Gohebiaethau D. J. Williams
Mae llythyrau D. J. Williams at ei gyfeillion (ac ambell wrthwynebydd) a llythyrau ei gydnabod eto yn ffynhonnell gyfoethog i unrhyw un sydd am ddeall rhwydweithiau personol a chymdeithasol haenau o'r gymdeithas Gymreig yn ystod yr 20 ganrif. I chi gael syniad o swmp y gohebiaethau, ceir dros 3,500 llythyr ato yn y casgliad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd detholiad o'i ohebiaethau gyda Saunders Lewis a Kate Roberts gan Emyr Hywel yn Annwyl D. J. (Y Lolfa, 2007) Byddaf yn ychwanegu deunydd am rai o'r gohebiaethau mwyaf arwyddocaol, gan ddechrau gyda'r llythyru a fu rhyngddo ag athrawes o Abertawe, Flora Forster, rhwng 1919 a 1925 (yn bennaf).