Yn ei ragair i bedwerydd argraffiad y gyfrol hon o bortreadau yn 1964, mynnodd yr awdur mai ei frawd-yng-nghyfraith, y bardd Wil Ifan, a aethai ati 'gyda siswrn a photel fach o gum' i roi trefn ar ddefnyddiau oedd wedi ymddangos mewn papur newydd a chylchgrawn. Y Western Mail a'r Llenor oedd y prif lwyfannau, a buasai gweld tair ysgrif ar dudalennau'r cylchgrawn llenyddol a olygid gan W. J. Gruffydd wedi rhoi hyder i'r awdur a hygrededd i'w waith. Golygydd y papur Saesneg ei iaith, serch hynny, piau'r clod am gomisiynu cyfres o bortreadau. 9 Awst 1932, anfonodd J. A. Sandbrook, golygydd y Western Mail, lythyr at D. J. (LLGC P2/30/42) wedi’i gyfeirio ato DJ ‘Welsh National Summer School, Albion House, Brynmawr’ yn ei wahodd i ymuno ag ‘our circle of occasional contributors in Welsh. I do not suppose there is any Welsh writer who can deal with the native character as you do and if you could contribute an early article of about 500 words in length on some of the characters of your native village I would be very much obliged.' (Byddai’n derbyn £2.2.0 y golofn) Ar y llythyr me D. J. yn ei law ei hun yn nodi ‘Canlyniad y llythyr hwn fu “Sgidiau Danni’r Crydd”
Nid yw'n eglur pam nad adeiladodd ar unwaith ar addewid digamsyniol stori fer 'Y Beinder' (1920) a dal ati i ddatblygu'r cyfrwng hwnnw. Ni chyrhaeddodd yr 'hen wyneb' cyntaf i'w bortreadu gyfrol 1934 'chwaith, er bod cyfeiriad ato 'yr hen John Dafis Brynau Isa' yn yr ysgrif 'John Trôdrhiw'. Hwn oedd y gŵr a bortreadwyd yn yr ysgrif ‘Athro’r Clas wrth Gefen ‘Drws’ mewn cylchgrawn newydd at wasanaeth yr ysgolion Sul, Y Cyfarwyddwr, yn 1924, a cheir awgrym yn Yn Chwech ar Hugain Oed mai trwy amryfusedd y cadwyd y darn o afael siswrn a gum Wil Ifan. Yn yr ysgrif honno hefyd,mae’n debyg, y cyflwynodd Rydcymerau, ‘pentre bach yn llechu’n dawel dan gesail rhai o fryniau uchaf top Sir Gaerfyrddin’ i’w gynulleidfa am y tro cyntaf. ‘Clas’, dosbarth, yn yr Ysgol Sul sydd dan sylw, ac ysgrif deyrnged i athro’r dosbarth a fuasai farw rhyw ddwy flynedd ynghynt sydd yma. Does dim byd yn gynnil, nac yn newydd yn y safbwynt a gymer D. J., a’r darlun du a gwyn sy’n moli hyd at eilunaddoli’r ‘gwerinwr syml diymhongar’ nad ‘oedd gronyn o uchelgais nag o falchter yn ei holl gyfansoddiad’ tra’n cystwyo’r gyfundrefn addysg Seisnigedig sydd ‘fel pe wedi’i chynllunio i lindagu iaith diwylliant hynafol ein cenedl.’ Yr Ysgol Sul yw’r sefydliad a fu’n wrthglawdd i’r Seisnigo, ac mewn cywair nad yw’n rhydd o ormodiaith, honnir ‘pe ceid un John Davies, Bryne Isa, ymhob Ysgol Sul drwy Gymru, byddai Cymru wedi ei hachub er gwaethaf ei hysgolion.’ Canmolir ei ddawn wrth holi’r dosbarth a phwysleisir ei naturioldeb a’i fawredd anymwybodol, arwyddocaol. mor anymwybodol ‘â’r gornchwiglen ar y gors a groesai ef bob Sul ar ei ffordd i’r Ysgol.’ Ni allai Defi John Abernant feddwl amdano ar wahân i’w gynefin naturiol; perthynai i’r ddau ‘yr un mawredd, yr un symlrwydd, yr un swyn.’ Angen mwy o broffwydi sydd ar Gymru, a dyheir am i ‘Ysbryd yr Arglwydd ac Ysbryd y Genedl’ godi llawer tebyg iddo ‘yn broffwydi nerthol – i lefaru eto rhwng hen fryniau tawel ac unig Cymru.’ Rhwydd iawn i ni heddiw y cael hwyl am ben naifrwydd neu sentimentaliaeth neu rethreg ansad yr awdur, yn ogystal a’r sôn niwlog am broffwydi, ond gellir dirnad hefyd ddyhead dwys D. J. am weledigaeth a rhaglen wleidyddol fyddai’n gyson â’r hyn a brisiai yn y gymdeithas a’i magodd.
'Dafydd 'R Efailfach' gafodd y lle blaenaf yn y gyfrol, a llun ohono a welwyd ar glawr argraffiad 1964. O fewn y paragraff agoriadol rhoddir i'r 'Hrn Ardal' brif lythrennau i nodi ei statws, a cheir cyfeiriad at y dramodydd o'r Iwerddon, J. M, Synge, i'n hatgoffa ni mai gŵr graddedig yn y Saesneg o Aberystwyth a Rhydychen sy'n llunio portread llenyddol o ŵr a gofiai 30 i 40 mlynedd ynghynt. Athro Saesneg Abergwaun yn wir sy'n crynhoi sefyllfa ei gymeriad trwy ddweud mai 'Puck wedi gorfod gwisgo brethyn cartre' Bottom ydoedd Dafydd'.
Dyma rai o'r ansoddeiriau a ddefnyddir wrth gyfeirio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd at Dafydd. Rwy'n addo peidio â gwneud hyn gyda phob un o'r straeon, gan y byddai hynny'n ddiflas ac yn ailadroddus i chi ac i fi:
Oes , mae gormod ohonynt, a dim yn gynnil yn eu defnydd. Haeriad sylfaenol yr ysgrif yw bod y gwerinwr anllythrennog yn wir artist yn ei ddull o adrodd stori, ac yn un a fuasai'n llenor y stori fer pe cawsai gyfle. (Roedd yn artist yn wir 'hyd yn oed yn y modd y gosodai jouen o ddybaco yn ei geg.' Roedd yn feistr yr union air, a'i ddull o acennu yn tynnu popeth allan o'r gair hwnnw. Ac mae D. J. yn cael hwyl ar ail-greu rhai o straeon llafar Dafydd.
Gwedd arall ar ei apêl i'w ail-grewr yw nad yw'n gymeriad parchus. Ar ymylon cymdeithas barchus y mae e, ofn cael ei 'droi' gan wres crefyddol a dod i berthyn i'r 'seiet'. Yn y diwedd, dyna ei hanes, ond ar ôl blynyddoedd fel 'aderyn brith' yn cario coed ac yn mwynhau cymdeithas tŷ tafarn.