Neges D.J. Williams yn Eisteddfod Llanelli,' Y Ddraig Goch, Medi, 3.
‘Begrudging the truth of a penny’, Western Mail, 2 Jan., 4
‘A letter to Mr Jack Sheppard’, County Echo, 25 Jan., 4
‘The Old Farmhouse’, Western Mail, 3 Feb., 5
‘Y ddarlith Radio Flynyddol, 1962, gan Mr Saunders Lewis – gair amdano gan D. J. williams’, Radio Times, 8 Feb., 27
‘Plaid Cymru’ (llythyr agored), County Echo, 3 May, 8
‘Tribute to a great hearted publican: William Richard Howell’, County Echo, 3 May, 6
‘Adolygiad: Tabyrddau’r Babongo: Islwyn Ffowc Elis’, Lleufer, Haf 1962, 96-8
P2/24/21 – Llythyr gan Eirwyn Morgan, 2/2/62 : ‘Buddugoliaeth fawr yn Rhydaman- Myrddin Evans wedi rhoi crasfa i Lafur yn y cadarnle. Bachgen rhagorol.’ Gofyn i DJ am ysgrif ar Valentine gan ei fod yn dod i gadair yr Undeb yng Nghlydach fis Ebrill. Hefyd dymuno ysgrif ar Wynne Owen.
P2/31/78 – llythyr 10-ii-62 gan David Thomas, gol. lleufer – diolch am rodd o bunt i’r cylchgrawn, ac am gytuno i adolygu llyfr Islwyn [Tabyrddau’r Babongo]
P2/5/4 Dilys Davies, Chestnut Villa, Clydach, Swansea 27/2/62 – ‘Anwyl Dr. Williams’ – gan un a fu ar staff ysgol Abergwaun am 3 blynedd amser rhyfel. Diolch iddo am ei lyfrau a dymuno pob bendith iddo
P2/24/22 – Llythyr gan Eirwyn Morgan 27/2/62, canmol y rhaglen deledu – pwyso ar DJ i orfen ei hunangofiant – ‘Byddai hanes blynyddoedd y crwydro politicaidd yn rhan bwysig o arfogaeth eich olynwyr.’ [Sôn am obeithion y Blaid, y de o flaen y gogledd ym marn EM]
P2/24/83 – Llythyr gan T. J. Morgan, Cwrt Herbert, Bishopston, Abertawe 14/4/62 – ‘Er nad wyf yn meddwl fod y gyfres sydd gan TWW ar lenorion yn rhyw lwyddiant mawr, fe’ch leiciais i chi yn fawr iawn, am eich bod mor naturiol a diathroniaeth.’
P2/30/51 – llythyr 7 Mai 1962 gan T. D. Scourfield, Ysg Cyff Eist Gen Llanelli, yn gwhaodd DJ i fod yn Llywydd ddydd Iau Eist Llanelli
P2/29/56 – llythyr 15th May gan Don Rowlands, ‘I tremble to think I may have swung the whole course of the Montgomeryshire by-election by publishing your trenchant letter on polling day.. . . Thank you for your kind words about my South Africa articles.’
P2/30/16 – llythyr 21 Mai 62 gan W. Samuel – blin ganddo glywed bod Waldo’n ymddeol fel ymgeisydd; bydai JN yn olynydd teilwng ond ‘gobeithio na fydd yn sefyll fel ymgeisydd 2Y Blaid a C. N. D’ – rhybuddio rhag rhoi gormod o bwyslais ar gefnogi C. N. D. – ‘Bertrand Russell yn fwy gwrth-Gymreig na Gaitskell’ – WS yn barod i siarad yn Hwlffordd 23 Mehefin, anfodlon i wnud CND ‘yn brif fater yr araith.’ ‘ni ddylem ni y Blaid redeg ar ôsl popeth a Chymru yn y cyflwr y mae.’
P2/25/2 – llythyr gan James Nicholas (d.d. stamp 29 May 62) yn esbonio pam na all dderbyn gwahoddiad i fod yn ymgeisydd y Blaid yn Sir Benfro) P2/25/3 d.d yn diolch i D. J. am ei ddymuniadau gorau iddo wrth iddo fynd i Ysgol y Preseli , ymddiheuro am esgeuluso’r Gronfa
P2/31/216 – llythyr 23 July gan Trevor Vaughan; falch eu bod wedi cyfarfod a’i gilydd eto am ychydig funudau. Wedi mwynhau taith o gwmpas Cymru. Anfon ei gopi o the Old Farmhouse i DJ ei arwyddo. TV yn mynd ar gwrs Cymraeg yn Harlech ym mis Awst. Dal i obeithio y bydd DJ a Sian yn dod i aos gyda nhw yng Ngahsnewydd; P2/31/217 – llythyr cymraeg gan ‘Trefor Vychan’ 26 Gorff ‘Rydym ni’n falch iawn i glywed fe fyddwch chi’n dod i aros gyda ni ym mis Medi.’ ; P2/31/218 – 21mis Awst 1962, TV yn falch o glywed bod Mrs Williams yn well ac yn gallu dod i aros.; P2/31/219 – 15th September 1962, ‘Trefor’ ‘yn falch i glywed eich bod chi yn ol cartref yn ddiogel.’’Yr oedd yn ddrwg gennym ni i’ch gweld yn mynd . . . Yr oedd bob pryd llawenydd.’
P2/26/111 – llythyr 28 SEP 1962 , Shrewsbury Prison gan David [Pritchard ?] yn diolch i DJ am y llythyr a anfonodd at deuluoedd y ddau ohonynt. Dweud iddo orffen darllen ‘The Old Farmhouse’ a few weeks prior to going t Bala.’ [DJ weodi ychwanegu yn ei law ei hun ‘Un o’r ddau fachgen a ddaliwyd yn Nhryweryn yn gwneud eu dyletswydd ac a drosglwyddwyd i garchar Amwythig i sefyll eu prawf gan ynadon y Bala’
P2/24/48
Llythyr gan Elizabeth Morgan, 1 Clifton Villas, Mount Pleasant, Abertawe, 4/10/62 yn ei wahodd ar ranAdran merched y Blaid i agorFFair Nadolig. ‘Gobeithio y gwnewch faddau i mi am ddweud hyn ond rwy’n teimlo’n falch iawn o gael fy llun ar y ‘Ddraig goch’ yn eich cwmni.
P2/29/58 – llythyr 5 October 1961 yn ymateb i gwyn gan J na roddwyd sylw i rali flynyddol PC yn y WM – esbonio pam ma chafwyd adroddiad.
P2/30/53 – llythyr gan Jack Sheppard 27.10.62, Ysgrifennydd Pwyllgor Sir Benfro o’r CND, sôn am drafferthion ariannol CND yn genedlaethol a gofyn am gyfraniad. P2/30/54, 3/11/62, llythyr gan Jack Sheppard yn diolch am rodd o £2.
P2/26/54 – llythyr gan Peate, 11 xi 1962, diolch i DJ a mrs Williams am rodd o £10 i gronfa’r Amgueddfa Werin – trafod anghytundeb rhyngddo a Bobi Jones ac an ddylai aelodau’r Academi gecru’n gyhoeddus
1963
Y Bod Cenhedlig : cyfieithiad gyda rhagymadrodd gan D.J.Williams o AE, The National Being [Caerdydd] : Plaid Cymru.
Adolygiad : Seirff yn Eden (Gwilym R. Jones), Baner ac Amserau Cymru 7 Tach., 2.
' Gwasgar llwch sant ac arwr ' [Y Parch. Joseph James, Llandysilio], The
County Echo, 15 Aug., 7.
‘ Gwleidyddiaeth Barn,' Baner ac Amserau Cymru, 14 Mawrth ,7.
' My minister and my M.P.; new year's message for Mr. Donnelly,' Welsh Nation, Jan., 5.
' Of three evils choose none,' The Western Telegraph, 12 Dec, 9.
' The price of national servility,' The Western Telegraph, 17 Oct., 7 ; Welsh Nation, Dec, 3.
‘D. J. Williams yn ateb Gwladgarwr’, County Echo, 24 Jan, 3
‘Politics – old and new in Pembrokeshire; of three evils choose none’, County Echo, 12 Dec., 8
[dienw] ‘Dr Nöelle Davies to speak at Fishguard’, County Echo, 5 September 1963, 5
P2/31/220 – 7 January 1963 – llythyr Saesneg gan ‘Trefor’ – sôn am ei ymdrechion ef a’i wraig Madge i ddysgu Cymraeg ‘We discipline ourselves to using Welsh words on every possible occasion and the area of Welsh conversation increases day by day.’ Diolch am yr anrheg gan DJ. Diswgyl y bydd yn Faer Casnewydd ym mis Mai. ‘As yous ay in your letter, my Welsh associations will enable me to bring a Welsh flavour into this community and establish contacts with Welsh institutions. However, I am convinced that personal ability to speak Welsh is at the heart of the Welsh way of life. . . . I am convinced it was the work of the Holy Spiit which compelled me, even to the point of embarrassment, to come and stay with us.’[ llythyr gan Madge at Siân yn yr un amlen]
P2/28/43 – llythyr gan Emrys Roberts, Trefnydd ac ysgrifennydd Plaid Cymru, amgau proflenni cyfrol – (Y Bod Cenhedlig) a newyddion trist am salwch difrifol G. J. [Williams]
P2/28/16 – llythyr 6 Chwefror 1963 gan Elwyn Roberts, Plaid Cymru – diolch am y derbynwyr newydd
P2/27/107 – llythyr Chwefror 9 1963 gan Leslie Richards, cysyllyu ar ran Adran Addysgol Barn gofyn iddo am ddwy erthygl ar grefft y stori fer gan gadw mewn cof gasgliad T. H. P. W. ‘Ystoriau Heddiw’- eu hangen erbyn diwedd Mawrth ac Ebrill erbyn rhifynnau Mai a Mehefin. Bu’n petruso cyn gofyn ond mentrbrysura sydd barota i helpu’o arni ‘gan gofio mai’r bobl ; P2/27/108 [d.d.] yn diolch iddo am ymateb cadarnhaol i’r cais, P2/27/109, Mawrth 27 LR yn cydymdeimlo â DJ oherywdd ei anhwylder ef a Sian, ‘Peidiwch â mynd i ladd eich hunan gyda’r erthygl i Barn’
P2/24/84: 12/3/63 llythyr gan T. J. Morgan ar bapur swyddogol Department of Welsh Language and Literature
Gofyn iddo ddod ynghynt i Abertawe ‘ddydd Mawrth nesaf’ er mwyn cyfarfod â myfyrwyr yr hunan. ei wahodd i gael te gyda TJ a’r myfyrwyr yn nhŷ swyddogol y Coleg . . . ‘a chael cyfle i sgwrsio’n rhydd ac anffurfiol gyda’r rhai ifainc.’
PNI 1/166, 16/4/63 – Dymuno’n dda i fenter y ddrama yng Nghaerfyrddin - methu bod yno – ‘nid yw ein hwyl ni’n dau wedi bod yn rhy dda yn ddiweddar, ond yn gwella eto drwy drugaredd’
P2/28/19 – llythyr gan Elwyn Roberts, 19 Ebrill 1963 – ‘Casglu i’r Gronfa: Sylwaf mai eich dymuniad ydyw gadael trefniadau’r casglu i chwi’n bersonol am Benfro i gyd. mawr ddiolch ichwi am hyn – gwn na raid inni boeni eto ynghylch y cymal hwn o’m gwaith.’
P2/30/55 – 28/6/63 llythyr gan Jack Sheppard yn diolch am lythyr a siec am £1.1.0 – dweud ei fod yn gwerthfawrogi ‘constructive criticism’ DJ o’i safbwynt – JS wedi awgrymu y gallai CND sefyll mewn etholiadau?
Gorffennaf 1-5 annerch yn Ysgol haf Gweinidogion Bedyddwyr Cymru yn y Cilgwyn – gw llythyr y Parch R Gwyn Thomas ato 4/6/63 – P2/31/159
P2/24/85
24/9/63 llythyr gan T. J. Morgan, Cwrt Herbert, yn ei hysbysu iddo dalu ei siâr mewn rhwy giunio (Academi, tybed?)
‘Yr oedd y poteli gwin yn hynod o resymol; mewn gwirionedd ‘doeddwn i ddim yn werinol o gwbl yn yfed lager gan ei fod yn llawn mor brid â’r gwin a gwasoch. A chan nad oedd eich cyfran chi o’r “bedol” gymaint â chyfran y lleill gan inni gael ail bryd, nid rhaid ichi boeni yn y mesur lleiaf.
Ond e gadwaf eich llythyr i’w roi i’ch cofiannydd neu i danseilio wgaith eich cofiannydd, a phrofi drwyddo eich bod nid yn unig yn Welsh ond hefyd yn welsher, ac ar ben hynny yn hen fwzer o flaenor Methodist.’[yna syniadau ar gyfer cynhadledd nesaf yr Academi Gymreig]
P2/31/82 – llythyr 19 Medi 63 gan D. Thomas, Boncath, gofyn iddo ddod i annerch cangen y Blaid yng Ngholeg Aberystwyth 24 Hydref
P2/29/59 – llythyr gan Don Rowlands, 7 Nov 1963 , egluro and yw am gyheoddi erthygl DJ ‘The Proce of National Servility’ – esbonio bod yn rhaid iddo gadw cytbwysedd yn y papur – ‘I do not expect members of Plaid Cymru to agree with me that other activities call for constant discussion in our pages, and we must have a breathing space between recurrent outbreaks of interest for our many readers to whom the issue means very little.’ [gw llyfryddiaeth]
P2/27/58 – llythyr Tachwedd 8 1963 gan y Parch W. M. Rees, llangyndeyrn ar bapur y Pwyllgor Amddiffyn – diolch i DJ am lythyr caredig ‘ysbrydiaeth arbennig i mi ynghanol y frwydyr boeth’ [rhoi mwy o’r hanes i DJ]
1964
P2/31/223 - Llythyr 5 Ionawr 1964 gan Trefor o Mansion House, Newport – diolch i DJ am yr anrheg, dal ati i ddysgu Cymraeg [llythyr Cymraeg] Gofyn barn DJ am rannu Prifysgol Cymru yn 4 coleg [nodyn gan Madge at Siân hefyd]
P2/28/49 – llythyr gan Gomer M. Roberts, Llandudoch, 30 Ionawr 1964, blin fod DJ yn absennol o’r henaduriaeth ym Mhentowr ddoe – y rheswm oedd pryder mawr – am iechyd Siân?
P2/24/86 – llythyr gan T. J. Morgan – ef ac Islwyn yn paratoi rhaglen y Gynhadledd nesaf ac yn credu y dylid cael darlith gan y Llywydd [DJ yn llywydd yr Academi] – am iddo siarad ‘ar eich “pererindod lenyddol” [P2/24/87, 4/2/1964 T. J. yn diolch i D. J. am gydsynio ac yn gobeithio bod Sian yn gwella ar ôl salwch.]
P2/26/13, 20 Mawrth ’64, llythyr gan Gruffydd Parry, Pencraig Fawr, Sarn – diolch i D.J. am y cerdyn yn canmol rhaglen a wnaeth GP – ‘mae eich geiriau caredig yn bethau y byddaf yn eu trysori ac y byddaf yn falch ohonynt. Peth go fawr ydi i brentis gael cymeradwyaeth meistr.’
P2/31/67 – 29-iv-64 – llythyr gan Dan [Thomas] Derfel, Porthmadog [trysorydd Plaid Cymru] – newydd da iddynt lwyddo i gael ymgeisydd, roeddent yn ffodus i gael gwasanaeth Emyr Llewelyn Jones fel “agent”.
A big week for Fishguard,' County Echo, 33 July, 4.
' A challenge to the London parties in Wales,' County Echo, 10 Sept., 3.
' Dyfroedd Mara a ffynhonnau Elim,' Baner ac Amserau Cymru, 26 Tachwedd
' Mr. Donnelly and Wales,' Welsh Nation, May, 2.
' Nationalism and imperialism,' Welsh Nation, Aug., 2.
' Plaid Cymru adopts its candidate,' Western Telegraph, 27 Feb.
' Politics—old and new in Pembrokeshire,' Welsh Nation, March, 2.
' Some election reflections. Fair is foul and foul is fair,' County Echo, 29 Oct., 2.
' A ydyw Cymru i barhau'n genedl ? ' County Echo, 18 June, 7.
' Nosou lawen - lawen iawn. "Y Parti Triban" yn gwneud ei farc,' County Echo, 18 March, 7.
' Teyrnged i Gymro mawr ' [Dr. William George], Seren Cymru, 5 Mawrth, 2.
' Mr. Donnelly and the "Parochial Separatists".' County Echo, 6 Feb., 2.
' Neges D. J. i'w gyd-Shirgarwyr ar ddydd etholiad.' County Echo, 8 Oct., 7.
P2/31/84 – llythyr 14 Gorff 64 gan Dyfrig Thomas, Ffynhonnau, Boncath – trafod cyfarfodydd y blaid – dweud bod erthygl DJ yn yr Echo yn gampus - yn bwriadu mynd ati o ddifri i sgrifennu i’r wasg ‘o hyn ymlaen gan fod y cynhaeaf gwair ar ben.’
P2/28/22 – Llythyr 21 Rhagfyr 1964 gan Elwyn Roberts PC – diolch am lythyrau diweddar DJ ac am yr un diwethaf ‘yn amgau rhoddion mor sylweddol, ac mor dderbyniol, i Gronfa Gŵyl Ddewi. Yn wir, gwnaed gwaith rhyfeddol gennych yna yn gwneud elw o £100 ar y Ffair, ac yn casglu swm da o danysgrifiadau.’ . . . ‘Yn wir, y mae’r gwaith a wnaed gennych yn y sir yn rhyfeddol.’
1965
' Teyrnged i Gymro mawr : Dr. William George.' Seren Cymru, 5 Mawrth, 2
' Plaid Cymru against the rest.' Western Telegraph, 29 July, 9.
' Wales and the Imperialist parties.' County Echo, 2 Sept., 2.
' Aelod o'r Blaid ?' County Echo, 9 Sept., 2.
' Politics: Welsh or English in Pembrokeshire.' Welsh Nation, Oct., 2.
' Hold fast to what you have.' Western Telegraph, 7 Oct., 10.
‘Plaid Cymru Broadcast’, County Echo, 7 October 1965, 5
‘The Marina Project: Alter Character’, County Echo, 7 October 1965, 6
' Less than justice for Welsh.' Western Telegraph, 4 Nov., 10.
PNI1/175 – at Norah, 28/1/65 yn ei llongyfarch ar ei pherfformiad ar y teledu yn cael ei chyfweld gan Aneirin Talfan brynhawn Sul diwethaf
P2/24/26: Llythyr gan E. Morgan, 3/2/1965, gofyn am gyfraniad i seren Gomer ar William George, a fydd yn 100 ar Chwefror 25 – am i Waldo sgrifennu cywydd clod, ac i olygu ‘Colofn yr Awen’ yn y Seren ‘A allech ei ennill i wneud?
P2/31/225 – llythyr dwyieithog 12th February 1965 gan Trevor; drwg ganddynt glywed i Sian fod yn sal, falch ei bod hi’n gwella. Am i’r ddau ddod i aros yng Nghasnewydd yn yr haf. ‘Diolch yn fawr ichi am yr anrheg derbyniol “The Historical Basis of Welsh Nationalism.” Fe fyddfa i’n ei ddarllen gyda diddoreb (sic). TV yn mynd i’r UDA ym mis Mai fel rhan o gynrychiolaeth Pwyllgorau Plowdena Gittings. Mor frwd ag erioed i fod yn rhugl yn y Gymraeg. Aelod o Gyngor Ysgol Feddygol Cymru ac yn cwrdda ‘your friends Sir Ben and Dr William Thomas from Tenby.’
P2/27/60 – llythyr 15/2/1960 – llythyr gan Y parch Gareth L Reynolds yn gofyn iddo ddod i draddodi darlith yng nghapel Caeo, heb ddarlithio yn y cylch ers tro.
P2/28/23 – llythyr, 16 Chwefror, 1965 gan Elwyn Roberts, PC, eto’n diolch ‘am y hrestr orchestol o dderbynwyr newydd i’n papurau . . . Rhaid eich bod wedi ennill miloedd o dderbynwyr newydd i’n papurau.’
P2/27/61 – 24/2/65 llythyr G. Reynolds yn cydymdeimlo ag ef ar golli ei chwaer ac ynghylch salwch Sian
P2/24/54, 26/2/65, llythyr gan Olwen ac Eurfin Morgan, y Tymbl, yn cydymdeimlo ar ôl clywed am frawolaeth ‘eich chwaer annwyl yn yr hen gartref. Clywsom gan Nansi Jones (Gwarcoes) mai newydd ddychwelyd ydoedd i fyw yn yr hen fro’
P2/24/50 – llythyr gan Enid Morgan Aberaeron Gwyl ddewi ’65 yn diolch i DJ am gytuno i ddod i siarad yng nghinio Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, trafod trefniadau teithio
P2/28/50 llythyr 31Mawrth gan GMR ar ran Henaduriaeth Gogledd Penfro yn cydymdeinlo ag ef ar golli ei chwaer; P2/28/51 29 Gorffennaf llythyr eto gan GMR ar ran yr Hen. yn cydymdeimlo ag ef ar golli ei briod.
P2/24/27 – 5/6/1965 – llythyr gan E. Morgan ‘Brysiaf i yrru nodyn o gydymdeimlad cywir iawn i chwi ar eich bwrw i brofedigaeth fwyaf eich bywyd.’
P2/27/62 – llythyr gan Gareth reynolds yn cydymdeimlo ag ef ar golli ei briod annwyl
P2/27/38 – llythyr Mehefin 5 1965 gan A. Seymour Rees 12 Bryndulais Ave, Seven Sisters – yn cydymdeimlo ag ef ar golli Sian – ‘I ni blant Hawen Jane Brynhawen ydoedd – o ran anwyldeb y galwem hwynt oll – plant ein Gweinidog hoff’ [cydymdeimlo’n ddwys â DJ, wedi colli ei phriod Seymour ddwy flynedd i’r mis] ‘Efe yn unig yw fy nghwmni pennaf. Diolch Iddo, ac Efe a’ch cynnal chwi. Pwyswch yn drwm ar Ei fynwes gyfaill mwyn. Fe leinw’r gadair wâg yna.’
P2/26/97 – 5 Mehefin 65, llythyr gan Eiddwen a Dick (Llangwyryfon) yn cydymdeimlo ag ef ar golli Siân: ‘’Roedd hi’n amlwg i bawb ei bod hi yn gymar cymwys iti a phleser anghyffredin imi oedd cael fy nerbyn mor serchog ar aelwyd No49.’
P2/24/55 – 7/6/65, llythyr gan Olwen ac Eurfin Morgan yn cydymdeimlo ar ôl marwolaeth Siân:
‘Cofiwn am dani efo anwyldeb mawr. Ei chroeso cynnes, ei charedigrwydd mawr, ei gofal mawr a’i hoffter o’r “pethe”. Bu eich cartref yn noddfa i laweroedd ac erys atgofion hyfryd am lawer Seiat yn 49, High Dt.’
P2/30/37 – Llythyr 7/6/65 gan Ray a Jac Saer, Y Bala – Ray (Rachel?) yn mynegi cydymdeimlad a’i hiraeth am Sian – ‘Yn y gegin fach (cegin Rhydcymerau), a’r ardd y gwelaf hi gliriaf, yn gwrando ar fy helyntion caru, ac yn cynghori yngaredig ond yn gadarn. Mae sŵn ei llais yn fy nghlust y funud hon, ac er galaru ar ei hôl, rwy’n llawen wrth gofio’r diddanwch a gefais yn ei chwmni . . . Mae ambell ddau yn llawer mwy o bâr na’i gilydd; ac i mi, nid D. J., nid Sian, a adnabum, ond D. J. a Sian.’
P2/31/53 – llythry 16.6.65 gan B. B. Thomas yn cydymdeimlo - @Ni deos anegn i ni ddweud wrth ein gilydd yr hyn y gwyddom eisoes. Mae’r rhwymyn rhyngom yn ddigon tynn ers blynyddoedd a’r ddau ohonom yn cyd-ddioddef ac yn cyd-lawenhau. Y peth mawr tw bod ei ffydd yn dal – angor yr enaid – ys dywed Dan Davies – yn cyrraedd y tu mewn i’r llen a ninnau fel y llongwyr yn swmpo chain yr angor er mwyn gweld ei bod yn dal.’
P2/24/44 – llythyr gan Dyfnallt Morgan, 18 Mehefin 1965, yn cydymdeimlo â DJ yn ei brofedigaeth – yna dweud iddo gael pleser a’r anrhydedd o recordio YnCHO ar gyfer Cymdeithas y Deillion, ‘ rhyw 13 awr o ddarllen’
P2/29/69 llythyr 28 Mehefin gan Meuryn, yn cydymdeimlo ag ef ar golli Sian. ‘Y mae ichwi un cysur sicr, sef y cewch ato gwrdd. Dyna fy nghred bendant a sylfaenol i.’s
P2/26/55 Llythyr an Peate, 29vi 65 – yn cydymdeimlo â DJ ar golli ei wraig
P2/25/18 – llythyr gan Pádraig Ó Riain, Togher, Cork yn cydymdeimlo ag ef ar golli ei wraig; ‘Eich henddisgybl chwi, Dafydd Bowen, a’i ddywedodd wrthyf mewn llythyr.
Yr wyf yn cofio yn dda iawn y dydd y wneis gwrdd a chwi ar y ffordd i lawer i Ysgol Ramadeg Abergwaun i wrando ar Ddafydd, wrth iddo ddarlithio am yr ‘henysgol’. Mae yn dal yn fy nghof, hefyd, popeth a wnaethoch chwi adrodd am eich ymweliad ac Iwerddon pan oedd hi yn brwydro am ei bywyd.
A gaf i fel gwyddel, estyn ichwi, a ddaeth i’n annog ni pan oeddem mewn safle mor anobeithiol, fy nghydymdeimlad yn awr eich gofid chwi.
Yr eiddoch yn gywir,
Pádraig Ó Riain’
P2/31/71 – llythyr 3 Gorffennaf 1965 gan Dan Thomas o Swyddfa’r Bliad – tynnu sylw at gyfyngdra ariannol y Blaid, anegn benthyciad hyd ddiwedd y flwyddyn – gofyn am enwau a chyfeiriadau rhai tebyg o helpu
P2/31/72 – 15 Gorff gan Dan Thomas – ‘daeth siec i mi, bang!’- nid y bwriad oedd i D. J. ei hun roi benthyciad , ond dyna a wnaeth. hefyd wedi anfon rhodd o £25 i’r Blaid er cof am Siân – ‘tlws odiaeth’
P2/31/226 – llythyr 21st July 1965gan Trefor, Casnewydd , mynegi ei alar ef a’i deulu o golli Sain. ‘We all loved her greatly.. . . What a gentle, sensitive soul she was – and so frail.’ Wedi bod yn yr UdA a Montreal eto, cwrdd â John Hughes. Gwâdd DJ i dreulio pythefnos gyda nhw ym mis Medi. ‘Fe fydd dda gennym ni i gael eich cwmni ac ymarfer ein Cymraeg.’
P2/27/63 – llythyr 10/9/65 gan G. Reynolds, Pumsaint, yn diolch iddo am gytuno i ddod atynt i ddarlithio ar Nos Fercher 6 Hydref (Mr Luther Gwyn Davies yn mynd i ddod ag ef draw) – diolch iddo am anfon pamffled yn hysbysu am ddarllediad cyntaf Plaid Cymru – teitl y ddarlith fyddai ‘Bannau yn Hanes Cymru’
6 Hydref – traddodi darlith yng Nghapel Caeo – ‘Bannau yn Hanes Cymru’
P2/26/7 – 30/10/65 llythyr Dafydd H Parry (David Hughes Parry) , Neuadd Wen, Llanuwchllyn, yn diolch i DJ am lythyr ‘mae, fel chwi eich hun, yn llawn o garedigrwydd.’ [Trafod rhyw ddatblygiad/argymhelliad y bu DHP ynglŷn ag e] ‘Cofiaf yn dda eiriau fy nhad pan oedd yn gorfod eistedd ar eich achos ym Mhwllheli. Poenodd lawer ar y pryd ac yr oedd ei gydymdeimlad â’r tri ohonoch yn gywir iawn.’)
P2/30/57 - Llythyr 27/10/ 65 gan Jack Sheppard yn diolch am y gwahoddiad i gadeirio cyfarfod y Blaid yn Hwlffordd, St Mary’s Hall ar 20 Tachwedd – credu bod modd cyflwyno’r achos i’r diGYmraeg yn y Sir, gwerthfawrogai sgwrs gyda Gwynfor Evans cyn y cyfarfod
P2/26/22 – 2/11/1965, llythyr gan Tom Parry, Plas Penglais yn ymddiheuro am fethu dod i’r cinio. Ei frawd Gruffydd wedi bod mewn damwain ddrwg. ‘Yr oedd y rhaglen deledu yn ddifyr iawn, a’r ddwy stori am O. D. Jones yn odidog.’
P2/31/201 – Tachwedd 18 1965 – cais gan W. J. thomas, golygydd newydd y Goleuad iddo gyfrannu i rifyn Nadolig arbennig y papur
P2/30/88 Llythyr 12/12/65 gan Jack Sheppard, Grove House, Little Haven yn diolch i DJ am y gwahoddiad i ymuno â’r Blaid – ddim yn teimlo y gall wneud hynny ar hyn o bryd er ei gydymdeimlad â’r achos – cyfeirio at ffilm am DJ ar y teledu
P2/31/227 – llythyr, 28 December 1965 gan Trevor [Vaughan] – diolch am y gyfrol [copi o Gyfrol Deyrnged DJ] – rhaid bod derbyn teyrnged fel hyn yn anogaeth iddo – ‘You must be aware that there is an almost popular movement towards the desire to learn the Welsh language and certainly a strong motivation to acuire an ability to speak it in conversation. The urge came to me five years ago and Madge is completely absorbed in her effort to master the language.’ – y ddau yn bwriadu aros gyda theulu yn Sir Benfro ym mis Chwefror er mwyn ymarfer eu Cymraeg – ‘could we come over to see you during our visit?’ [teipiedig, yna mewn llawysgrifen: ‘p.s.I am please to send uou five guineas to Gronfa Gwyl Dewi’
P2/26/8 – 29/12/65 – llythyr gan Dafydd Hughes Parry, Llanuwchllyn – newydd golli ei wraig – ‘ A heddiw dyma air hyfryd oddiwrthych yn hysbysu mai’r un afiechyd ciaidd oedd ar ein gwragedd.’ [sôn eto am gydymdeimlad ei dad â thri Penyberth, a’i ofid wrth fod ar y fainc)
P2/24/30 Calanmai 1966 llythyr gan Eirwyn Morgan a fu’n sâl yn diolch i DJ ‘Gwerthfawrogais yn fawr eich llythyrau hynaws. Buont yn help i mi wella.’
1966
Storiau’ r Tir. Llandysul : Gwasg Gomer, 1966.
P2/28/25 – copi 2/1/66 o lythyr teipiedig DJ at Elwyn Roberts yn dweud iddo werthu Penrhiw ac am roi’r arian £2, 000 i Blaid Cymru. Talodd gostau’r cyfreithiwr ei hun.
‘Rhaid i ni, Gymry, ddysgu bwrw’r cyfan i’r fenter, fel y gwna’r cenhedloedd eraill, neu drengi yn ein cybydd-dod a’n cywilydd.’ Hefyd yn cynnwys siec am £62.10.0 fel cyfraniad i Gronfa Gŵyl Dewi 1966
P2/31/228 – llythyr 12 mis Chwefror 1966 gan Trefor [Vaugahn] – newid yn eu traefniadau, yn awr yn aros ar ffarm yng Ngroesgoch i wella eu Cymraeg. Edrych mlaen i gal cinio gyda DJ yn Abergwaun.
P2/28/27 – llythyr 27//66 gan Elwyn Roberts – am ddefnyddio darlun o siec £2000 DJ ar gyfer clawr Llyfr y Gronfas – am i meirion Roberts lunio’r clawr
' Ewch rhagoch yn eofn - dywedwch yn groyw.' Llais y Lli, 28 Chwef.
' D. J. Williams yn adrodd hanes prynu Penrhiw.' Y Ddraig Goch, Mawrth, 5.
' ‘Rhoi siars i flaenoriaid’, Y Goleuad, 16 Mawrth, 4-5; Seren Cymru, 10 Mehefin, 7
Meh., 7. [P2/32/202, llythyr 23 Chwefror 1966 gan W. J. Thomas yn diolch iddo am yr ysgrif – ‘Gosodasoch anrhydedd ar y Goleuad, ac ar ei dipyn golygydd dibrofiad . . .Gyda llaw, yr oeddwn yn y cyfarfod cyntaf ym Mhwllheli yn 1925 gyda Bob Owen. Y tro cyntaf imi weled D. J. Williams, Abergwaun.’
' An Englishman as a Welsh Nationalist.' Western Telegraph, 17 March, 12.
' Boycott of Plaid Cymru.' Western Telegraph, 31 March, 9.
' Y Tywysog Gwynfor : D. J. Williams yn cymharu Gwynfor Evans a'r Arglwydd Rhys.' Y Ddraig Goch, Awst, 4.
' Closure of the Whitland—Pembroke Dock railway; Fishguard's strange
experience.' County Echo, 25 Aug., 7.
' The Rail closures.' Western Telegraph, 25 Aug., 7. ' Donnelly v Sheppard.' County Echo, 13 Oct., 2.
' Bombing the Bomber.' Western Telegraph, 13 Oct., 10.
' Mr. Donnelly and the Ruritanian "Bomb".' County Echo, 27 Oct., 2 ;Western Telegraph, 27 Oct., 7.
' Useless defence.' Western Telegraph, 17 Nov., 10.
P2/27/29 Llythyr 31 Ionawr 1966 gan Alwyn D. Rees, Cyfarwyddwr Adran Efrydiau Allanol Cp Aberystwyth yn gofyn iddo roi darlith ar ei waith ei hun ar gais Cylch llenyddol Maldwyn nos Iau 17 mawrth yng Ngregynog
P2/27/30 – 7/2/66 llythyr gan Alwyn D. Rees, DJ wedi cytuno i siarad yng Ngregynog; gofyn iddo sgrifennu ysgrif yn coffau Gwrthryfel y Pasg i Barn. Saunders wedi gwrthod. Gair am frwydr Prifysgol Cymru – rhoi Jim Griffiths ar glawr barn a rhoi gair o gefnogaeth iddo ef a Goronwy. Safbwyntiau ar y pwnc hwn yn pwysleisio’r angen am ‘fwy o ladmeryddion praff a galluog yn y senedd’. Wedi gobeithio y byddai gan Alun Talfan ‘a wnaeth gymaint dros amddiffyn y brifsygol, heb sôn am ei gymwynasau eriall i Gymru a’r iaith, obaith i ennill yn Sir Ddinbych y tro hwn. ‘ ADR wedi’i siomi bod y Blaid yn sefyll yn ei erbyn ‘heb y gobaith lleiaf o ennill y sedd. Effaith hyn fydd gwneud y sedd yn gwbl ddiogel i’r Blaid Doroaodd’
P2/24/90 – Llythyr gan Gwenda Morris, 2/3/66 disgybl yn Ysgol Uwchradd Abergwaun yn gofyna gai hi a dwy o’i chyfoedion ddod i siarad gydag ef yn ei gartref. Esbonio mai annhebygol iawn yw hyn am mai gweithio trwy’r ymddiredolaethau a wna D. J. J. – hefyd ‘Mae ganddo ofn y Blaid yn ofnadwy. Daeth hynny yn amlwg iawn i mi lawer gwaith.’ [Cyfeiriad at ‘Bill Thomas (gymnast arall o hen ddyddiau Aber)’
P2/26/9 – 13/3/66 llythyr gan D. Hughes Parry yn ymateb i gais iddo bwyso ar D. J. J. (James Pantyfedwen) i roi arian i goffrau’r Blaid.
17 Mawrth, traddodi darlith ar ei waith ei hun i Gylch Llenyddol Maldwyn yng Ngregynog
P2/22/ 57-8: llythyr Rheinallt Llwyd (1966) gofyn am gyfraniad i Llais y Lli, gan gyfeirio at noson fythofiadwy gyda D. J. yn y coleg ‘pan wefreiddiwyd ugeiniau lawer ohonom (yn fyfyrwyr a staff) gan eich brwdfrydedd a’ch neges’.
P2/31/230 [camrifo]llythyr 6 Ebrill gan TV trefnu i gwrdd DJ ar y sgwâr yn Abergwaun ddydd Sadwrn neaf, 9 Ebrill. P2/31/229 – llythyr 5 Mai 1966 gan Trefor v. Diolch am ddydd hapus yn Abergwaun. TV yn ymladd etholiad ar hyn o bryd.
P2/31/231 – llythyr Cymraeg gan Trevor, 21 Mai 1966 – ‘Roeddwn i ar Teledu Cymru yn y rhaglen “Croeso i’r Ddysgwyr” [sic] Wedi llwyddo yn yr etholiad; y ddau yn ‘cofio eich caredigrwydd yn ystod y dydd yn Abergwaun’
P2/22/59: Neli Lloyd, Taicochion Pwllheli (cyfeirio at Gwynfor yn ennill, mynegi ei hedmygedd o D. J. ‘roeddwn yn gwrando eich achos yn Mhwllheli flynyddoedd lawer yn ôl, ac yn eich cefnogi’
P2/24/69 – Llythyr d.d. gan J. J. Morgan, Vergam Terrace, Abergwaun –
‘Annwyl Athro (1919-22, yn Sasneg y pryd hynny - no offence.)
Fel un o’ch hen ddisgyblion, yr wyf yn falch eich bod wedi cael byw i weld y Blaid yn cynrychioli Cymru yn y Senedd’
10 Mehefin 1966, Llywydd yng Nghinio Teyrnged i’r Henadur Gwynfor Evans yn yr Ivy Bush – copi o’r rhaglen a llythyr gan Enid Ralphs yn amlinellu trefniadau’r noson P2/27/21
P2/23/49 – 6.25 of 20th brysneges gan Elystan ‘Ceisiais ond nid oes docyn ar ol dydd hanesyddol Elystan’ [ychwanegwyd yn llaw D. J. ‘Dydd cyn urddo Gwynfor fel AS]
P2/27/91 Llyuthyr 17.7.66 gan Wil Rhys, Bryngwyn, Cefneithin – ymateb i lwyddiant Y blaid yng Nghaerfyrddin – ‘’Rwy’n siwr ‘roedd newydd fel hyn i chwi yn werth byw i’r pedwar-ugain i’w glywed, oedd e DJ? . . ‘Diolch o waelod fy ngalon (sic) am eich help mawr a’ch ysbrydoliaeth i ni i gyd ar hyd y blynyddoedd . . . Fe gawn ddathlu eich canmlwyddiant mewn Cymru rhydd (sic)’[ DJ wedi ychwanegu am yr awdur ‘Partner Bore Oes y Dr D. J. Davies, Gilwern’
P2/26/1 ; 2 Medi 1966 – llythyr gan Alun Page, y Mans, Carmel, Llanelli – diolch i DJ am ei lythyr caredig, ‘anodd cyfleu cymaint y mae’ch caredigrwydd yn ei olygu i mi . . . Pan oeddwn yn grwt yn gwynebu ar ddyrys her y Matric ‘slawer dydd yn y 30au, un o’r llyfrau gosod oedd Hen Wynebau. Ffolais ar y llyfr hwnnw! Dyna sut y deuthum i – bachgen o Forgannwg – i syrthio mewn cariad a Shir Gâr. Gallwn adrodd darnau cyflawn o’r llyfr heb ymdrafferthu i’w dysgu. Hen gyfeillion annwyl i mi yw Dafydd ‘r Efailfach, John Trôdrhiw, Jones y Goetre Fawr a’r lleill i gyd.
P2/26/110 – llythyr gan Caradog (Prichard) yn diolch am y croeso a gafodd wrth ymweld ag Abergwaun ‘Yr oedd yn llawen gweld graen mor dda arnoch – a’ch cael mor ifanc a hoyw eich ysbryd, ac mor ddiddan eich byd. Diolch yn fawr am y croeso.’ . ./ . ‘Bum yn holi tipyn am yr “Echo” hefyd yn Abergwaen [sic] ac rwyf mewn gohebiaeth â’r perchennog, Trevor davies, er mai go brin y daw dim ohoni. Ond cawn weld!’
P2/26/109 – Llythyr, 10 Hydref 1966 gan ‘Caradog’ (Prichard) 7 Crlton Hill, St John’s Wood – dweud y byddai, ‘pe bawn i’n hanner miliwnêr’ yn troi pob un o bapurau wythnosol Cymru’n Gymraeg. Cyfeiriadau at yr ECO (Abergwaun) – a fu sôn am ddenu CP yn olygydd neu’n berchennog [gw. P2/26/110 uchod] ‘Fel y dywedais, rwyf wedi gadael y mater yn benagored nes cael wmy o wybodaeth ac o fyfyrdod ar y moddion dirgel i wneud brics heb wellt! Ond cewch wybod os bydd unrhyw gam ymlaen.’
P2/30/59 – llythyr 14-9-66 gan Jack Sheppard – amlwg erbyn hyn yn aelod bwd agweithgar o’r Blaid – fe a ‘Dyfrig’ wedi bod yn lawnsio cangen yn Noc Penfro gyda rhyw 30 aelod. Llongyfarch DJ ar ei lythyrau i’r Telegraph
1967
A hint by the eighty-one to the eighteens." Western Telegraph, 26 Jan., 7.
' Negesau tri arweinydd : Dr. Tudur Jones, Saunders Lewis, Gwynfor Evans.'
Y Cymro, 16 Chwef., 3 ; Baner ac Amserau Cymru, 23 Chwef., I. '
"Cadarnhad gorfoleddus" meddai D.J. (adeg is-etholiad y Rhondda)', Y Ddraig Goch, Mai, 5.
' Plaid's early years.' Welsh Nation, May, 7.
' D.J. replies to Mr. Donnelly's "Chicken Run" interview', County Echo, 25 May, 3.
' Chicken Run economy ?' Western Telegraph, 25 May, 9.
' Byr-werthfawrogiad: J. T. Job .' (O'r Western Telegraph, 10.11.38), Seren Cymru, 16 Mehefin 8.
' Mr. Donnelly and Welsh Nationalism', County Echo, 13 July, 6.
' Mr. Donnelly and his Welsh bogies', Western Telegraph, 27 July, 9.
' Canmlwyddiant W. Llewelyn Williams: gair o deyrnged', Seren Cymru, 8 Rhagfyr, 5, 8.
P2/31/232 – llythyr 2 Ionawr 1967 gan TV Casnewydd, diolch am y llyfr – ‘Dyna beth rhyfedd ichi weld aelod o Blaid Cymru yn mynd Senedd. Rydych chi wedi gwneud mwy na neb yng Nghymru i gael y llwyddiant yma. Rhaid ichi falch iawn – Rwyn siwr . . .Rydym ni siarad Cymraeg gyda’n gilydd yn aml yn ein cartref a gwrando ar B.B.C. Cymru. Rydym ni’n cymryd bob cyfl i siarad â phobl eraill yng Nghymraeg.’
P2/24/31 – llythyr gan E. Morgan, 17 Ionawr 1967, gofyn am gyfraniadau i’r Seren, tair ysgrif ar ‘y tri phatriarch, Job, Jacob a Dan’. (Canmlwyddiant geni Dan)
P2/24/32 llythyr gan E. Morgan, 14/2[?]/67, blin o glywed na all DJ ufuddhau i’r cais diwethaf, ‘Synnais weld yn eich llythyr mai ysgrifennwr araf ydych.’
P2/26/2 – llythyr gan Alun Page, Carmel, diolch air caredig gan D. J. ‘Gyda llaw, rwy’n meddwl mai eich darlun chi o fywyd cymoedd diwydiannol Morgannwg yw’r gorau a feddwn eto’ (canmol Storiau’r Tir hefyd)
P2/31/109 – 12 Gorffennaf 1967 – llythyr gan Ionwy Thomas ar ran Cangen yr Urdd yn Ysgol uwchradd Abergwaun, yn diolch iddo ‘am ddod gyda ni ddydd Llun a gwneud ein taith drwy Sir Gaerfyrddin mor ddiddorol a llwyddiannus . . . Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich hunan yn ein pith fel y gwnaethom ninnau yn eich cwmni chwi’
14 Gorffennaf, llywyddu cinio dathlu buddugoliaeth Gwynfor yn yr Ivy Bush – llythyrau Enid Ralphs, Dryslwyn P2/27/22-3
P2/31/233, llythyr 17 Awst 1967 gan Trefor [V] o Goleg Harlech lle mae e a Madge ar gwrs wythnos yn dysgu Cymraeg – ‘Cymreag yw ymddiddan mwyaf yn ein cartref nawr.’
P2/30/14 – Copi o lythyr anfonodd DJ 9/9/67 at Wynne Samuel yn esbonio bod y pwyllgor lleol wedi cael ar ddeall gan Jack Sheppard ei fod yn sefyll i’r ochr i roi cyfle i WS fod yn ymgeisydd. ‘DJ yn dweud ei fod yn ‘darllen y proffwyd Jeremiah gyda sylwadau arno ers rhai wythnosau’n ddweddar’ . . . ‘A phan fydd e’n siarad â fi weithiau mor blaen â phetai e ar y ffôn drws nesaf . . . ‘rwy’n gorfod ufuddhau iddo gorau galla i.’ – Enwi’r rhai a fu’n trafod –Glyn Rees (trysorydd) Stanley Lewis, Dyfrig [Thomas?] Emrys Evans
P2/29/26 - llythyr 27 Tachwedd 1967 gan Wilbert Lloyd Roberts, Cwmni Theatr Cymru, Bangor - y cwmni wedi cael pleser o gyflwyno detholiad o weithiau DJ yn ystod y gwanwyn wleni. Ei wahodd i fod yn ‘aelod anrhydeddus o’n Cymdeithas o gyfeillion’.
P2/24/33, 27/9/69, gofyn iddo ysgrifennu teyrnged can mlwyddiant yn y Seren i Llywelyn Williams [Eirwyn Morgan?]
P2/31/236 - llythyr 19 Rhagfyr 1967 gan Trefor [V] llythyr Cymraeg – wedi bod ym Mhalas Buckingham [derbyn CBE] – Madge wedi ychwanegu yn ei llaw ei hun – Fe fyddwch chi’n diddoeb iawn fy mod i’n mynd gyda rhai ffrindiau i Noson Lawen nos Iau gan ‘Plaid Cymru’.
[dim dyddiad ond y 60au dau lythyr gan Morys Rees, Aberystwyth [Sir Benfro yn wreiddiol] P2/27/50 – diolch i DJ am ddod i annerch cinio Cymdeithas Taliesin
1968 ‘Cafwyd ffrwyth mawr mewn aelodau newydd i’r Blaid’; P2/27/51 – anfon arian at Gronfa’r Blaid – wedi casglu £4- 16-0 ac yn ychwanegu decswllt ei hun
1968
Codi'r Faner. Caerdydd : Swyddfa Plaid Cymru, 1968.
‘Cyflwyniad’ yn D. Islwyn Beynon, Hen Bentrefwyr (Gomer, Llandysul, 1968), 10-11
' How Welsh is Welsh once again.' Western Telegraph, 18, Jan., 14.
' D.J. on teaching of Welsh.' County Echo, 8 Feb., 6.
' Teyrnged (i olygydd Barn).' Barn, Ebrill, 156.
' W. Llewelyn Williams, Radical a Chymro: gair o deyrnged.' Y Ddraig Goch, Ebrill, 10.
'A significant week.' Western Telegraph, 18 April,7. '
Adolygiad:Wedi croesi'r pedwar ugain gan S. Gwilly Davies. Llandysul :Gwasg Gomer, 1968. Y Genhinen, Haf, 66-7.
‘Ateb D.J. Williams i lythyr Dr. Peate’, Baner ac Amserau Cymru, 26 Medi, 6.
‘Another view of the Presely school’, Western Telegraph, 17 Oct., 16.
‘ The passing away of poor Aunt Sally’, Western Telegraph, 31 Oct.,11.
‘Who will be King Canute in Pembrokeshire’, Western Telegraph, 28 Nov.,16
P2/27/32 – 13/1/68 llythyr gan Alwyn Rees, diolch iddo am ei eiriau caredig, gofyn iddo sgrifennu gair o werthfawrogiad ‘At y Golygydd’ ‘rhoi eich imprimatur ar y cylchgrawn megis’; P2/27/33 25/2/68 – 25/2/68, Alwyn Rees yn diolch iddo am anfon ‘geirda’ i’w gyhoeddi yn barn – fe’i cyhoeddir [Ebrill 68] ‘yn y gobaith y bydd sêl eich bendith chwi yn help i ehangu ei gylchrediad. mae’r gwerthiant yn dal o gwmpas rhyw 4 mil.’
P2/26/3 26/2/68 llythyr gan Alun Page, Carmel, yn diolch iddo am ei ran yn y rhaglen deledu ‘Profiad’’ddoe’; ‘O frenin, bydd byw byth . . . Rwyf wedi dwlu erioed at eich gwaith ysgrifenedig, ond mae’r gair llafar yn ei rhedeg hi’n glos hefyd.’
P/24/101 llythyr 7/3/1968 gan Gwenfron Moss, Llysfaen, Caerdydd, [cenhades, gw. Y Bywg] yn diolch iddo am y diddordeb a ddangosodd yn ei chyfraniad i raglen (deledu?) o’r enw PROFIAD = ‘ Ma e gair o werthfawrogiad fel hyn yn dod oddiwrth arbenigwr fel chwi yn codi calon dynes . . . Daliaf ar y cyfle i ddweud cymaint y bu i mi fwynhau eich cyfraniad chwi mewn rhaglen flaenorol. . . . Pleser digymysg oedd canfod fod crefydd yn ganolig (sic) i’ch bywyd – wedi bod felly ers blynyddoedd ac yn parhau felly.’
P2/26/66 – llythyr gan Alan-Butt Philip, 14/3/68 o St John’s College, Oxford – diolch i DJ am ymateb cynorthwyol i gais cynharach am wybodaeth – ysgrfennu hanes cenedlaetholdeb Cymreig.
P2/26/6 – Mawrth 30 1968, llythyr gan Ceinwen Parry, Penfro, Halkyn – anfon siec ato fel ysgrifennydd cylch llenyddol y sor. ‘Gobeithio mai fel Ceinwen Williams o ysgoldy Casblaidd y cofiwch fi, fel disgybl yn yr hen ysgol yn Abergwaun’
P2/25/11 – llythyr, 10/4/68 gan W. Rhys Nicholas o Borthcawl , diolch am adolygiad gyhoeddwyd yn Y Genhinen ‘Beth am ysgrif o hyn i ddiwedd y flwyddyn?’ – trafod Cymreictod Porthcawl, gwell na’r disgwyl – ‘derbyniad da wedi bod o rannau o hunangofiannau DJ mewn noson o ddarlleniadau o farddoniaeth a llenyddiaeth dro’n ôl
P2/24/35 – llythyr gan Eirwyn Morgan, Brigywawr, Lôn Garth Uchaf, Bangor 29/5/68 - sôn am farw ‘Parri Bach’ Mynachlogddu, sef R. Parry Roberts ‘Gwn i chwi weithio gyda’ch gilydd i achub y Preseli, a sefyll dros “y pethe”. A oes ysgrif deyrnged i’r “Seren”?’
P2/5/5 Parch Dewi Eirug Davies, Treforys 16/6/68- ei wâdd i ddarlithio dan nawdd y Brifysgol yn Nhreforys
P2/30/66 – llythyr Mehefin 1968 gan Glyn Cambrensis, Esgob newydd Llandaf yn diolch i DJ am ei lythyr a’i weddiau ar ei ran wrth iddo ymgymryd â’r swydd bwysig y’i galwyd iddi.
P2/31/237- llythyr 22 Mehefin 1968 gan Trefor [V] diolch am y llyfr – dweud y byddant yn aros yn Beulah Aberteifi mis Awst er mwyn ymarfer eu Cymraeg- hwyrach y byddai modd iddynt ymweld ag ef yn Abergwaun. Tv wedi bod ar y teulu yn amddiffyn adroddiad Gittins ar fater dwyieithrwydd yn yr ysgolion
P2/26/4 – 24 Gorff 1968, llythyr gan Alun Page, Carmel, yn ei longyfarch ‘ar ôl gweld y rhaglen deledu neithiwr.’ (Dwy raglen wedi bod, un ar Wil Ifan, unm ar D. J. )[Trafod wedi bod ar waith D. J. ac ar y elfen ddychanol yn ei waith; J. Gwilym Jones a Cassie Davies]
P2/24/63 – llythyr gan Gwyneth Morgan, Ysgol Glyndwr, Bryntirion, Penybont ar Ogwr ‘Mae Trefor wedi gofyn i mi hala gair o ddiolch i chi am y llythyr a’r buddsoddiad ac felly, dyma wneud gan gynnwys y llyfr cyfri.
P2/26/74 – llythyr gan Eluned [Phillips], Glanawmor, Cenarth, Castellnewydd Emlyn –
‘Eich llythyr oedd y tonic gore dderbyniais i erioed. ‘Rown i yn y falen fawr – wedi crio drwy’r nos ar ôl gwrando ar Cassie a John Gwilym yn fy rhwygo asgwrn wrth asgwrn. Pam yn enw dyn oedd y ddau mor rhagfranllyd? ‘ Eluned oedd wedi cyfaddasu’r stori (Bl L?) – EP yn cwyno na chafodd hi fel cyfaddaswraig ei chynnwys yn y drafodaeth na chyfle i ateb sylwadau JGJ a Cassie. s
P2/26/64: Llythyr, 31/7/68, gan ‘Gwenyth’ 51, Half Moon Lane, London; diolch am ei lythyr – wedi ei blesio â’i pherfformiad yn yr addasiad teledu o ‘Blwyddyn Lwyddiannus’. ‘Dyna’r comedi gynta i fi neud ar y teledu, ac hefyd roeddwn yn teimlo mor gartrefol yn yr iaith ac yn yr ardal.’ Daw o faestrg, ond Cymraeg ei mam, merch Cefntelych, Crugybar sydd ganddi. ‘Fe ges i nghodi gyda storiau am hen gymeriadau ardal Crugybar. Roedd Mam wrth i bodd pan ddarllenodd hi sgript ‘Blwyddyn Lwyddiannus’ ac yn llanw’r cefndir i mi am y Lovells, ac am yr hen gymeriadau fel Rachel.’
P2/26/10 – 4 medi 1968, llythyr DH-P, dweud iddo ddarllen Codi’r Faner
P2/28/32 – llythyr gan Elwyn Roberts yn gofyn i DJ gael gair gyda Saunders ynghylch erthygl sydd ar fin ymddangos yn Barn ac a allai greu rhwyg yn y Blaid ar fater defnyddio trais. Am i DJ ei berswadio i dynnu’r erthyg; yn ôl. P2/28/33 – 16/9/ llythyr gan ER yn ymateb i’r uchod [DJ wedi cael sicrwydd nad oedd SL wedi ymosod ar Gwynfor]
P2/25/40 – 17 Medi [1968?] llythyr gan Derec Llwyd Morgan, awydd creu rhaglen radio am ran llenorion Cymraeg yn nhwf y mudiad cenedlaethol – hyn ar ôl ei longyfarch ar Codi’r Faner . A fyddai DJ yn barod i siarad ar y testun?; P/24/41, 1 Hydref ‘Diolch i chi am eich llythyr hynaws, a’ch parodrwydd i gymryd rhan yn y sgwrs radio.’
P2/24/45 – llythyr gan Dyfnallt Morgan, 20 Medi 1968, yn diolch i DJ am ‘anfon neges mor ffeind ataf ar gorn y tipyn drama.’
P2/30/25 – llythyr gan Wynne Samuel 23/9/68 (clerc tref Dinbych-y-Pysgod ar y pryd) – yn amgau copi o’i lythyr i’r Faner yn ateb Peate.
P2/26/68 – llythyr ato gan Alan Butt-Philip, 23 ix 1968, diolch am y caredigrwydd mawr tuag ato pan ymwelodd â DJ yn Abergwaun fis Awst. Diolchiddo am ei ymdrechion (aflwyddiannus) i berswadio Saunders i’w weld.
26/9/68 Baner ac amserau Cymru; llythyr gan DJ,’Ateb D. J. Williams i Lythyr Dr Peate’; gw. hefyd P2/26/57, llythyr gan Peate, 15 Awst 68 yn cwyno am osodiadau a wnaed am W. J. Gruffydd yn Codi’r Faner . Ceir copi o lythyr DJ yn y Faner yn ei law ei hun,16/8/68, P2/26/58; fe’i hatebwyd gan ICP, P2/26/59, 31 Awst 68 yn dweud y bydd yn rhaid iddo gyhoeddi’r ffeithiau am WJG
P2/28/1 – 30/9/68 llythyr gan Hywel ap Robert, Park Place, Caerdydd yn diolch i DJ am ei lythyr ‘Cadwaf ef tra byddaf.’ [Ymgeisydd seneddol??] ‘Y peth sydd yn gyrru dyn fodd bynnag yw cofio’r rhai, nid oes angen eu henwi, a aberthodd, ac a ddioddefodd garchar ac amarch , dros Gymru.’
P2/26/99 – Copi o lythyr anfonodd DJ, 19/11/68, at ei ‘hen gyfaill Dic Phillips yn disgwyl am ateb i gais am gymorth i Gronfa Gwyl Dewi’.
‘Annwyl Dic,
Dim ond gair i’th goffáu di fod arnat hanner canpunt cyafn o ddyled i’r Blaid ers tro, ac os nad wyt ti’n ‘u talu nhw fel Cristion diolchgar am y fraint o fod yn Gymro, fe fydd dy ened di’n llosgi rhosto gritsh-gratsh yn uffern ryw ddiwrnod.
Fe fydda i wedi mynd sbel o dy fla’n di; ac wrth roi nghownt miwn shwd yr oedd pethau yng Nghymru yma pan own i yn ‘i gadael hi – wna unrhwy gelwydd bach neis-neis mo’r tro yno, wyddost – fydd cario claps amdanat ti ac ambell hen bartner annw’l arall yn y byd yma sy’n tagu ‘i ened yn ‘i cyfoeth – a Phlaid Gwynfor a’r Ysbryd Glan, yn nydd y gofwy (maen nhw’n siwr o fod yn dyall Cymra’g llyfr Genesis yno) yn llwgu o eisiau adnoddau i gyflawni’u gwaith yn deilwng a leicwin i ddim dy weld di fel hen gyfaill hoff, ie, a chyd-flaenor Methodus hefyd, yn gweiddi am ddyferyn o ddŵr i oeri’i dafod, a finnau’n ‘i swagro hi ma’s yn y Wynfa Wen, ond yn ffaelu cael caniatâd i groesi’r gamfa â jwged ddŵr yn ‘yn llaw i ddod atat ti.
Wel, dyma fi wedi dy warno di ddigon ymla’n llaw yma; wedyn rhyngot ti a dy fusnes.
Cofion cynhesa atat, gan obeithio nad â hi’n gynhesach byth ryw ddydd a ddaw arnon ni’n dau, - maddau fy rhyfyg.
D.J.
P2/26/100 llythyr gan Dic Phillips yn ymateb i’r uchod. Esbonio ei gyndynrwydd i gyfrannu oherwydd ei anghytundeb â pholisi’r Blaid ar amaethyddiaeth a choedwigaeth.
P2/31/239 – Llythyr 19 Rhagfyr 1968 gan Trefor [V] – amgau sgarff yn anrheg iddo – wedi ei weld ‘ar y teledu mewn party Kate Roberst – mwynhau eih hunian [sic] yn yfed rhywbeth oddi wrth glass!’
31/12/68 P2/24/72 gan Rita Morgan, 15 Heol Gron Gwaun-Cae-Gurwen, dymuno Blwyddyn Newydd Ddedwydd iddo ‘Fedrwn i ddim llai na gofidio amdanoch ar y ffordd ‘n ôl nos Wener. On’d oedd hi’n noson erwin!
1969
The Welsh reservation’, Western Telegraph, 16 Jan., 9.
‘Language policy of Plaid’, Western Telegraph, 23 Jan., 11.
‘A Welsh phenomenon’, Western Telegraph, 6 Feb., 14.
‘Coleg Cymraeg.' Baner ac Amserau Cymru, 27 Chwef., 5.
' Plaid Cymru and "The Seven Deadly Sins".' Western Telegraph, 24 July, 14.
' O.D. a Rhai o'i Gyfoedion.' Y Traethodydd, Ionawr, 2-12.
' Ioan Roberts yn galw gyda D. J. Williams.' Y Cymro, 23 Gorff., 20.
' The Sin of Nationalism.' Western Telegraph, 31 July, 11.
' Cronfa'r Faner. Byddai'n warth bythol arnom ...' Baner ac Amserau Cymru, 4 Medi, 1.
‘Gair o goffa am Gwenallt a’i gefndir’, Barn, Ionawr 1969, 59-60
P2/31/207 – lllythyr Ionawr 19, 1969 gan Gwilym Tudur, Siop y Pethe ei hysbysu bod y copiau o Celtic Nationalism a archebasai wedi cyrraedd- [prynu 12 i gyd] ‘ Caraswn roi ychwaneg na’r 5% ond gwell imi ymorol am fy mywoliaeth! Os bydd pawb fel y chwi, serch hynny, mi ddylwn ymgyfoethogi’n fuan iawn.’
P2/31/98 – 1 Chwefror 1969, llythyr gan Gwyn Thomas yn gofyn iddo gyfrannu ysgrif fer ar SL i Presenting Saunders Lewis ; P2/31/99 – llythyr 23 Mawrth gan GT yn diolch iddo am gytuno i ysgrifennu ar SL; P2/31/100 – 31 Mai llythyr gan GT yn diolch am yr erthygl @Chwi yw’r cyntaf o’r cyfranwyr i anfon atom ei gyfraniad’
P2/24/39 – llythyr gan Derec o Bryn Drain, Brynsiencyn, 3 Mawrth (1969) yn diolch am yr ysgrif ‘O. D. a rhai o’i gyfoedion’ yn y Traethodydd, ac yn ei annog i sgrifennu mwy – ‘Rwy’n siwr fod gyda chi’r cof mwyaf llwythog a lliwgar yng Nghymru, a phe gallai fy nghenhedlaeth i elwa ar y cof hwnnw, fe’n cyfoehtogid ni’n arw.’ Sôn am gyfarfod mabwysiadu John L. Williams yn ymgeisydd y Blaid yn Llangefni ddydd Sadwrn nesa , Gwynfor a Wynne Samuel i siarad. Cynnig gwely iddo os byth byth yn y gogledd ‘os byddwch chi’n dod lan i ddarlithio neu rywbeth.’
7 Ebrill: llythyr Cymraeg ato gan y Chwaer M.Awstin o ‘St, Teresa’s Convent, Marine Drive, Abergwaun’ yn diolch am rodd (?) o ddwybunt [P2/1/12]
P2/25/16 llythyr gan Jane Oliver, BBC Llundain, 14 May 1969 trafod gwneud rhaglen ar yr Ysgol Fomio (Saunders wedi gwrthod cymryd rhan)
P2/25/17 – Jane Oliver BBC 16 June, 1969, diolch i DJ am roi cyfweliad iddynt – ‘It was also very kind of you to arrange for copies of the Welsh Nation to be sent to me.’
P2/31/208 – llythyr 11 Gorffennaf 69 gan Cledwyn Fychan, Y Bont Goch, Talybont, yn diolch am siec – wedi archebu pethau gan CF – llestr Cilmeri 1282 ac argraffiad o farwnad – hefyd rhodd o £5 i Tafod y Ddraig
P2/31/107 – llythyr 14-7-69 gan Gwyneth Thomas (‘merch Tom Hefin Nantyfeinen’) ysg cangen Pencader a’r Cylch o Ferched y wawr – ei wahodd i siarad mewn ‘Cwrss Cynnull’ yn Ysgol Pencader Nos Lun, 29 medi, 1969.
P2/26/25 – 10 Awst 69 – llythyr gan Tom Parry, Gwyndy, 2 Victoria Avenue, Bangor; trafod yr Arwisgo – ‘Yr wyf i’n un o’ch edmygwyr niferus, fel y gwyddoch, ac yn eich edmygu’n fwy nag erioed am eich eangfrydedd tuag at y sawl a gymerodd ran yn yr Arwisgo . . . nid wyf yn ei gweld yn werth cyhoeddi melltith ar y sawl a aeth.’ [Canmol y Tysyog am weithio’n galed i ddysgu Cymraeg, a gwerth hynny.]
P2/27/35 – 16/10/69 – Alwyn Rees yn gofyn iddo sygrifennu hanes achos C yr Iaith yn Aberteifi (wedi clywed iddo fynychu) ar gyfer Barn’; P2/27/36 , 20/10/ Alwyn yn diolch iddo am addo ysgrif, yn ei gyfarwyddo ar yr hyn y mae’n rhydd i’w ddweud am yr ynadon – bydd yn rhydd i drafod a beirniadu gweithredoedd ynadon, nid eu hamcanion a’u cymhellion – ‘Caiff Wynne Samuel eich cadw drwch blewyn y tu mewn i derfynau’r gyfraith!’; P2/27/37, 28/11/69 AR yn diolch iddo am ei ysgrif werthfawr [cyhoeddwyd yn Barn Ionawr 1970]
P2/31/108 - llythyr gan Gwyneth Thomas 9-xii-69 yn diolch iddo am ddod i siarad â changen MyW Pencader a’r Cylch ‘ac am y boddhad a gawsom yn eich cwmni’.
P2/31/240 – 22-12-1969 llythyr olaf ‘Trefor’ (Trevor Vaughan, Casnewydd ato) – Tv wedi gorffen ar y Cyngor ac ar y Fainc – trafod ei wreiddiau teuluol.’s
‘The Welsh reservation’, Western Telegraph, 16 Jan., 9.
‘Language policy of Plaid’, Western Telegraph, 23 Jan., 11.
‘A Welsh phenomenon’, Western Telegraph, 6 Feb., 14.
‘Coleg Cymraeg.' Baner ac Amserau Cymru, 27 Chwef., 5.
' Plaid Cymru and "The Seven Deadly Sins".' Western Telegraph, 24 July, 14.
' O.D. a Rhai o'i Gyfoedion.' Y Traethodydd, Ionawr, 2-12.
' Ioan Roberts yn galw gyda D. J. Williams.' Y Cymro, 23 Gorff., 20.
' The Sin of Nationalism.' Western Telegraph, 31 July, 11.
' Cronfa'r Faner. Byddai'n warth bythol arnom ...' Baner ac Amserau Cymru, 4 Medi, 1.
‘Gair o goffa am Gwenallt a’i gefndir’, Barn, Ionawr 1969, 59-60
1970
' Gweithgareddau Llys Aberteifi.' Barn, Ionawr, 71-2.
1971
‘Ich dien’, Llias y Lli, 12 Ionawr 1971, 8