Diwrnod arall yn Aberystwyth ddoe yn darllen papur Abergwaun The County Echo. Darllen 1923-5 ar feicroffilm gan nodi'r pethau y bydd angen copi ohonynt. Athro yn yr Ysgol Uwchradd oedd D. J. , ond yn ddiwyd iawn tu fa's i oriau gwaith. Ef oedd ysgrifennydd Cymrodorion Abergwaun, yn trefnu darlithoedd ac yn anfon newyddion ac adroddiadau i'r papur lleol; ymhlith y siaradwyr yr oedd gwŷr y daeth dan eu dylanwad yn ystod y blynyddoedd hyn, Ambrose Bebb, George M. Ll. Davies a Saunders Lewis. Dyma bwt o adroddiad yr Echo ar ddarlith SL yn Abergwaun, 16 Ionawr 1925: 'Testun y ddarlith ydoedd "Y Genedl," a barnai llawer a'i clywodd mai dyma un o'r pethau goreu ymhlith llawer o anerchiadau godidog ereill, a gawsom eto yng Nghymrodorion Abergwaun. Dyma'n ddiau un o'r meddylwyr mwyaf meistrolgar a mwyaf di ofn ei farn yng Nghymru heddyw. Os ca efe fywyd ac iechyd diau y gedy ei ôl ar feddwl a llên yr oes hon'.
Roedd y Cymrodorion hefyd yn llwyfannu drama flynyddol (Maesymeillion ac Y Bobl Fach Ddu e.e.), rhan fach o symudiad dramatig afieithus y cyfnod yng Nghymru, D. J. yn trefnu, weithiau'n cynhyrchu.
Roedd e hefyd yn greadur gwleidyddol; a'r cyfrwng i'w weithgarwch ar ôl dod i Abergwaun yn 1919 oedd y Blaid Lafur. Fel ei gyfaill iau Waldo Williams roedd yn gefnogwr cryf i Willie Jenkins,yr ymgeisydd Llafur mewn mwy nag un etholiad yn ystod y blynyddoedd hyn. Wedi'i ddadrithio yn ei gartref 'naturiol' yn y Blaid Ryddfrydol, a gan Lloyd George yn neilltuol, bu'n dal swyddi yn y Blaid Lafur ac yn siarad yn ei chyfarfodydd. Byddaf yn ceisio olrhain ei symudiad tuag at fod yn un o aelodau sylfaen y Blaid Genedlaethol yn 1925 (mae ysgrif allweddol ganddo yn esbonio'i safbwynt yn The Llanelli Labour News yn 1925). Deuthum ar draws dwy ysgrif wleidyddol na wyddwn am eu bodolaeth yn yr Echo, ac fe'u hychwanegais gyda manion eraill at gyhoeddiadau D. J.
Pontgynon
Rhaid ceisio ymddisgyblu wrth ddarllen hen bapurau, a pheidio â chanlyn pob sgwarnog sy'n codi. Ond anodd cadw dyn rhag mynd ar ôl ei dylwyth. Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Echo at ardal Brynberian a Ffynnongroes ac yn arbennig at gwrdd cystadleuol yng nghapel Pontgynon yn mynd i afael ynof. Un o Rysiaid Pontgynon ydwyf i o ran fy ngwreiddiau. (Y ffarm a roes ei enw i'r capel.) Symudodd fy hen dadcu, Dan Rees, mab ifancaf James Rees Pontgynon, i ffermio Llain Fawr ger Eglwyswrw. Roedd ei fab, John Rees (Wncwl Joni, nad wyf yn ei gofio) yn gydfuddugol yng nghystadleuaeth yr ysgrif yng Nghyfarfod Cystadleuol Pontgynon yn 1921, ac roedd Reesiaid Pontgynon yn amlwg yn y trefnu a'r cystadlu yn ystod y blynyddoedd hyn. O fawr ddim diddordeb i chi mae'n siŵr, ond cyfareddol i mi!