Rhagymadrodd
Darn o’r Rhagymadrodd
Ar garreg fedd D. J. Williams yn Rhydcymerau yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, dyfynnir yr adnod sy’n disgrifio Mordecai, arweinydd yr Iddewon, ar ddiwedd llyfr Esther: ‘Yn gymeradwy ymysg lliaws ei frodyr; yn ceisio daioni i’w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i’w holl hiliogaeth.’ Mae’n amlwg na ellir adrodd hanes y gŵr a enynnodd y fath gymhariaeth heb ddeall ei gymdeithas a’i gynulleidfa hefyd. Ychwaneger at y beddargraff ieithwedd ysgrif goffa ei hen gyfaill y Parch Lewis Valentine iddo yn Y Faner, a daw’n amlwg bod achos prima facie, o leiaf, gan y rheiny a gyhuddai lawer o arweinwyr Plaid Cymru o droi eu cenedlaetholdeb yn grefydd. Ystyrier y geiriau hyn, er enghraifft, gan gofio mai teitl yr ysgrif oedd ‘Apostol Paul y Blaid’: ‘Y mae’n debyg mai D. J. oedd y cenhadwr taeraf a mwyaf llwyddiannus a gafodd y Blaid . . . Yr oedd ganddo ddawn i droi y cynulliad bach yn seiat, a byddai rhywun yn siŵr o ‘aros ar ôl’ wedi ei gyfareddu gan ymresymiad D. J.’ (Baner ac Amserau Cymru, 15 Ionawr 1970, t.1). Bydd dadansoddi ieithwedd a dyfeisiau rhethregol D. J. a’i edmygwyr yn rhan bwysig o’r astudiaeth hon; fe’n dygir i ystyried mai creadigaeth i ryw fesur yw’r ‘D. J. Williams’ y ffolodd un garfan ddylanwadol oddi fewn i’r diwylliant Cymraeg arno. Byddwn yn olrhain datblygiad meddyliol a llenyddol yr awdur a’r ymgyrchwr gwleidyddol, ond hefyd yn effro i dwf cyfochrog y ddelwedd yr oedd eraill yn ei chreu ar ei gyfer, y ‘cultus’ y soniodd Saunders Lewis amdano yn ei ysgrif goffa yn Barn (Saunders Lewis, ‘D. J. Williams’, Barn, Chwefror 1970, 90-1),
Bu farw D. J. Williams yn 84 oed yn 1970, dan amodau rhagluniaethol a dramatig o addas (‘mor anhygoel briodol’ chwedl Saunders Lewis) mewn cwrdd yn ei hen gapel yn Rhydcymerau. Buasai’r flwyddyn flaenorol, blwyddyn arwisgo Charles yn Dywysog Cymru mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon, yn flwyddyn ddirdynnol a chyffrous i bawb o fewn y mudiad cenedlaethol y bu D. J. wrthi am y rhan helaethaf o’i oes yn llafurio o’i blaid. Yn ôl y gred arferol, ymgais gan Lywodraeth Lafur Prydain Fawr i atal twf cenedlaetholdeb yng Nghymru oedd yr arwisgiad. Llwyddiant Gwynfor Evans yn cipio sedd seneddol gyntaf Plaid Cymru mewn is-etholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966, ynghyd â phleidlais ddigynsail o gryf i’r Blaid mewn is-etholiadau yng nghadarnleoedd y Blaid Lafur yng nghymoedd y de oedd y dystiolaeth ddiriaethol etholiadol i’r twf hwn. Ond y tu cefn i hyn i gyd roedd ysbryd newydd yn y tir; fe’i gwelwyd yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, yn natblygiad ffrwydrol canu gwerin a phop Cymraeg a oedd yn aml yn wleidyddol ei genadwri. Mudiad ifanc, a mudiad yr ifanc ydoedd y mudiad cenedlaethol hwn i fesur helaeth, ond cenhedlaeth iau ydoedd a fawrygai ei blaenoriaid, gan osod ‘tri Penyberth’, Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams, gyfuwch â neb. Un o’r delweddau cywiraf o’r berthynas rhwng yr ifanc a’r hŷn oedd y cartŵn o waith Tegwyn Jones a gyhoeddwyd yn Barn ar ôl marw D. J.: pâr ifanc cyfoes eu gwisg, a bathodynnau’r tafod a’r triban yn eu haddurno, yn talu gwrogaeth syml uwch ei fedd gyda’r geiriau ‘Diolch, D. J.’ (Barn, Chwefror 1970, 91). O gydio hyn wrth y beddargraff llwythog daw’n amlwg y bydd yn rhaid i unrhyw astudiaeth feirniadol sy’n mynd at y dyn bron i ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ddygymod â thawch edmygedd anfeirniadol ac arwraddoliaeth.
Roedd y teyrngarwch twymgalon hwnnw at rai a edmygai am resymau personol a gwleidyddol yn llywio barn D. J. ei hun am werth ac arwyddocâd gweithiau llenyddol. Yn yr un modd, tebyg na fydd hi’n anodd profi i weithiau D. J. gael eu derbyn i’r canon cyfoes yn sgil cefnogaeth rhai cyfeillion trwm eu dylanwad ar y farn gyfoes. Beth a feddylir wrth y canon? Y corff hwnnw o lenyddiaeth y bernir gan fwyafrif o fewn diwylliant llenyddol arbennig ar adeg arbennig ei fod yn cynrychioli gorau’r diwylliant hwnnw. Peth symudol, er nad cwbl fwmpwyol, ydyw. Ond mentrwn ddweud hyn: pan ddechreuais ar fy swydd fel darlithydd yn un o adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru yn 1978, roedd D. J. yn rhan o’r canon. Ni freuddwydiaswn hepgor ei waith o’r maes llafur llenyddol. Erbyn 2008, yn bendifaddau, nid yw’n rhan o’r canon. Nid yw’n agos at unrhyw faes llafur addysg uwchradd ac rwy’n siŵr mai bach iawn o le sydd iddo bellach ar fodiwlau prifysgol.
Nid yw’n dilyn o reidrwydd iddo gael cam. Os ysbryd yr oes oedd un o’r prif resymau dros ei ddyrchafu, disgwyliem i’w statws ddirywio wrth i’r byd symud yn ei flaen. Nid yw adfer D. J. i safle o bwys cenedlaethol fel llenor yn gymhelliad gennyf wrth afael yn y gwaith hwn, yn wir petrusais cyn ymrwymo i’r gorchwyl oherwydd amheuon ynghylch ansawdd y gweithiau llenyddol. Cofiannydd llenyddol ydwyf o ran crefft, un sy’n olrhain datblygiad llenyddol y gwrthrych yng ngoleuni’r cyd-destunau hanesyddol a bywgraffyddol. A fydd y storïau a’r hunangofiannau’n medru dal pwysau’r craffu manwl, didostur y bydd yn rhaid wrtho mewn gwaith fel hwn? A dry’r ymdriniaethau trylwyr â’i weithiau llên yn syrffedus a rhwystredig o feirniadol? Bûm yn ymholi ar hyd y llwybrau hyn, ond rwy’n fodlon fod yn ei brif weithiau y trwch arwyddocaol hwnnw a ddylai arwain at fyfyrdod ffrwythlon. Ac wrth astudio ei waith fel storïwr, ysgrifwr, hunangofiannydd a gohebydd byddwn yn mapio rhannau helaeth o dirlun llenyddol yr ugeinfed ganrif.
Yng nghyd-destun ei gyfnod, nid yw’r cnwd yn un ansylweddol – y gweithiau enwocaf yw’r gyfrol o ysgrifau a’r tair cyfrol o straeon byrion a gyhoeddwyd rhwng 1934 a 1949, a dwy gyfrol hunangofiannol yn y 1950au, ar ôl iddo ymddeol o’i swydd fel athro yn Abergwaun. Perthynai addasrwydd syml a chyfoethog i deitlau’r cyfrolau cyntaf. Ysgrifau portread o gymeriadau a gofiai yn ardal ei febyd a gaed yn Hen Wynebau (1934). Y teitl a roes ar ei gasgliad cyntaf o straeon byrion oedd Storïau’r Tir Glas (1936), cyfrol a dynnai eto am ei deunydd ar yr hen ardal, y ‘tir glas’. Yn ddilyniant cafwyd Storïau’r Tir Coch (1941) amwysach ei awgrym cyn terfynu gyda’r diamwys gyferbyniol Storïau’r Tir Du (1949). Ni chaed yr un ymdeimlad bwriadus yn nheitlau’r ddwy gyfrol hunangofiannol, Hen Dŷ Fferm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959), ond ystyrid y gyntaf o’r rhain yn sicr yn waith llenyddol o’r radd uchaf gan ei darllenwyr cyfoes. Nid dyma gyfanswm ei waith o bell ffordd. Casglwyd deunydd ynghyd ar ôl ei farw gan J. Gwyn Griffiths, un o’i gefnogwyr mwyaf pybyr, yn Y Gaseg Ddu a Gweithiau Eraill yn 1970. Detholiad o’i storïau cynnar a’i bortreadau a’i ysgrifau (o natur wleidyddol yn bennaf) a gafwyd yn y gyfrol hon. Ychwaneger at y rhain ei lyfrynnau A. E. a Chymru, Mazzini, Codi’r Faner a’i gyfieithiad o un o lyfrau AE, Y Bod Cenhedlig, yn ogystal â’r sgriptiau radio sydd bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac fe geir argraff decach o’i ddiwydrwydd llenyddol. Ond nid dyna’r cwbwl; yn achos y llenor hwn a’i genhedlaeth daeth hi’n gynyddol amlwg fod lle i ddadlau bod y llythyr personol yn elfen o bwys yn eu cynnyrch llenyddol, os nad bob amser yn rhinwedd eu gwerth llenyddol annibynnol, yna yn sicr oherwydd y goleuni a daflant ar gefndir y cynnyrch pwysicaf ac ar rwydweithiau llenyddol-wleidyddol cyfoethog y cyfnod. Roedd D. J. yn llythyrwr toreithiog (yn gyhoeddus yn y wasg hefyd) ac yn gadwr llythyrau cydwybodol. Bûm yn ddyledwr iddo droeon yn y gorffennol wrth bwyso ar dystiolaeth y llythyrau a anfonodd ei gyfaill anniben Waldo Williams ato. Tystia’r casgliad o lythyrau a dogfennau D. J. yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ehangder cysylltiadau gohebol D. J., yn ogystal â’i ofal bwriadus e wrth gadw’r cwbwl i’r oesoedd a ddêl. Bwriadus, meddwn i, am ei bod hi’n amlwg bod D. J. yn llawn sylweddoli arwyddocâd y defnyddiau a gadwai’n warchodol ar hyd y blynyddoedd. Gwelwyd eisoes olygu rhai o lythyrau D. J. a’i ohebwyr, gan roi iddynt statws llenyddol mwy swyddogol, hynny yn Annwyl D. J., ‘Detholiad o’r ohebiaeth rhwng D. J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis 1924-1969’. Lluniodd golygydd y gyfrol honno, Emyr Hywel, draethawd ymchwil swmpus ar D.J., gan olygu nid yn unig y llythyrau a geir yn y gyfrol a nodwyd ond hefyd ddetholion o ddyddiaduron D.J. Mae’r rhain o leiaf mor ddadlennol â’r llythyrau. ‘Dyddiadur Dyn Anonest’ yw’r teitl a roes ar y dyddiaduron hyn am gyfnod, a thystiant i’r modd y mae amgyffred anonestrwydd anochel yr hunan yn gam tuag at ei gywiro. Mae i’r llythyrau a’r dyddiaduron swyddogaeth ddeublyg, felly, fel ffynonellau bywgraffyddol ac fel testunau llenyddol.