Tair Stori: 'Blwyddyn Lwyddiannus', 'Pwll yr Onnen', 'Colbo Jones yn ymuno â'r fyddin'
‘Ni bu neb a llai o naws beirniadol ganddo, hanfod techneg y crefftwr proffesiynol. Gan hynny damweiniau gwyrthiol yw ei straeon byrion gorau.’ Saunders Lewis a ddywedodd hyn yn Barn yn fuan ar ôl marwolaeth D. J. Williams, ac mae’n sylw sydd fel pe bai’n mynd yn groes i dystiolaeth y sgwrs radio a fu rhyngddo a D.J. ugain mlynedd a mwy ynghynt. ( Crefft y Stori Fer, gol. Saunders Lewis (Llandysul, 1949), tt. 22-35). ‘Eich ymroddiad chi i grefft llenyddiaeth sy’n arbennig werthfawr yn fy marn i’, meddai Saunders Lewis wrth glywed yr awdur yn dweud iddo ddarllen ‘cannoedd o storïau yn ddadansoddol feirniadol’ yn ogystal â llyfrau Saesneg ar dechneg y stori fer, a chyfrol H. E. Bates, The Modern Short Story yn eu plith. Ond ‘amod pwysicaf llwyddiant yw hunan-feirniadaeth ddi-dostur’ yn ôl D. J. Er gwaethaf hyn i gyd gwadu bod ganddo ‘naws feirniadol’ a wnaeth S. L. yn yr ysgrif goffa.
Mae’n amlwg bod awdur ‘Blwyddyn Lwyddiannus’, a gyhoeddwyd yn Storiau’r Tir Glas yn 1936 ar ôl ennill dan feirniadaeth Kate Roberts y flwyddyn flaenorol yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn gyfarwydd â chonfensiynau a disgwyliadau’r stori fer lenyddol ddiweddar. Mae’n cyfateb mewn nifer o ffyrdd i’r canllawiau y byddai Kate Roberts yn eu crynhoi’n ffurfiol mewn ysgrif yn 1947 (‘Sut i sgrifennu stori fer’ , Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts, gol. David Jenkins (Abertawe, 1978), tt. 244-7). Ceir yn y stori yr agoriad uniongyrchol, y diweddglo naturiol, a’r delio’n fanwl ag un digwyddiad a sefyllfa a oedd wrth fodd calon Kate Roberts ac yn wir fe roddodd glod neilltuol i’r stori arbennig hon: ‘Stori gynnil iawn, a rhaid ei darllen lawer gwaith i weld y cyfan sydd ymhlyg ynddi’. (‘Cymdeithas Bro a’r Storïwr’ yn D. J. Williams. Abergwaun: Cyfrol Deyrnged, gol. J. Gwyn Griffiths (Llandysul, 1965), tt. 136-7) Mynnodd Pennar Davies yntau fod ‘rhyw berffeithrwydd crefft yn coroni’r cwbl’ yn y stori hon. (‘Hen Wynebau a Storïau’r Tir Glas’ yn D. J. Williams. Abergwaun: Cyfrol Deyrnged, 70). Hanes diwrnod arbennig ym mywyd y prif gymeriad, Rachel Pant y Bril a geir. Gwraig weddw, gwraig sy’n gweithio’n galed fel cynifer o wragedd Kate Roberts, yw Rachel, ac un y mae i’w llwyddiant neu ei haflwyddiant blynyddol hi wrth werthu’r llo sy’n sylfaen i’w chyllideb arwyddocâd ehangach, defodol bron, yn y fro. (Cafwyd elfen gyfatebol yn ddiweddarach gyda’r sôn am ladd gwair yn agoriad Cysgod y Cryman, a phawb yn disgwyl wrth Edward Vaughan) Y mae byw a bywoliaeth Rachel ynghlwm wrth y llo, wrth enedigaeth ddiogel a marchnad ffafriol, a chyfleir caledi bregus ei byw gyda’r cyntaf o’r cyfeiriadau corfforol ati, at ei ‘llaw fechan, galed’ gan awgrymu ei bod hi’n gorfod gweithio’n galed i ennill bywoliaeth. O fewn dwy frawddeg crybwyllir ‘[t]es anwadal Ebrill yn gwresogi ei grudd fechan, writgoch’; mae hynny’n cyflwyno’r awgrym lleiaf o ddimensiwn cnawdol, rhywiol yn ei phrofiad. Er gwaetha’r byw caled, cynnil, (daw hyn wrth iddi ‘wau ei hosan yn yr ardd’, ‘yn union wedi cymeryd ei diferyn cawl i ginio’) erys yn ei chorff sbarc o gnawdolrwydd cynnes nas diffoddir gan amgylchiadau anodd. Ychydig yn wahanol yw’r sbarc sy’n aros yng nghymeriadau benywaidd Kate Roberts yn storïau’r un cyfnod – rhyw falchder yn eu hymddangosiad, chwaeth at ddefnydd da fel gwragedd ‘Y Cwilt’ a ‘Y Taliad Olaf’, rhyw annibyniaeth na sethrir yn llwyr gan drafferthion bydol. Ond mae Rachel o natur fwy gwresog na Ffebi a Ffanni a Beti ac Annie. Nid oes amau bwriad yr awdur wrth gyhoeddi bod ‘y gwanwyn a’i gyfaredd yn y gwynt’, yn wir fe’i cyhoeddir yn rhy uchel, yn enwedig wrth beri i Rachel uniaethu’n rhy hawdd o ddisgwyliedig gyda thymer y tymor – ‘A oedd gobaith newydd fel hyn iddi hithau?’ Adleisio un o fotiffau Kate Roberts a wneir wedyn wrth beri i Rachel sylwi ar ‘y deffro sydyn, fel pe nas gwelsai erioed o’r blaen’. Wrth fentro cyfleu rhywioldeb benywaidd y mae D. J.yn agor ei rych ei hun, ac mae awgrym bendant na fu Rachel heb brofiadau rhywiol yn ystod pymtheng mlynedd o weddwdod. Os gwir hynny, ni fu’n rhydd o gymhlethdod euogrwydd ychwaith, ac mae trydydd paragraff hir adran gyntaf y stori, cyn bod yr un cymeriad arall yn dod i’r llwyfan (ar wahân i Cora’r ast), yn ei dangos yn ymaflyd â’i chydwybod; yn y stori hon mae’r awdur yn ddigon o grefftwr i wneud fel y gwnâi meistri’r ffurf bob amser, sef trwy ddelweddau diriaethol - ei dillad a’i hesgidiau. Heb gydnabod iddi’i hun nac i’r darllenydd y rheswm am hynny, mae’n gwisgo’n dwt, a’i ‘dwy esgid fach … yn disgleirio am ei thraed’. Ond wrth gofio pregeth am Dafydd frenin ( a oedd yn euog o odinebu gyda Bathseba) mae’n gwrido, ac yn ystyried newid ‘i wisgo’i chlocs a’i ffedog ganfas’, er mwyn i’r pwl rhamantus gael ei ddisgyblu gan waith diramant, ‘glanhau o dan y mochyn’. Cyn iddi wneud dyma lais Teimoth, y prynwr lloi,yn torri ar draws ei meddyliau. Er y gellid barnu’r frawddeg sy’n nodi ymateb Rachel i’r ymwelydd, ‘Aeth Rachel yn dalp o rinwedd oer trwyddi’, fel enghraifft o ymyrraeth awdurol rhy amlwg, mae’n debyg bod ei hangen i sefydlu posibilrwydd o leiaf o berthynas rywiol rhwng y ddau sydd ar y llwyfan. (Nid yw’n amhosibl bod iddynt orffennol y mae Rachel yn amwys ac yn anniddig yn ei gylch.) Ymryson rhwng Rachel a Teimoth am bris y llo bach newydd yw gweddill y stori, ymryson ffraeth, chwareus, a’i is-destun yn amlwg. Nid bargeinio am bris llo yn unig y maent. Os yw’n chwareus, nid yw’n gwbl gyffyrddus; mae safle’r fenyw yn agored i drais, er mai prin gyffwrdd â’r gwirionedd hwnnw a wneir, trwy nodi bod y dyn yn gwybod ‘fod unig fynedfa’r ardd yn ei ddwylo ef, pe digwyddai gwarchae’, a thrwy iddi fygwth yr ast arno’n ddiweddarach.
Cynhyrfus yw natur Rachel, jocôs yw tymer Teimoth. Mae dicter yn ‘codi’n wrid poeth i’w hwyneb’ hi, ac mae e’n medru ei phryfocio trwy edliw iddi ei hen adnabyddiaeth ef o Cora’r ast a’r berthynas fusnes lwyddiannus fu rhyngddynt o’r blaen. Mae Rachel yn taflu tyweirch ato gan ei siarsio i beidio â galw eto ‘heb i fi hala dy hôl di, dyna i gyd, yr hen glemog salw ‘ny’. Trueni i’r awdur ychwanegu’r geiriau ‘ac eiddigedd sanctaidd wedi ei meddiannu’n llwyr’, oherwydd dychan awdurol llawdrwm a dianghenraid ydyw, gwendid prin yn y stori hon.
Ceir egwyl yn yr ymryson wedyn, ac anwadalwch emosiynol Rachel yn dod i’r golwg wrth iddi ddiolch ar weddi am nerth i wrthsefyll Satan, chwerthin yn galonnog am ben yr olygfa y mae newydd fod yn rhan ohoni, a chydymdeimlo’n dawel fach â Teimoth. Pan yw’n mynd i’r beudy ar ôl clywed sŵn a chanfod Teimoth yno’n swmpo’r llo, ailgydir yn y bargeinio gyda naturioldeb diffwdan sy’n awgrymu hen arfer a hen ddealltwriaeth. Yr is-destun carwriaethol yn unig a all esbonio ymddygiad Rachel unwaith eto’n treisio symudiadau arferol y gêm trwy ddal ati’n anarferol o benstiff am bris o dair punt ond coron, ond yna’n troi eilwaith ar Teimoth ar ôl iddo geisio’i thywys wrth ei braich i’r tŷ gyda’r geiriau: ‘Nawr Teimoth…dim o dy hen drics di â fi. Tair ond coron, wir! Ond taw tair a choron wedes i o’r dachre?’ Ac fe ddywedir wrtho’n ddigon plaen mai ei waith yn ei chymryd hi’n ganiataol (‘fel ‘swn i wedi gwisgo’n sgidie dydd Sul a’n siol fach er dy fwyn di’r, gŵr bynhyddig’ny!’) sydd wedi troi’r drol. Er iddo gael cynnig olaf o deirpunt aeth yr hiwmor o hwyliau Teimoth, a’i dro ef yn awr yw gwylltio a chilio o’r ymryson. Prawf mawr olaf y storïwr yw’r diweddglo - sut i ddod â’r darn byw hwn o ymryson dyn a menyw o fewn terfynau hen ddefodaeth i ben heb ei ddifetha. Er bod modd pigo ambell fai mae awdur ‘Blwyddyn Lwyddiannus’ yn cael hwyl arni. Llunnir darlun gweladwy cryf o Teimoth yn cael ei ddal gan gawod o law ac yn gorfod cysgodi dan lwyn celyn nid nepell o’r tŷ, ‘a’i deimladau mor gymysg â’r elfennau’. Gwir bod y fformiwla, newid tywydd = newid teimlad, yn un y mae’n hawdd ei orddefnyddio, ond mae’r tywydd yn gredadwy o dymhorol gan mai cawodydd Ebrill yw’r rhain. (Nid yw defnydd Kate Roberts o’r fformiwla bob amser yn fwy cynnil na hyn.) Ac mae cyfeirio at y golau a ddaw o fwthyn Pant y Bril fel ‘braich o oleuni cynnes’ yn cydio wrth ddelweddaeth gnawdol y stori ac yn ei chryfhau. Mae’r digwydd yn gorffen gyda Rachel yn agor y drws ac yn ceisio gweld Teimoth trwy’r tywyllwch gwlyb, a’r frwydr fewnol rhwng cybydd-dod Teimoth a’i ddyhead yn parhau tan y diwedd. Hwyrach y buasai’n well i’r stori orffen gyda’r digwydd, ond ychwanegir cynffon i ddweud wrthym bod cofio am y flwyddyn honno ‘fel y flwyddyn fwyaf llwyddiannus yn hanes yr ardal.’ Mae hynny’n golygu sefydlu cysylltiad â’r agoriad, a chollir rhywfaint o gynildeb wrth wneud hynny, ond heb ddifetha’r ‘gymhariaeth amwys rhwng taro bargen am y llo a tharo bargen nwydus . . . trwy ei diffinio’, fel y dywedodd Derec Llwyd Morgan. (‘Y Stori Fer’ yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif, gol. Geraint Bowen (Llandysul, 1976), t.180).
2. ‘Pwll yr Onnen’ ( O Storïau’r Tir Coch 1941, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1938)
Yn y stori hon mae’r traethydd yn adrodd stori a glywodd gan rywun arall, sef Tomos Ifan. Mae’n dweud wrthym sut a ble y clywodd y stori, felly mae gennym stori o fewn stori. Mae creu awyrgylch yn bwysig iawn yn y stori hon. Rydym yn sylweddoli bod yr awdur yn gwneud ymdrech ymwybodol i wneud hyn. Mae’r paragraff cyntaf yn gosod y cywair ar gyfer y stori cyfan. Mae’n dweud ei fod wedi clywed y stori am y tro cyntaf ar ‘noson laith o Hydref’. Mae geirfa’r paragraff cyntaf yn cyfleu awyrgylch diflas, tywyll, negyddol a bygythiol. Sylwn ar y geiriau a’r ymadroddion canlynol: ‘gwlybaniaeth cleiog’, ‘tywyllwch yr hwyr’, ‘yn drwm o’r pridd, a phoen yn fy nghefn’, glaw gwlyb yr Hydref’, ‘hewlydd culion y wlad’.
Cyn i Tomos ddechrau ar ei stori cawn bortread ohono gan y traethydd. (tt56 ‘Yr oedd Tomos yn un . . . hyd at t.59, ‘wraidd yn y tir’) Trwy’r portread cawn ddarlun o’r gymdeithas hefyd, a phwysigrwydd traddodiad, adrodd stori a chofio o fewn y gymdeithas honno. Daw’n amlwg fod hon yn hen stori. Aeth dros ddeugain mlynedd heibio ers i’r traethydd ei chlywed gan Tomos, a chlywsai hwnnw ‘r stori gan ei dad-cu.
Wedyn dechreuir ar y stori am y teulu od, rhyfedd, mam a nifer o feibion dibriod (‘hen fechgyn’) a arferai fyw yn ffermdy Pwll yr Onnen. Mae’r disgrifiad o leoliad y ffermdy yn amlwg yn ceisio cadarnhau’r awyrgylch a sefydlwyd ar ddechrau’r stori. Mae fel disgrifiad o set ffilm arswyd a dweud y gwir. Mae sŵn y ffrwd yn ‘sŵn hir, ingol na ddihengir rhagddo’; sylwer hefyd at y cyfeiriad at y brain a’r pïod. Yna’r frawddeg hon: (tt.59-60) ‘O bell y mae’r clwstwr coed duon o gylch y tŷ yn debyg i angladd ar ddiwrnod glawog’.
Mae’r stori yn darlunio teulu ‘gwahanol’, ‘rhyfedd’ ac agweddau cymdeithas atynt. Mewn cymdeithas amaethyddol glos roedd arwahanrwydd y teulu yn nodedig ac yn drawiadol. Mae dirgelwch yn eu cylch; nid yw’r gymdeithas yn siŵr faint o frodyr sydd yn byw yno, gan eu bod ‘mor debyg i’w gilydd â thorraid o ddwrgwn’.
Ond o fewn y teulu gwahanol ceir un aelod sy’n wahanol i’r lleill, sef Dafydd, y bachgen ieuengaf. Yn eironig wrth gwrs mae e’n fwy normal. yn debycach i bobl eraill. Mae e’n annibynnol ei farn, ac yn aml gwelir mai ef sy’n gywir. Mae e’n byw mewn ffordd wahanol i’w frodyr; mae e’n cymdeithasu â’r byd mawr tu allan i Bwll yr Onnen. Ei awydd i gymysgu gyda phobl eraill sy’n ei arwain i berthynas â merch, a hyn yw’r argyfwng yn y stori. Clywsai Tomos gan ei dad-cu am y noswaith honno pan glywodd weiddi ofnadwy yn dod o dir Pwll yr Onnen. Roedd y brodyr eraill yn ymosod ar Dafydd yn ffyrnig am ei fod ‘wedi syrthio i drafferth gyda rhyw ferch o’r ardal’.
Penderfynodd yr hen ŵr ymyrryd a cheryddu’r brodyr, gan ddweud wrthynt fel yr oedd Dafydd yn rhagori arnyn nhw. Ar ôl derbyn y cerydd mae’r brodyr yn dechrau gweld popeth mewn goleuni newydd ac yn ystyried Dafydd fel rhyw fath o waredwr iddyn nhw: ‘a dechreuodd ei frodyr, yn araf deg, ganfod ynddo gyfrwng iachawdwr iddynt o stad eu caethiwed du’. Ar ôl hyn maent yn gallu ymroi i ‘chwerthin yn orfoleddus’ am yr hyn y mae ‘Dafydd ni’ wedi’i wneud. Mae Dafydd wedi newid holl awyrgylch y teulu a’r cwm y mae Pwll yr Onnen ynddo: ‘Chwerthin a chwerthin y buont nes bod yr hen gwm du odanynt, cartre’r brain a’r pïod, a’r ffrwd ingol honno, yn rhowlio chwerthin am y tro cyntaf yn eu hanes.’
Nid stori grefyddol yw hon, ond mae awgrym o gyfeiriadau crefyddol yma yn yr iaith a ddefnyddir, ‘iachawdwr’ er enghraifft. (Mae adleisiau o stori Joseff yn y Beibl yma hefyd.) Hwyrach bod D. J. hefyd am feirniadu agweddau rhy negyddol at ryw yn y gymdeithas Gymraeg. Yr hyn sy’n gwneud Dafydd yn wahanol i’w frodyr yw ei berthynas rywiol â merch o’r ardal. Gellid dadlau ei fod yn cyflwyno rhyw fel elfen ryddhaol mewn cymdeithas.
Ond nid dyna ddiwedd y stori. Yn ôl yn y presennol mae Tomos yn gofyn i’r traethydd, ‘Shwd mae dy feistres yn ddiweddar, gwed?’ Cawn wybod ei bod hi’n hanu o deulu Pwll yr Onnen, a’i bod hi bellach yn yr ‘aseilin’ yng Nghaerfyrddin. ‘Y mae gormod o Bwll yr Onnen yn ‘i gwaed hi, druan fach’ – hynny yw, ni chafodd Dafydd wared â’r gwendid meddyliol etifeddol a oedd yn rhan o deulu Pwll yr Onnen. A oedd angen ychwanegu hyn ar ddiwedd y stori, tybed?
3. ‘Colbo Jones yn ymuno â’r Fyddin’ ( Storiau’r Tir Du, 1949)
Stori wleidyddol yw hon sy’n cynnwys neges bendant gan D. J., a honno’n neges heddychol; roedd ef a’i wraig yn amlwg gyda mudiad y Peace Pledge Union yn Sir Benfro, ac roedd D. J. yn gefnogol iawn i wrthwynebwyr cydwybodol lleol fel y bardd Waldo Williams. (Ceir sawl tebygrwydd rhwng cymeriad ‘Colbo’ yn y stori a Waldo Williams.) Mae hon yn stori ddychanol ac mae D. J. yn ceisio mynegi ei safbwyntiau politicaidd cryfion trwy ddychan. Mae’n defnyddio traethydd sy’n wahanol iawn i’r awdur o ran ei ddaliadau gwleidyddol. Gŵr busnes parchus, un o aelodau’r sefydliad yn y dref sy’n adrodd y stori. Fel yn achos ‘Pwll yr Onnen’ adrodd hen hanes a wneir. Cofio yn ystod yr ail ryfel byd am hanes Colbo fel ‘conshi’ yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – yn 1917 y daeth yn athro i’r ysgol lle roedd y traethydd yn ddisgybl.
Mae’r awdur trwy’r traethydd yn ail-greu awyrgylch rhyfelgar tref fach yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn dychanu’r un math o awyrgylch yn ei ddyddiau ef yn Abergwaun yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’n amlwg bod D. J. yn cefnogi safbwynt Colbo Jones. Mae cydymdeimlad yr awdur gyda’r gŵr a oedd yn cael ei erlid oherwydd ei safbwyntiau. (Roedd D. J. yn teimlo yr un fath ag e, mae’n debyg.) Mae uchafbwynt y stori’n dod wrth i’r traethydd gofio fel yr aeth e nôl i’r ysgol un prynhawn gyda stori newydd am Colbo, sef iddo adael sinema yn y dre cyn i God Save the King gael ei chwarae. Dan arweiniad ‘Ianto Black Ox’ mae’r plant yn dechrau canu enw Colbo ar dôn God Save The King. Wrth glywed hyn mae’r athro yn colli ei dymer yn lân ac yn dechrau ‘colbo’r’ plant a bygwth y prifathro hefyd. (Clywais un o gynddisgyblion Ysgol Botwnnog lle bu Waldo Willliams yn athro yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn awgrymu y buasai 'waldio' yn enw mwy addas arno; yr un ystyr sydd i 'waldio' a 'colbo'). Yna mae DJ yn ychwanegu tro yng nghynffon y stori, ôl-nodyn eironig. Yr unig aelod o staff yr ysgol a laddwyd yn y Rhyfel Mawr oedd Colbo, Private D. J. Jones. Yn y diwedd roedd e wedi plygu i bwysau’r mwyafrif, wedi ymuno â’r fyddin, ac wedi’i ladd.
Mae neges y frawddeg olaf yn hollol amlwg: ‘A dyma ni yn awr eto, yng nghanol rhyfel arall.’
Mae llawer o drafod wedi bod ar yr elfen boliticaidd yn storïau D.J.Williams. Mae ei waith yn mynd yn fwy amlwg boliticaidd wrth iddo ddatblygu. Mae’r ‘Tir Du’ yn fwy politicaidd na’r ‘Tir Glas’ (Mae’r awdur yn trafod y newid yn y cyfweliad gyda Saunders Lewis). Dyma fel y soniodd Bobi Jones am y datblygiad: ‘llenor yw D. J. Williams, sydd yn ei weithiau llenyddol wedi sgrifennu fwyfwy, wrth ddatblygu, ynghylch ei argyhoeddiadau gwleidyddol a chrefyddol ei hun. I raddau helaeth, mae’r ffaith hon wedi dyfnhau a difrifoli ei waith, er ei bod ar y llaw arall wedi ymylu ar ei droi ambell dro yn focs sebon.’ (‘Y Llenor Ymrwymedig’ yn J. Gwyn Griffiths, gol., D. J. Williams Abergwaun, Cyfrol Deyrnged). Mae Bobi Jones yn un o’r beirniaid sy’n amddiffyn y datblygiad hwn yng ngwaith D. J. ond roedd Saunders Lewis ac eraill yn ei weld fel dirywiad o safbwynt gwerth llenyddol y gwaith.