Gweledigaeth a Gwaith D. J. Williams
Darlith Flynyddol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 14 Mai 2014
Rwy’n agor gyda dyfyniad, ond nid geiriau D. J. Williams yw’r rhain:
‘Mae’r iaith Gymraeg wedi cyrraedd croesffordd yn Sir Gaerfyrddin. Gall barhau i ddirywio fel y gwnaeth yn gyson ers canol yr ugeinfed ganrif neu gall ddilyn llwybr o adfywiad a chynnydd. I raddau helaeth mae’r dewis hwnnw yn nwylo’r sawl sydd yn ei siarad a’i chefnogi, ond gall llunwyr polisi hefyd gyfrannu’n helaeth at sefyllfa’r Gymraeg - mewn ffordd gadarnhaol neu negyddol.
Daeth canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn sioc i garedigion yr iaith yn Sir Gâr ac mewn rhannau eraill o Gymru. Collwyd 6,148 o siaradwyr Cymraeg mewn degawd, sef lleihad o 6.4%, ac am y tro cyntaf yn ein hanes mae canran siaradwyr Cymraeg Sir Gâr wedi cwympo dan yr hanner (43.9%). Dyma’r gostyngiad mwyaf a welwyd yn unrhyw ran o Gymru. Dros ganrif yn ôl, roedd 90% o boblogaeth y sir yn ddwyieithog, gyda chanran sylweddol ohonynt yn uniaith Gymraeg. Bellach mae’r siaradwyr Cymraeg yn y lleiafrif.
Mewn ymateb i hyn, sefydlodd Cyngor Sir Gâr weithgor arbennig i lunio strategaeth ac argymhellion ar sut i atal y dirywiad hwn ac atgyfnerthu’r iaith i’r dyfodol. Ffrwyth gwaith ‘Gweithgor y Cyfrifiad’ yw’r adroddiad hwn’.
Geiriau Cefin Campbell, cadeirydd y Gweithgor yn ei ragair i’r adroddiad yw’r rhain. Cyfarfu’r Gweithgor 17 o weithiau rhwng Ebrill 2013 ac Ebrill 2014, gan gomisiynu ymchwil allanol ac edrych yn benodol ar y meysydd canlynol:
● Cynllunio (tai fforddiadwy a’r Gymraeg o fewn datblygu cynaliadwy)
● Addysg (meithrin, statudol, bellach, uwch)
● Iaith ac Economi
● Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a gweinyddiaeth y Cyngor
● Effaith sefydliadau sy’n gweithio er budd y Gymraeg megis y Mentrau Iaith
● Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau’r sir (Cymraeg i Oedolion a defnydd o’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol)
● Trosglwyddiad Iaith yn y teulu
● Marchnata’r Iaith
Daeth y gweithgor trawsbleidiol i gasgliadau unfrydol, a chyflwynwyd adroddiad yn cynnwys 73 o argymhellion pellgyrhaeddol. Fe’i derbyniwyd yn ei grynswth gan y Cyngor Sir ac fe’i cymeradwywyd gan Gymdeithas yr Iaith, ond nid heb addo cadw llygad manwl ar amserlen y gweithredu.
Beth sydd a wnelo hyn â phwnc y ddarlith heno? Allwn i ddim peidio â meddwl beth fyddai ymateb, D. J. Williams, un o wŷr Sir Gaerfyrddin, i’r newydd – rhyw ymateb chwerwfelys, dybiwn i – ‘Rwy’n croesawu hyn i gyd, rwy’n canmol trylwyredd y gweithgor ond bois bach ble ych chi wedi bod? Shwd ych chi wedi gadael i bethau ifynd i’r fath gyflwr? Rwy’n croesawu’r argymhellion ym myd addysg, ond on i’n pregthu rhai o’r pethau hyn ac yn ymosod ar Gyngor Bwrdeisdref Caerfyrddin yn y wasg agos i ganrif yn ôl! Y cynghorwyr ‘ny oedd mor dwp â dadlau mai ar lin mam oedd plentyn i fod i ddysgu’r Gymraeg, nad lle’r ysgolion oedd gwneud hynny. Rwy’n sobor o falch hefyd eich bod chi’n cynnwys adran ar iaith gweinyddiaeth y Cyngor Sir a’r angen i symud tuag at iaith fewnol y Cyngor; rwy’n cofio cael fy nghynhyrfu nôl yn 1945 pan glywais i fod y Sir wedi hysbysebu swydd Is-gyfarwyddwr Addysg gan nodi mai ‘dymunol’ yn unig oedd gwybodaeth o’r Gymraeg. Wel fe sgrifennais i lythyr cryf i’r Faner bryd hynny – rhy gryf meddai rhai s’bo – on nhw’n gweud na am fy llythyre i – ond fel hyn wedais i bryd hynny:
A ŵyr neb am unrhyw ran o’r byd heddiw, ond Cymru, lle y gallai pethau fel hyn ddigwydd yno? A hyd yma, yn Sir Gaerfyrddin – fy sir i fy hun – yn unig y digwyddodd y peth
Roedd hi’n unfed awr ar ddeg bryd hynny wyddoch chi – ro’n i’n cyfeirio yn y llythyr at rybuddion yr arolygwyr ysgolion ar y pryd am ‘ddirywiad cyflym yr iaith Gymraeg yn Nyffryn Aman toreithiog ei hen ddiwylliant’. A’r Pwyllgor Addysg yn barod i benodi rhywun ‘ na allai weled na gwybod dim am ddim yma namyn strydoedd meinion o gartrefi pobl yn gweithio mewn gwaith glo, ac ychydig ddefaid di-raen yn pori ochrau’r mynyddoedd’. Ro’n i’n rhoi y bai yn un peth ar Ddeddf Addysg 1870 a’i effeithiau difaol – Ar ôl rhestru rhai o wŷr mawr yr hen Sir ar hyd y canrifoedd ysgrifennais fel hyn:
‘Ond beth a dâl sôn am enwau’r gorffennol wrth wŷr nad yw’r gorffennol i’r mwyafrif ohonynt, y mae’n amlwg, ond dalen wen? Beth yw Pantycelyn a holl gyfoeth yr iaith a’r traddodiad Cymreig i wŷr fel hyn? Onid gwŷr oes Lenin a Stalin, Churchill ac Attlee ydynt hwy, gwŷr oes y bom atomig, lle y cleddir y gorffennol a’r dyfodol yn yr un bedd? Gwnaeth addysg estron ei gwaith mor llwyr arnynt nes diffodd pob fflam o falchder Cymreig yn ei heneidiau.’ (Y Faner, 12 Rhagfyr 1945)
Dwi ddim yn ymddiheuro am gydio argyfwng y Gymraeg heddiw, ac yn Sir Gaerfyrddin yn benodol, wrth bwnc y ddarlith heno. Mi fyddwn i’n teimlo’n anghysurus braidd pe bawn i’n trin D. J. Williams a’i weithiau yn unig fel crair hanesyddol diddorol ailymweld ag e. Os gwir a ddywedodd y bardd Waldo Williams mai hanfod gwladgarwch yw ‘cadw tŷ mewn cwmwl tystion’ yna mae’n briodol i ni ddarllen ein heddiw ni yng ngoleuni’r tyst arbennig hwn, a darllen ei dystiolaethau o’n safle ni.
‘Gweledigaeth a Gwaith D. J. Williams’ yw’r pwnc dan sylw. Rwy’n cymryd nad yw e ddim yn ŵr dierth i’r rhan fwyaf ohonoch chi ond dyw e na’i weithiau ddim mor amlwg ym mywyd Cymru ag oedden nhw pan fu farw yn 1970.
Bu farw D. J. Williams yn 84 oed yn 1970, dan amodau rhagluniaethol a dramatig o addas (‘mor anhygoel briodol’ chwedl Saunders Lewis) mewn cwrdd yn ei hen gapel yn Rhydcymerau. Buasai’r flwyddyn flaenorol, blwyddyn arwisgo Charles yn Dywysog Cymru mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon, yn flwyddyn ddirdynnol a chyffrous i bawb o fewn y mudiad cenedlaethol y bu D. J. wrthi am y rhan helaethaf o’i oes yn llafurio o’i blaid. Yn ôl y gred arferol, ymgais gan Lywodraeth Lafur Prydain Fawr i atal twf cenedlaetholdeb yng Nghymru oedd yr arwisgiad. Llwyddiant Gwynfor Evans yn cipio sedd seneddol gyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966, ynghyd â phleidlais ddigynsail o gryf i’r Blaid mewn is-etholiadau yng nghadarnleoedd y Blaid Lafur yng nghymoedd y de oedd y dystiolaeth ddiriaethol etholiadol i’r twf hwn. Ond y tu cefn i hyn i gyd roedd ysbryd newydd yn y tir; fe’i gwelwyd yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, yn natblygiad ffrwydrol canu gwerin a phop Cymraeg a oedd yn aml yn wleidyddol ei genadwri. Mudiad ifanc, a mudiad yr ifanc ydoedd y mudiad cenedlaethol hwn i fesur helaeth, ond cenhedlaeth iau ydoedd a fawrygai ei blaenoriaid, gan osod ‘tri Penyberth’, Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams, gyfuwch â neb. Un o’r delweddau cywiraf o’r berthynas rhwng yr ifanc a’r hŷn oedd y cartŵn o waith Tegwyn Jones a gyhoeddwyd yn Barn ar ôl marw D. J.: pâr ifanc cyfoes eu gwisg, a bathodynnau’r tafod a’r triban yn eu haddurno, yn talu gwrogaeth syml uwch ei fedd gyda’r geiriau ‘Diolch, D. J.’ (Barn, Chwefror 1970, 91).
Ar garreg fedd D. J. Williams yn Rhydcymerau yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, dyfynnir yr adnod sy’n disgrifio Mordecai, arweinydd yr Iddewon, ar ddiwedd llyfr Esther: ‘Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.’ Mae’n amlwg na ellir adrodd hanes y gŵr a enynnodd y fath gymhariaeth heb ddeall ei gymdeithas a’i gynulleidfa hefyd. Ychwaneger at y beddargraff ieithwedd ysgrif goffa ei hen gyfaill y Parch Lewis Valentine iddo yn Y Faner, a daw’n amlwg pam fod rhai wedi cyhuddo arweinwyr Plaid Cymru o droi eu cenedlaetholdeb yn grefydd. Ystyrier y geiriau hyn, er enghraifft, gan gofio mai teitl yr ysgrif oedd ‘Apostol Paul y Blaid’: ‘Y mae’n debyg mai D. J. oedd y cenhadwr taeraf a mwyaf llwyddiannus a gafodd y Blaid . . . Yr oedd ganddo ddawn i droi y cynulliad bach yn seiat, a byddai rhywun yn siŵr o ‘aros ar ôl’ wedi ei gyfareddu gan ymresymiad D. J.’ (Baner ac Amserau Cymru, 15 Ionawr 1970, t.1).
Beth yn union oedd gweledigaeth D. J. ?
Mae’r hyn ddyfynnwyd eisoes yn nodweddiadol o’i brif drywydd e.
Y nod oedd newid meddwl y Cymry, dadwneud effeithiau difaol imperialaeth Seisnig ar feddylfryd y Cymry, eu cael yng ngeiriau ei gyfaill Waldo Williams, i ganfod ‘dawn yn nwfn y galon’, perswadio’r Cymry eu bod yn genedl. Doedd ganddo ddim amheuaeth am anferthedd y dasg. Pan gyhoeddodd tri Penyberth neges yn Y Ddraig Goch ar ôl eu rhyddhau yn 1937 cyffelybai Gymru i gydgarcharor iddo a ddywedasai y buasai’n ddigon hapus i aros yn y carchar am dymor hwy na’i ddedfryd oherwydd bod ei fyd yno yn un digon cysurus.
‘Byddai ei fron yn cronni gan falchter wrth gyflawni’r coeg swyddi hyn dros hwn a’r llall, a phedfai ganddo gynffon fe’i hysgydwai yn llwch ei gaethiwed.
Y mae’r genedl y perthynaf i iddi yng ngharchar ers saith canrif. Am y cyfnod cyntaf wedi colli ei hannibyniaeth, yr oedd “syrthfyd Sais” yn beth digon anodd i’w ddioddef ganddi. Ond yn oes y Tuduriaid dechreuodd gael mân anrhydeddau a swyddi yn llywodraeth y Sais. Daeth parch dirmygus yr estron ohoni yn fwy peth yn ei golwg na’i pharch balch tuag ati hi ei hun. Ni theimlai bellach ddim o golli ei rhyddid . . . Daeth i ymorchestu yn ei chaethiwed ac i ganu “God save our Gracious King” a chwifio’r “Union Jack” yn fwy aiddgar na’r Jingo pennaf o Sais . Nid yw diwedd y bywyd Cymraeg – yr iaith, y diwylliant, y gwareiddiad, diogelwch ei mannau cysegredig, a thrueni ac anobaith Cwm Rhondda a Merthyr yn ddim yn ei golwg. Oni fu’r Brenin yng Nghastell Caernarfon a chyfieithodd Mr Lloyd George emyn Cymraeg i Saesneg ar gyfer yr amgylchiad? Ysgydwodd Cymru ei chynffon nes bod llwch ei thrueni yn dallu ei llygaid.’
Dyna’r weledigaeth – llenor, ymgyrchwr, ymbiliwr gwrthdrefedigaethol oedd D. J. Williams; yn ei gywydd mawl iddo mae gan Waldo Williams y cwpled cyfoethog hwn, ‘Rhodio’n calonnau’r ydwyt/ Ymbil ar yr hil yr wyt’.
Am weddill y ddarlith rwyf am fenthyg un o ddyfeisiau’r pregethwr Cymraeg, sef y tri phen cyflythrennol, a hynny’n gwbl addas o gofio i D. J. fod wrthi’n pregethu am gyfnod ac yn wir am ychydig amser yn ystyried gyrfa yn y weinidogaeth
Y pennau fydd o leiaf yn rhoi’r argraff o drefn ar yr hyn sy’n dilyn yw:
Gwreiddiau Gweledigaeth
Geirio Gweledigaeth
Gyrru Gweledigaeth
1 – yn gyntaf felly gwreiddiau neu ffynonellau’r weledigaeth – o lle y cafodd D.J. ei ysbrydoliaeth
Mae Waldo yn ei gywydd mawl yn rhoi ateb i ni mewn llinellau gafaelgar:
Gynt yn ardal y galon/ Ganed hwyl y gennad hon
A’i angerdd yw’r gerdd a gwyd/ O lân olau hen aelwyd
Dweud pert ond y pwyslais yn un cyfarwydd. Mae cenedlaetholdeb iach yn codi o’r fro ac o’r aelwyd unigol. Yr aelwydydd hynny yn hanes D.J. oedd cartrefi’r teulu ym Mhenrhiw, Llansawel (Llansewyl bob amser ar lafar), lle y’i ganed ef yn 1885, ac Abernant ar fin y ffordd rhwng Llansewyl a Rhydcymerau, ffarm lai y symudodd y teulu iddi yn 1891. Y fro yw’r hyn a alwodd DJ yn ‘hen ardal’ neu’n ‘filltir sgwâr’ – ceir un o’i ddatganiadau enwocaf ar arwyddocad y fro iddo ym mharagraff olaf pennod gyntaf ei hunangofiant , Hen Dy Ffarm.
Un peth trawiadol am HDFF fel hunangofiant yw nad yw’n mynd ymhellach na bywyd yr awdur yn 6 oed. Mae hyn yn awgrymu nad hunangofiant cyffredin sydd yma,ac mae hynny’n gywir.
Pedair Pennod yn unig a geir yn y gyfrol, sef:
1 O gwmpas y nyth
2 Aelwyd Penrhiw yn amser fy nhadcu
3 Aelwyd Penrhiw yn fy amser i
4 Gadael Penrhiw
Gwelir ar unwaith mai hanesyddol yw pwyslais penodol yr ail bennod, ac mae gwreiddiau a theulu a thraddodiad yn elfennau allweddol yn yr hunangofiant. Mae ganddo bortreadau cofiadwy a straeon ffraeth.Mae daearyddiaeth, cymeriadau a ffordd o fyw ardal gyfan yn cael eu cofio a’u croniclo yn Hen Dŷ Ffarm. Mawl yw’r cywair yn aml iawn; mae D.J. yn caru ei fro, yn credu bod ei gwerthoedd yn rhai i’w canmol, ac yn feirniadol iawn o bob bygythiad i’w gwead cymdeithasol a’i Chymreictod. Paragraff enwocaf y llyfr yw’r un sy’n cloi’r bennod gyntaf. Fe’i hargraffwyd ar ffurf poster pan oedd D. J. yn arwr i aelodau ifainc Cymdeithas yr Iaith yn y 60au/70au. Mae’n baragraff dadlennol sy’n ein helpu ni i ddeall beth oedd yn gyrru D. J. fel awdur ac fel ymgyrchwr gwleidyddol.
Ceir yn y darn elfennau o’r canlynol:
Cyfriniaeth (wrth ddisgrifio effaith gorfforol ac emosiynol yr ardal arno)
Hiraeth am fro mebyd a siom a rhwystredigaeth bersonol am na allodd symud yn ôl i’r ardal (ceisiodd am swydd Prifathro Ysgol Uwchradd Llandeilo, er enghraifft)
Esboniad o natur ei genedlaetholdeb – y filltir sgwâr – bro – cenedl.
Enghraifft o’i natur ymrwymedig ac ymosodol yn y maes gwleidyddol.
Defnydd o iaith aruchel, ‘ysbrydol’ wrth bregethu ar ddiwedd y bennod.
Hawdd beirniadu, dadadeiladu, dadfytholegu a delwddryllio – mae rhywfaint o angen gwneud hynny, hwyrach – ond trwy’r cwbl rhaid cydnabod bod hyn i gyd yn ysbrydoliaeth fywiol, real a chynhaliol i DJ ar hyd ei yrfa.
Edrychwn ar ddarn arall o dystiolaeth, y tro hwn o lythyr i bapur Llafur byrhoedlog Llanelli, The Labour News:
Yr wyf fi yn Fethodis trwy ddamwain, yn Sosialydd o ran argyhoeddiad gwleidyddol, ac yn Gymro o ran gwaed a thraddodiad. Gallaf newid fy enwad, pe byddai enwad o ryw bwys, a gall fy argyhoeddiadau gwleidyddol newid, ond nid oes yr un gallu mewn bod, - fe ofalodd rhagluniaeth am hynny, - all fy newid o fod yn Gymro i fod yn Sais neu Wyddel, neu Ffrancwr neu Ellmyn. Felly, o anghenraid, y mae fy nghysylltiad i a’m cenedl yn agosach ac yn rymusach peth, mewn ystyr gymdeithasol na’r un cysylltiad arall yn y byd hwn.
(‘“Nodion y Cymro” a’r Blaid Genedlaethol’, The Labour News [Llanelli] 30 Mai 1925
Yr awgrym eto yw bod y weledigaeth wedi’i gwreiddio mewn rhywbeth greddfol ac anochel - byddwch chi’n ystyried arwyddocâd y flwyddyn, 1925, blwyddyn sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.
Doedd D. J. ar y llaw arall ddim yn ddall i drafferthion bywyd yr hen ardal – yn wir onestrwydd y portread o helbulon ei deulu ei hun yw un o gryfderau HDFF – gwyddai am daeogrwydd ei bobl ac am gyfyngiadau economaidd yr hen ardal a’i gyrrodd ef a llawer o’i gyfoedion oddi cartref. Roedd angen ffynonellau arall i danio’r weledigaeth – un o’r rhai mwyaf bywiol, yn ddi-os, oedd hanes diweddar Iwerddon.
Yn ystod gwyliau’r Pasg 1919 ymwelodd ag Iwerddon a chwrdd â nifer o arweinwyr y Mudiad Cenedlaethol:
‘Bu bod ynghanol y cynnwrf cenedlaethol hwn yn ddyrchafiad ysbryd i D. J. ‘ (Waldo Williams)
Beth sy’n esbonio natur apêl a chyfaredd gwaith yr awdur a’r ymgyrchwr Gwyddelig AE, a’i lyfr Y Bod Cenhedlig yn arbennig, i D. J. ? ‘Fe apeliodd y llyfr yn rhyfedd ataf o’r cychwyn cyntaf; a chredaf y gallaf ddweud heddiw, ac eithrio’r Beibl i’r llyfr hwn gael mwy o afael arnaf na’r un llyfr arall a brofais erioed’ (rhagymadrodd, Y Bod Cenhedlig,cyfieithiad D. J. o The National Being)
Dyma sylw i’n hatgoffa hefyd nad peth anghyffredin oedd diddordeb yn hynt a helynt Iwerddon yn ystod y cyfnod dan sylw.Yn ei gyfrol Tros Gymru mae J.E Jones, Ysgrifennydd a Threfnydd Cyffredinol Plaid Cymru am dros 30 mlynedd yn nodi saith elfen a arweiniodd at sefydlu’r Blaid Genedlaethol yn nhrefn pwysigrwydd fel y gwelodd e bethau; ar frig y rhestr ‘yn ddi-os, yn fy meddwl i’ meddai J. E. ‘ Iwerddon fu’r symbyliaeth a’r ysbrydiaeth gryfaf i genedlaetholdeb yng Nghymru yn ein cyfnod ni’ Aeth yn ei flaen i grybwyll edmygedd D. J. o AE yn enghraifft amlwg o hynny.
Ond roedd y wleedigaeth hefyd yn cael ei siapio a’i ffurfio gan brofiadau’r dydd. Mae’n weledigaeth sy’n cydnabod y clwyf a’r moddion sydd ei angen i’w wella – mae’n cydnabod y tir glas a’r tir du. Ac er cymaint y sôn am rinweddau’r filltir sgwâr yn yr hen ardal yn Sir Gaerfyrddin, mewn milltir sgwâr arall, yn nhref fach Abergwaun y bu D.J. byw am hanner can mlynedd olaf ei fywyd.
Byw yno’n ddedwydd ei amgylchiadau cartrefol ar ôl priodi Sian ddiwedd 1925, ennill ei fara menyn fel athro ac ymroi yn ei oriau hamdden, heb gyfrfoldebau magu plant, at ei waith. Ond byw yno’n rhwystredig hefyd, byw gan weld y Gymraeg yn dirywio a hen safbwyntiau Prydeinig ymerodrol yn gyndyn iawn i newid – byw gan wynebu gelyniaeth a gwrthwynebiad yn sgil ei safiad, yn arbennig ar ôl Penyberth. O flaen ei lygaid, yn ei brofiadau chwerw yn Abergwaun y bu’n rhaid iddo ymgodymu â realiti’r Gymru gyfoes.
Ga’i gyfeirio at ddwy ysgrif sy’n rhoi cip i ni ar ei ymateb i brofiadau Abergwaun:
Yn gyntaf un o’i fynych gyfraniadau Saesneg, ‘Fishguard and Goodwick Council and the Bombing School’ a gyhoeddwyd ym mhapur Abergwaun, County Echo, 21 Mai 1936. Ar yr adeg yma mae protestio cenedlaethol yn erbyn cynlluniau’r Ysgol Fomio; mae llythyr gan rai o arweinwyr y genedl wedi’i gyhoeddi yn yr Echo. Ac mae D. J. wedi anfon penderfyniad cangen leol y Blaid at Gyngor y Dre yn gofyn iddynt ei gefnogi. Er cael cefnogaeth ei gyfaill O. D. Jones yn y cyngor, penderfynu ei nodi yn unig a wnaethpwyd. Hyn a gymhellodd lythyr nodweddiadol chwyrn i’r Echo sy’n cynnwys yr ymosodiad hwn ar y cynghorwyr – hyn gan athro cyflogedig mewn tref fach lle roedd pawb yn nabod pawb, gyda llaw (a mwy nag un o’r cynghorwyr, debyg, yn llywodraethwyr ar yr ysgol lle gweithiai D. J. :
‘I wonder how many members of our Council who so proudly welcome the chief of our national institutions into our midst this year,[roedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn1936 ar fin dod i Abergwaun] know anything of these national newspapers and magazines, even their names (mae e newydd ganmol ansawdd y wasg Gymraeg) To many of these Councillors, though they may have lived in Wales all their lifetime, the real Wales, which created the National Eisteddfod, is truly a foreign land. No wonder that its language, its culture, its traditions, and the sanctity of its territory mean so little to them. A Welshman so uprooted can be, and can do, almost anything without feeling the least compunction, or even embarrassment. . . . Such a Welshman really does not betray Wales because he has never known Wales. He has only lived in it. His national consciousness goes no deeper than a shout on a football field; and his spiritual sensibilities have become so atrophied that to him there is no difference between a Welsh National Eisteddfod and a school for the perfecting of murder. He’ll support either with perfect equanimity as long as it is likely to be a going concern. And men bred in this school are today the great majority on all the public bodies of Wales. This is the price that Wales has had to pay for a system of government not responsible to the Welsh people. We are ruled by aliens of our own blood.’
Yna mae’n gwahodd y cynghorwyr i ymuno â’r criw fydd yn mynd o Abergwaun y Sadwrn canlynol i’r cyfarfod protest mawr ym Mhwllheli, yn y gobaith , o’u cael yno ‘they might realise that they are not only in Wales, but of Wales, of the Welsh nation’.
Go brin i lawer ohonynt dderbyn y gwahoddiad!
Golwg ddigon tywyll ar gyflwr pethau yn Abergwaun a geir mewn ysgrif yn y Faner, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ‘Llyw ac Angor Cenedl: Neges Hen Athro i’w Hen Ddisgyblion’. Gwled llong Cymru ar drugaredd y lli y mae, yn ysglyfaeth i gyfundrefn addysg Anghymreig, gofodaeth filwrol ar Gymru a ‘t[h]otalitariaeth gynyddol Llywodraeth Llundain yn llyncu popeth Cymreig i mewn iddo’.
Ac y mae gweld yr hyn sy’n digwydd i’r Gymraeg yn Abergwaun yn ‘gwaedu calon’.
‘Cenhedlaeth arall a bydd yr iaith yn gwbl farw. Yn Llydaw, Llywodraeth estron Ffrainc sydd wrthi’n lladd y Llydaweg ac yn carcharu Llydawyr am geisio’i chadw’n fyw. Ond yn Abergwaun, Cymry Abergwaun, a hynny yn eu cartrefi eu hunain, sydd yn lladd y Gymraeg.’
Dyna wreiddiau’r weledigaeth felly – gwerthoedd y tir glas, ysbrydoliaeth yr Ynys Werdd, profiadau a phrofedigaethau’r tir du
Geirio Gweledigaeth – ieithwedd D. J.
Sylw neu ddau yn unig fydd gen i dan y pen hwn:
Mae llinell wych arall o gywydd Waldo iddo yn cyfleu’r wedd chwyrn ddychanol ar ieithwedd D.J. - deifio’r llawr er adfer llys – yn ei ohebiaethau cyhoeddus yn ei dweud hi gydag awch ac egrwch. O ran ei arddull lenyddol mae’r cyhuddiad o fod yn oreiriog yn un ddigon teg, ddywedwn i – a bu dadlau rhwng beirniaid ynghylch priodoldeb y gweithiau llenyddol hynny a ddefnyddir yn rhy amrwd i gystwyo’r Gymru gyfoes.
Pwnc arall i’w ystyried yma yw dibyniaeth helaeth D.J. ar iaith yr ysgrythur wrth fynegi’r weledigaeth - dyw e ddim ar ei ben ei hun yn hyn o beth fel y gwelwyd wrth ddyfynnu Valentine ar ddechrau’r ddarlith.
Mae modd beirniadu’r arfer o fwy nag un cyfeiriad – roedd yn esgeuluso neu arafu’r gwaith o ddatblygu geirfa gyflawn ar gyfer trafod gwleidyddiaeth yn theoretig ac ymarferol trwy’r Gymraeg – a hefyd o safbwynt ysbrydol roedd tuedd i lastwreiddio a thanseilio’r geiriau gwreiddiol wrth eu tynnu o’u cyd-destun. Mae grym i’r ddwy feirniadaeth ond hwyrach bod angen ychydig o oddefgarwch at genhedlaeth na allai beidio, rhywsut, â’i mynegi ei hunan yn iaith y Beibl, y testun Cymraeg yr oeddent wedi’u trwytho’n llwyr ynddo. Ond yn ei dyddiau cynnar y Blaid Genedlaethol oedd eglwys fore y Gymru newydd, a D. J. a’i gyfeillion yn genhadon, yn apostolion. Fel ‘crwsad’ y mae’n disgrifio ei gyfres o gyfarfodydd i hyrwyddo’r blaid newydd a’r Ddraig Goch yn enwedig yn ardal Llansewyl a Rhydcymerau dros wyliau’r Pasg 1927. ‘Y mae hi’n arfer gan bob cenhadaeth ddechreu yn Jerusalem. Fy Jerusalem i yw Rhydcymerau’. Mae’r adroddiadau o’r cyfarfodydd yn darllen fel cofnod o seiadau cynnar y Methodistiaid ‘Cwrdd bychan eto o rif, ond byw ddigon’ a gafwyd ym Mrechfa, er enghraifft.
Ei argraff ar ddiwedd y daith oedd fod pobl Sir Gaerfyrddin ‘yn fwy na pharod i wrando ar yr efengyl newydd’ ac wedi syrffedu ar wleidyddiaeth fel yr oedd. Un o’r gwersi a ddysgodd oedd ‘mai gwell i efengylwyr fyned bob yn ddau a dau.’
Mi grybwyllaf yn unig ysgrif arall yn y cywair hwn, ‘Rhai sylwadau ar fywyd Abergwaun heddiw’[1930] ; ynddi mae’r awdur yn dwyn Eseia a Jeremeia i’r llwyfan fel cymeriadau sy’n sylwi ar gyflwr pethau yn Abergwaun ac yn eu cymharu â sefyllfa’r hen genedl yn eu cyfnod nhw.
Gyrru’r Weledigaeth/ gweithredu gweledigaeth
Ceir elfennau coeg-gyfriniol a chrefyddllyd yng ngwaith D. J. o bryd i’w gilydd, ond gweithiwr ymarferol yn anad unpeth oedd e – fel cyfrinydd ymarferol y cyfeiriodd e at ei arwr AE, a chanmol ei ddyfalbarhad dygn a wnaeth Gwenallt yn y gerdd a luniodd iddo adeg ei ymddeoliad:
Rwy’n cofio’r ceffylau yn Rhydcymerau
Yn y Gelli, Tir-bach ac Esgeir-ceir,
Yn llafurio trwy’r blynyddoedd digysgod, fel tithau,
Yn ddyfal ac yn ddewr ac yn ddeir.
Rwy’n eu cofio yn llusgo’r aradr ar y llethrau
Onid oedd eu ffolennau a’u hegwydydd yn fwg,
Ac yn tynnu’r llwythi ar y llethrau trafferthus,
Fel tithau, heb na grwgnach na gwg.
Mae modd canfod is-destun ychydig yn grintachlyd yn y penillion hyn gyda llaw – gweithiwr dygn, ond dim mwy na hynny?
Does dim amser heno i wneud mwy na rhestru ambell un o’r cyfryngau a ddefnyddiodd i roi’r weledigaeth ar waith. Amlygwyd rhai eisoes – roedd yn ymgyrchwr, yn gasglwr tanysgrifiadau a thaliadau aelodaeth wrth reddf . Yn 1897 dechreuodd ddosbarthu Trysorfa’r Plant (Gweler Yn Chwech ar Hugain Oed, t.70)
Yn 1901 y darllenodd Cymru O. M. Edwards am y tro cyntaf (rhifyn Ionor 1901), a stori ‘Fflamgwn Napoleon’ yn gwneud argraff fawr arno. (Yn Chwech ar Hugain Oed, t. 72); bu’n gyfrannwr ac/ yn gefnogwr taer i’r cylchgrawn hwnnw.
Os byddai cylchgrawn newydd wedi’i sefydlu (gan gynnwys rhai Saesneg Cymru fel Wales) byddai D. J. ar y blaen yn ei hyrwyddo neu’n cynnig cyfraniad iddo; o gael hen bapur mewn trafferth, y Darian yn y dauddegau er enghraifft – byddai D. J. yn ymroi â’i holl egni i geisio adfer pethau, yn awgrymu awduron newydd ac yn hel tanysgrifiadau.
Ysgrifennwr i’r wasg: does dim llyfryddiaeth gyflawn gennym ni o’i holl gyfraniadau, yn erthyglau a llythrau – ddim o bell ffordd rwy’n amau, gan fy mod ar draws eitemau newydd bob tro y caf gyfle i bori. Roedd yn llythyrwr tanbaid eofn fel y gwelwyd, a’r yr un yw’r nod bob amser – herio, siglo, newid meddwl.
Roedd yn hyrwyddo’r ddrama Gymraeg fel cyfrwng i adfer cenedl
Un o’r ysgrifau cyntaf o’i eiddo i weld golau ddydd oedd ‘Ysbryd yr Oes a’r Ddrama’ – ‘Os ydyw ysbryd y deffroad yn ddigon cryf yng Nghymru, daw’r ddrama i mewn yn ei bri a’i anrhydedd, ynghyda’i holl ynni a’i nerth i ysbrydoli bywyd, hanes ac ymdrech y genedl i draddodi ei chenadwri i’r byd.’
Bu’n weithgar gyda chwmni drama Gymraeg Abergwaun, yn ysgrifennydd ac yn llywydd adeg llwyfannu dramâu J. O. Francis ac eraill – yn ysgrifennydd y Cymmrodorion yr un modd, ac arwyr iddo fel Llywelyn Williams a George M. LL Davies yn ymweld â’r dref. Parodd yr ymrwymiad i’r ddrama, ac mae llythyrau diddorol gan Mary Lewis, Llandysul (Hughes cyn priodi) yn trafod paratoadau ei chwmni drama hi yn Llandysul ar gyfer ymweld ag Abergwaun.
Ymgyrchwr gwleidyddol
Dros fwy nag un plaid . . .bu’n ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur yng ngogledd Sir Benfro ddechrau’r 20au ac yn gefnogwr brwd i’r ymgeisydd o heddychwr Willie Jenkins (y buasai ei dad yn weinidog ar deulu Waldo Williams) ond unwaith y cafwyd sôn am Blaid Genedlaethol roedd ei flaenoriaethau – iaith, addysg a’r diwylliant Cymraeg yn golygu mai yno fyddai ei gartref. O ran ei ymroddiad i Blaid Cymru. gweithred Penyberth sy’n denu sylw ond cyfeiriad Rhys Evans yn ei gofiant i Gwynfor at y miloedd o gymwynasau a wnaeth D. J. â Gwynfor yn dweud y cwbl; roedd elfen o’r arwr addolwr ynddo, ac roedd hynny yn ei wneud yn gefnogwr triw, diddichell a diarbed ei egni
Darlledwr
Cafodd gyfle gan T. Rowland Hughes yn y 1930au i ddarlledu o Abertawe; dyma gyfle iddo adrodd am rai o’r hen wynebau (gyda’r fantais o allu eu dynwared ar lafar) ac i fynd â hen gymeriadau Abergwaun, llongwyr a chapteniaid gydag ef i’r stiwdio i’w holi. Roedd yn ddarlledwr poblogaidd; cafodd aelwyd genedlaethol ddylanwadol a manteisiodd arni.
Llenor
Lluniodd ysgrifau, straeon brion a dwy gyfrol hunangofiannol.
Mae’n annhebyg o gael ei adfer i’r bri a fu iddo yn ystod ei fywyd ac yn fuan ar ôl hynny – ond mae mawr angen golygu ac ailgyhoeddi’r cyfrolau hunangofiannol.
Ymbiliwr personol/ Anogwr/ Rhwydweithiwr
Roedd e’n cadw popeth; felly mae gyda ni drysorfa o gasgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol o lythyrau ato – hyn yn rhoi cyfle i ni fapio ei gysylltiadau a’i gymdeithas. Mae llythyrau gan enwogion wrth reswm, ac rhai Saunders Lewis a Kate Roberts wedi’i golygu gan Emyr Hywel, ond nid dyna’r rhai mwyaf diddorol. O’r holl agweddau ar ei waith, rwy’n amau taw fan hyn y mae cuddiad ei gryfder, y cadw cysylltiad â ffrindiau a chynddisgyblion a’i hannog i ymroi i’r achos. Mae ambell gasgliad hynod arwyddocaol.
e.e.
Flora Forster 1918-1925 – dwy ochr yr ohebiaeth arwyddocaol hon wedi’u cadw. Roedd FF mewn ffordd yn ymgorfforiad o’r Gymru ddiGymraeg y ceisiai DJ ei ennill a’i drawsffurfio, a’i ymgyrch serch aflwyddiannus yn arwydd o ryw awydd dyfnach efallai.
Trevor Vaughan 1960-1969
Cynghorwr llafur yng Nghasnewydd oedd Trefor Vaughan, maer Casnewydd yn ystod 1963-4. Wedi cyfarfod yn Llandrindod, dyma’r ddau deulu’n dod yn gyfeillgar, TV yn dysgu Cymraeg, erbyn y diwedd yn arwyddo’i hun yn Trefor Fychan.
Sylwer: er caleted y gallai D. J. golbio’n gyhoeddus, roedd ganddo ddawn i feithrin perthynas bersonol â’i elynion gwleidyddol. Mae enghreifftiau eraill ar gael; dyna i chi ei ohebiaeth bersonol â Don Rowlands, golygydd y Western Mail rhwng 1960 a 1963.
Er tanbeiteid ei argyhoeddiadau, roedd DJ yn gallu bod yn ‘gynhwysol’ a defnyddio term diweddar. Mewn llythyr ato roedd Roland Mathias y bardd a’r beirniad Eingl-Gymreig yn diolch iddo am ddeall ei safle fel rhywun na allai lenydda ond yn y Saesneg.
Pe bawn i’n chwilio am bedwerydd pen efallai mai ‘gwaddol gweledigaeth’ a fyddai. Fel y gwyddoch chi, ysbrydolwyd cenhedlaeth newydd o genedlaetholwyr gwleidyddol gan D. J. W. – mynegwyd edmygedd y rheiny tuag ato gan Dafydd Iwan yn ‘Y Wên na Phyla Amser’ a ‘Cân D. J.’ Y teitl yr wy’n bwriadu ei roi ar y bennod fydd yn trafod degawd olaf D. J. fydd ‘Cip ar y Tir Gwyn’ – fe gafodd gyfle i annog ac i gael ei galonogi gan genhedlaeth newydd. Rhoddwn y gair olaf i’r beirdd. Beth oedd y weledigaeth eto, Waldo?
Nid llai na hyn – ‘Honni hawl hen wehelyth/ Rhag darfod o’i bod am byth’
Beth sydd gyda ti Gwenallt i’w ddweud wrth DJ ar ein rhan?
‘Nid yw’r gwaith a wnaethost ti yn deilwng o dysteb,
Ac ni chei di gan y Brenin y CBE;
Ond bydd y cyfarwyddiaid yn adrodd drwy Gymru
Bedair Cainc dy fabolgampau a’th aberth di’
Byddai D. J. wrth ei fodd gyda’r hyn a gyflawnir gan y Ganolfan hon, ac nid gweniaith yw hyn. Mae eich gweithgarwch chi yn cyfateb yn union i’w ddyheadau e ar gyfer adfywiad diwylliannol yn yr ardaloedd gwledig, a byddai’n daer am sefydlu canolfannau tebyg ledled Cymru.
Mae mabolgampau ac ymroddiad ymbilgar D. J. Williams yn werth eu hadrodd ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi am y cyfle i wneud hynny heno.